1Nessewch genhedloedd i glywed, a gwrandewch bobloedd: gwrandawed y ddaiar ac y sydd ynddi, y byd ai holl gnwd.
2Canys llidiawgrwydd yr Arglwydd sydd yn erbyn yr holl genhedloedd, ai sorriant yn erbyn eu holl lû hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i’r lladdedigaeth.
3Ai lladdedigion a fwrir allan, a drewiant eu celanedd a gyfyd i fynu, y mynyddoedd hefyd a ffrydiant oi gwaed hwynt.
4Holl lu y nefoedd hefyd a doddant, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: ai holl lu a syrth, fel y syrthie deilen o’r win-wydden, ac fel y syrthie hi o’r ffigus-bren.
5Canys fyng-hleddyf a drochir yn y nefoedd, wele ar Edom y descyn i farn, ac ar y bobl y rhai a escymmunais.
6Cleddyf yr Arglwydd a lawnwyd o waed, tewhaodd o fraster, o waed ŵyn a bychod, o fraster arennau hyrddod: canys i’r Arglwydd aberth yn Bozra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.
7Yna y descyn yr vnicorniaid gyd â hwynt, a’r bustych gyd a’r teirw; ai tir hwynt a feddwa oi gwaed hwynt, ai llwch fydd tew o fraster.
8Canys diwrnod dialeddiad yr Arglwydd, blwyddyn taledigaeth yn achos Sion
9Yna y troir ei hafonydd hi’n bŷg, ai llwch yn frwmstan, ai daiar yn bŷg lloscedic.
10Nis diffoddir nos na dydd, ei mŵg a ddring byth, o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi, ni cynniwerydd trwyddi byth bythoedd.
11Y Pelican hefyd a’r draenoc ai gorescyn, y ddylluan a’r gigfran a drigant ynddi, ac efe a estyn arni linin afluniaidd-dra, a meini gwagedd.
12Ei phendefigion a alwant, ac nid oes yno frenhiniaeth, ai holl dywysogion hi ydynt ddiddym.
13Cyfyd hefyd ei phalasau ddrain, danadl, ac yscall yn ei cheurydd, a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr estris.
14* Yno yr anifeiliaid gwylltion a’r cathod a ymgyfarfyddant, yr ellill a eilw ar ei gyfaill, yr ŵyll a orphywys yno hefyd, ac a gaiff orphywystra iddi.
15Yno y nŷtha y ddylluan, ac y dodwa, ac y dehôra, ac a gascl yn ei chyscod, y fulturiaid a ymgasclant yno hefyd, pob vn at ei gymmar.
16Cesiwch o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch, ni phalla vn o hyn, ni bydd vn yn eisieu i’r llall, canys ei enau ef a orchymynnodd, ai yspryd ef ai casclodd hwynt.
17Efe hefyd a fwriodd y coel-bren iddynt, ai law ef ai rhannodd hi iddynt wrth linin: meddiannant hi hyd byth, a phresswyliant hi o genhedlaeth i genhedlaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
