Gweithredoedd yr Apostolion 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Ymryson yng-hylch enwaediad, 35. Pabl a Barnabas yn pregethu yn Antiochia, 39. Paul a Barnabas yn ymadel.

1Yna y daeth rhai i wared o Iudæa, ac a ddyscasant y brodyr onid enwaedir chwi yn ôl deddf Moses, ni ellwch fod yn gadwedic.

2A phan ydoedd ymryson a oedlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn hwy, fe gytunwyd fyned o Paul a Barnabas, ac eraill o honynt hwy i fynu i Ierusalem at yr Apostolion a’r henuriaid yng-hylch y cwestiwn ymma.

3Yna wedi eu danfon hwy ymmaith gan yr eglwys, teithiasant trwy Phænice a Samaria gan fynegu troad y cenhedloedd: ac hwy a wnaethant lawenydd mawr i’r brodyr oll.

4A phan ddaethant i Ierusalem, â’u derbyn gan yr eglwys, a’r Apostolion, a’r henuriaid, hwy a adroddâsant y pethau oll a wnaethe Duw trwyddynt hwy.

5Ond fe gyfododd rhai o sect y Pharisæaid yr rhai oeddynt yn credu, gan ddywedyd: mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.

6Yna y daeth yr Apostolion a’r henuriaid i edrych ar yr ymadrodd hwn.

7Ac wedi bod ymddadlau mawr, y cyfododd Petr, ac y dywedodd wrthynt, Pen.10.20.ha-wŷr frodyr, chwi a ŵyddoch ddarfod i Dduw er ys talm yn ein plith ni fy ethol i, fel y cae y cenhedloedd drwy fyng-enau i glywed gair yr Efengyl, a chredu.

8A Duw adnabydd-ŵr calon, a destiolaethodd gyd â hwynt gan roddi iddynt yr Yspryd glan fel i ninnau.

9Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniad rhyngom ni ag hwynt, gan iddo Pen.10.45.|ACT 10:45. 1.Cor.1.2. Math.23.4. trwy ffydd lanhau eu calonnau hwynt.

10Ac yn awr pa ham yr ydych chwi yn temtio Duw, gan ddodi iau ar warrau y discyblion, yr hon ni allodd na’n tadau, na ninnau ei dwyn?

11Eithr credu yr ydym, trwy râs yr Arglwydd Iesu Grist ein bod ni yn gadwedic fel hwythau.

12Yna y distawodd yr holl dyrfa, ac y gwrandawsant Barnabas, a Phaul yn mynegu pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethe Duw ym mhlith y cenhedloedd trwyddynt hwy

13Ac wedi iddynt ostegu, attebodd Iaco a dywedodd: ha-wŷr frodyr gwrandewch fi.

14Mynegodd Simon i chwi pa wedd yr ymwelodd Duw gyntaf, i gymmeryd pobl iw enw ef o’r cenhedloedd.

15Ac â hyn y cyduna geiriau y prophwydi: megis y mae yn scrifenedic:

16 Amos.9.11. Yn ôl hyn y dychwelaf, ac yr adnewyddaf Tabernacl Dafydd yr hwn a syrthiase, ac a gyweiriaf ei adwyau, ac ai cyfodaf ail-waith.

17Fel y ceisio dynion eraill yr Arglwydd a’r holl genhedloedd ar ba rai y galwyd fy enw, medd yr Arglwydd yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn.

18Yspys i Dduw yw ei weithredoedd oll, er cyn yr oesoedd.

19O herwydd paham, yr ydwyfi yn barnu na ddylid cyffroi y rhai o’r cenhedloedd a droasant at Dduw:

20Eithr scrifennu o honom ni attynt ar ymgadw o honynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, a’r peth a dagwyd, a gwaed.

21Canys y mae i Moses ym mhob dinas, er yr hen amseroedd rhai a’r pregethant ef, yn y Synagogau y darllennir ef bob Sabboth.

22Yna y gwelodd yr Apostolion yn dda a’r henuriaid, yng-hyd a’r holl eglwys anfon gwyr etholedic o honynt i Antiochia gyd â Phaul a Barnabas, Iudas a gyfenwir Barsabas, a Silas, y gwŷr rhagoraf ym mysc y brodyr:

23Gan scrifennu gyd â hwynt fel hyn, yr Apostolion a’r henuriaid a’r brodyr, at y brodyr y rhai sy o’r cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia yn danfon annerch.

24Yn gymmaint a chlywed o honom ni i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich cyffroi chwi â geiriau, gan rwystro eich meddyliau, a dywedyd: rhaid i chwi eich enwaedu a chadw y ddeddf, i’r rhai ni orchymynnasem ni

25Ni a welsom yn dda wedi i ni ymgasclu yng-hyd, anfon trwy gytundeb attoch wŷr etholedic gyd â’n hannwyl Barnabas a Phaul:

26Gwŷr a roesant eu bywyd er mwyn enw ein Harglwydd Iesu Grist.

27Ni a anfonasom Iudas a Silas y rhai a fynegant i chwi yr vn rhyw bethau ar eu leferydd.

28Canys gwelwyd yn dda i’r Yspryd glân a ninnau, na ddodem arnoch faich amgenach na’r pethau angenrheidiol hyn.

29Bod i chwi ymgadw oddi wrth y pethau a offrymmir i ddelwau, a gwaed, a’r peth a dagwyd, a godineb, oddi wrth y pethau hyn, os chwi a ymgedwch, da y gwnewch: byddwch iach.

30Ac wedi eu gollwng ymmaith, y daethant i Antiochia, ac yn ôl cael y dyrfa yng-hyd, hwy a roesant y llythyr

31Ac wedi iddynt ddarllen, llawenychu a wnaethant am y cyngor.

32Iudas hefyd a Silas y rhai oeddynt hwythau yn brophwydi, ai cynghorasant a llawer o ymadrodd, ac a gadarnhâsant y brodyr.

33Ac wedi iddynt aros yno ennyd o amser, hwy a ollyngwyd mewn heddwch gan y brodyr at yr Apostolion.

34Er hynny Silas a welodd yn dda aros

35A Phaul a Barnabas a arhoesant yn Antiochia, gan ddyscu, ac efengylu gair yr Arglwydd gyd â lliaws eraill.

36Gwedi ennyd o ddyddiau y dywedodd Paul wrth Barnabas, dychwelwn, ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas yn y rhai y pregethasom air yr Arglwydd pa fodd y maent hwy.

37A Barnabas a gynghorodd gymmeryd gyd â hwynt Ioan yr hwn a elwir Marcus.

38Ond ni wele Paul yn addas ei gymmeryd ef yn eu cymdeithas, yr hwn a dynnase oddi wrthynt o Pamphilia, ac nid aethe gyd â hwynt i’r gwaith.

39Ac yna yr aeth cymmaint o ddigter rhyngddynt hyd oni ymadawodd y naill â’r llall, a Barnabas a gymmerth Marcus gydag ef, ac a foriodd i Cyprus.

40Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymmaith wedi ei orchymyn o’r brodyr i râs Duw.

41Ac efe a drāmwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau yr eglwys.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help