1Yna y breuddwydiais, ac wele fe a ddaeth i fynu eryr o’r môr, i’r hwn yr ydoedd deuddeng hascell bluog a thri phen.
2Ac mi a edrychais, ac efe a ledodd ei escill dros yr holl ddaiar, a holl wynt yr awyr a chwythodd arno ef, ac ymgasclasant yng-hŷd.
3Ac edrychais, ac allan oi adenydd ef y tyfodd adenydd eraill yn y gwrthwyneb, a’r rhai hynny oeddynt adenydd bychain a mân.
4Ond y pennau ni sylfasant, a’r pen yr hwn oedd yn y canol ydoedd fwy na’r llaill, er hynny efe a arhosodd gyd â hwynt.
5Heb law hynny, gwelais yr eryr yn ehedeg âi adenydd, ac yn teyrnasu ar y ddaiar, ac ar bawb a’r oedd yn trigo ar y ddaiar.
6A gwelais bob peth tann y nef yn vfuddhau iddo ef, ac nid oedd neb yn dywedyd yn ei erbyn ef, nac oedd vn creadur ar y ddaiar.
7A gwelais hefyd yr eryr yn sefyll ar ei ewinedd, ac a leisiodd ai adenydd gan ddywedyd,
8Na wiliwch bawb ar vn-waith, cysced pawb yn ei lê ei hun, a gwiliwch mewn cwrs.
9A chadwer y pennau hyd yn ddiweddaf.
10Er hynny, gwelais nad aethe y lleferydd allan oi bennau ef, ond o ganol ei gorph ef.
11A rhifais ei adenydd gwrthwyneb ef, ac wele, yr oedd ŵyth o honynt.
12Ac edrychais, ac wele, o’r tu dehau y cododd vn aden, a honno a deyrnasodd dros yr holl ddaiar.
13Ac felly y digwyddodd, pan deyrnasodd, y daeth diwedd iddi, ai lle ni’s gwelwyd mwy: felly ’r ail a safodd ac a deyrnasodd, ac a gafodd amser hir.
14A digwyddodd pan deyrnasodd y daeth diwedd iddi fel i’r gyntaf, fel na’s gwelwyd mwy.
15Yna y daeth lleferydd atto ef gan ddywedyd,
16Gwrando tydi yr hwn a gedwaist y ddaiar cyhyd o amser, hyn a ddywedaf wrthit ti, cyn dechreu o honot fod heb ymddangos mwy.
17Ni chaiff neb yn dy ôl di ddyfod i’th amser di, nac iw hanner.
18Yna y cododd y drydedd, ac a deyrnasodd fel y llaill o’r blaen, ac nid ymddangosodd hithe mwy.
19Ac felly y gwnaeth y llaill, y naill yn ôl ei gilydd, fel y teyrnasodd pob vn, ac nid ymddangosasant mwy.
20Yna ’r edrychais, ac wele mewn ennyd o amser, yr adenydd eraill a safasant o’r tu dehau, fel y gallent hwy deyrnasu hefyd, a rhai o honynt a lywodraethasant: ond o fewn ychydig o amser nid ymddangosasant mwy.
21Canys rhai o honynt, a osodwyd i fynu, ac ni’s rheolasant.
22Ac wedi hynny edrychais, ac wele, y deuddeng haden nid ymddangosasant mwy, na’r ddwy ascell.
23Ac nid oedd mwy ar gorph yr eryr ond dau benn, a chwech ascell.
24A gwelais hefyd ddwy ascell wedi ymddidoli oddi wrth y chwech, ac yn aros dann y penn yr hwnn oedd o’r tu dehau: canys pedair a arhosasent yn eu lle.
25Edrychais, ac wele yr adenydd y rhai oeddynt tann yr ascell, a amcanasant eu gosod eu hun i fynu, ac i reoli.
26Yna y gosodwyd vn i fynu, ond ar fyrder nid ymddangosodd mwy.
27A’r ail a aeth ymmaith yn gynt na’r gyntaf.
28Ac edrychais, wele, y ddwy a’r oedd yn aros a amcanasant reoli hefyd.
29A thra ’r oeddynt yn meddwl hynny, deffrodd vn o’r ddau ben a’r a oedd yn cyscu, (sef) yr hwn oedd yn y canol, canys mwy oedd hwnnw nag yr vn o’r ddau eraill.
30Ac yna gwelais fod y ddau ben wedi myned yn vn ag ef.
31A’r penn hwnnw a drôdd at y pennau oedd gyd ag ef, ac a fwyttâdd y ddwy ascell isaf, y rhai a fynnasent deyrnasu.
32Ond y penn hwnn a ddychrynodd yr holl ddaiar, ac a lywodraethodd ar bawb a’r oedd yn trigo ar y ddaiar drwy boen fawr: ac efe oedd yn rheoli yr holl fŷd, yn fwy na’r adenydd eraill a fuase.
33Ac wedi hynny edrychais, ac wele, y pēn yr hwn oedd yn y canol, yn ddisymmwth nid ymddangosodd mwy fel yr escill.
34Ond y ddau benn, y rhai oeddynt yn rheoli y ddaiar, a phob peth a’r oedd y trigo arni a arhosasant.
35Edrychais, ac wele, y penn oedd o’r tu dehau a ddifethodd y pennn oedd o’r tu asswy.
36Yna y clywais lef yn dywedyd wrthif, edrych o’th flaen, a dal sulw ar y peth yr wyt yn ei weled.
37Yna y gwelais, wele megis llew rhuadwy yn rhedeg ar frys allā o’r coed: a gwelais ef yn llefaru fel gŵr wrth yr eryr, gan ddywedyd,
38Gwrando, mi a ymddiddanaf â thi: a’r Goruchaf a ddywed wrthic.
39Onid tydi a gafodd yr oruchafiaeth ar y pedwar anifail, y rhai a wneuthum i lywodraethu ar yr holl fŷd, fel y dele diwedd yr amser trwyddynt hwy:
40A’r pedwerydd a ddaeth, ac a orchfygodd yr holl anifeliaid eraill o’r blaen, ac a gafodd allu ar y byd drwy ofn mawr, a thros holl derfynau y ddaiar trwy flinder o’r gwaethaf, a chŷd â hynny y presswyliodd efe ar y ddaiar yn ddichelgar.
41Canys ni fernaist y ddaiar mewn gwirionedd.
42Canys blinaist y gostyngedic, briwaist yr heddychol, ceraist gelwydd-wŷr, difethaist drigfaon y rhai oeddynt yn dwyn ffrwyth, bwriaist i lawr fagwyr y rhai ni wnaethent niwed i ti.
43Am hynny y daeth dy drawsineb i fynu at y Goruchaf, a’th falchder at y Galluog.
44Y Goruchaf hefyd a edrychodd ar yr amserodd beilchion, ac wele hwy a ddarfuant, ai ffreidd-dra a gyflawnwyd.
45Ac am hynny nac ymddangos mwy tydi eryr, a’th escill ffiaidd, a’th adenydd escymyn, a’th bennau anraslon, a’th ewinedd gwaethaf, a’th holl gorph ofer
46Fel y gallo yr holl ddaiar ddadflino, pan ddiango oddi wrth dy nerth di, ac fel y gallo obeithio barn a thrugaredd gan yr hwn ai gwnaeth hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.