1Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd yn y ddecfed flwyddyn i Sedecia brenin Iuda: honno y ddeu-nawfed flwyddyn i Nabuchodonosor.
2A’r pryd hynny yr oedd llu brenin Babilon yn gwarche ar Ierusalem, ac Ieremi y prophwyd ydoedd yn garcharor yng-hyntedd y carchar yr hwn yn nhŷ brenin Iuda.
3Lle y carcharase Sedecia brenin Iuda ef gan ddywedyd, pa ham y prophwydaist ti gan ddywedyd, fel hynn y dywedodd yr Arglwydd wele mi a roddaf y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe ai hennill hi.
4 Iere.26.16.|JER 26:16. Iere.34.2 Ac ni ddiangc Sedecia brenin Iuda o law y Caldeaid, canys diau y rhoddir ef i law brenin Babilon, ac efe a ymddiddan ag ef wyneb yn wyneb, ac a edrych ŵydd yng-ŵydd.
5Ac efe ai harwain ef Sedecia i Babilon, ac yno y bydd efe hyd oni Iere.34.4.ymwelwyfi ag ef medd yr Arglwydd: er i chwi ymladd a’r Caldeaid ni ffynnwch.
6Ac Ieremi a lefarodd, gair yr Arglwydd a ddaeth attafi gan ddywedyd:
7Wele Hanameel fab Salum dy ewythr frawd dy dâd yn dyfod attat gan ddywedyd, pryn i ti fy maes yr hwn yn Anathoth Ruth.4.4.o blegit i ti cyfiawnder o garennydd iw brynu.
8Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhâd a ddaeth attafi i gyntedd y carchardŷ yn ôl gair yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrthif: pryn atolwg fy maes yr hwn yn Anathoth, yr hon Lefit.25.32.yn nhîr Beniamin, canys i ti cyfiawnder o etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng, pryn i ti: yna y gwybum mai gair yr Arglwydd hwn.
9Ac mi a brynais y maes yr hwn oedd yn Anathoth gan Hanameel fab fy ewythr frawd fy nhâd, ac mi a bwysais iddo effaith sicl o arian a dêc o arian.
10Ac mi a scrifennais mewn llyfr, ac ai seliais: cymmerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriannau.
11Yna mi a gymmerais lyfr y prynniad wedi ei selio gyfraith a defod, ac yn agored.
12Ac mi a roddais lyfr y prynedigaeth at Baruc fab Nereiah, fab Maasiah yng-wydd Hanameel fy ewythr, ac yng-wydd y tystion y rhai a scrifennasid yn llyfr y prynedigaeth, yng-wydd yr holl Iddewon y rhai oeddynt yn eistedd yng-hyntedd y carchar-dŷ.
13Ac mi a orchymynnais i Baruc yn eu gwydd hwynt gan ddywedyd:
14Fel hynn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel, cymmer y llyfrau hynn y llyfr hwn o brynedigaeth, yr hwn sydd seliedic, a’r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd fel yr arhôant ddyddiau lawer.
15O herwydd fel hynn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel: hwynt a brynant etto dai a meusydd, a gwinllannoedd yn y wlad hon.
16Ac wedi i mi roddi llyfr y prynedigaeth at Baruc fab Neriah, myfi a weddiais ar yr Arglwydd gan ddywedyd,
17Arglwydd Dduw wele ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaiar, â’th fawr allu, ac a’th fraich estynnedic, nid oes dim cuddiedic rhagot ti.
18[Yr hwn] wyt Exod.34.7. Deut.5.9.yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fonwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr cadarn, Arglwydd y lluoedd ei enw ef.
19Mawr o gyngor, a rhagorol o weithred canys dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob vn yn ôl ei lwybr, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd ei hun.
20Yr hwn a osodaist arwyddion, a rhyfeddodau yng-wlad yr Aipht hyd y dydd hwn, ac ar Israel, ac ar ddynion eraill: ac a wnaethost i ti henw megis heddyw,
21Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dîr yr Aipht, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, ac mewn llaw gref, a braich estynnedic ac ag ofn mawr.
22Ac a roddaist iddynt y wlâd ymma, yr hon a dyngaist ti wrth eu tadau hwynt y rhoddit ti iddynt gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
23A hwynt a ddaethant i mewn, ac ai hetifeddasant hi, ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith, ni wnaethant yr hyn oll ar a orchymynnaist iddynt: am hynny y peraist i’r holl niwed hynn ddigwyddo iddynt.
24Wele y peiriannau rhifel a ddaethant i’r ddinas iw gorescyn hi, a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid y rhai ydynt yn ymladd yn ei herbyn â mîn y cleddyf, â newyn, ac â haint: a’r hynn a ddywedaist ti a gwplhauwyd, ac wele di yn weled.
25Ac ti a ddywedaist wrthif ô Arglwydd Dduw, pryn i ti y maes ag arian, a chymmer dystion: er bod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid.
26Yna y daeth gair yr Arglwydd at Ieremi gan ddywedyd:
27Wele myfi Arglwydd Dduw pob cnawd, a guddir dim oddi wrthifi?
28Am hynny fel hynn y dywed yr Arglwydd, wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nabuchodonosor brenin Babilon, ac efe ai hennill hi.
29A’r Caldeaid a ddeuant ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac ai lloscant hi a’r tai y rhai yr arogl-darthwyd ar eu pennau i Baal, ac y tywalltwyd diod offrwm i dduwiau dieithr i’m diglloni fi.
30O blegit meibion Israel, a meibion Iuda oeddynt yn gwneuthur yn ddiau yr hynn oedd ddrwg yn fyng-olwg i oi mebyd: o herwydd meibion Israel oeddynt yn ddiau yn fy niglloni fi â gweithredoedd eu dwylo.
31Canys i’m digofaint, ac i’m llid y bu y ddinas hon er y dydd yr adailadasant hi, hyd y dydd hwn, i beri ei symmud oddi ger fy mron.
32Am holl ddrygioni meibion Israel, a meibion Iuda y rhai a wnaethant i’m diglloni fi hwyntwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, ai prophwydi, a gwŷr Iuda, a phresswyl-wŷr Ierusalem:
33[Er i mi eu] dyscu, Dehar.1.24.|PRO 1:24. Iere.7.13.|JER 7:13. Iere.16.7.|JER 16:7. Iere.25.3.gan foreu-godi i roddi addysc etto ni wrandawsant i gymmeryd athrawiaeth, eithr troesant attaf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau.
34Gosodasant hefyd eu heulynnod yn y tŷ (yr hwn y gelwir fy enw arno) iw halogi ef.
35A hwynt a adailadasant vchelfeudd Baal y rhai ydynt yn nyffryn meibion Hinnomi beri iw meibion, ai merched fyned trwy i Moloch, yr hynn ni orchymynnaswn i iddynt, ac ni feddyliase fyng-halon am wneuthur y ffieidd-dra hynn i beri i Iuda bechu.
36Ac yn awr am hynny fel hynn y dywed yr Arglwydd Duw Israel am y ddinas hon, yr hon meddwch chwi a roddir i law brenin Babilon trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint,
37Wele Deut.30.3.myfi ai cynhullaf hwynt, o’r holl diroedd (y rhai yn fy nig a’m llid, a’m sorriant mawr y bwriais hwynt iddynt) i’r lle hwn, ac mi a wnaf iddynt bresswylio yn ddiogel.
38A hwynt a fyddant yn bobl i mi, a minne a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau.
39Ac mi a roddaf iddynt vn galon, ac vn ffordd i’m hofni fi byth, er lles iddynt, ac iw meibion ar eu hôl hwynt.
40Ac mi a wnaf â hwynt gyfammod tragywyddol nid amgen, nad ymadawyfi oddi wrthynt, eithr gan wneuthur llês iddynt mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau fel na chiliant oddi wrthif.
41Ie mi a lawenychaf ynddynt gan wneuthur llês iddynt, ac mi ai plānaf hwynt yn y tîr hwn yn siccr a’m holl galon, ac a’m holl enaid.
42Canys fel hynn y dywed yr Arglwydd, megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl fawr ddrwg hyn: felly y dygafi arnynt yr holl ddaioni, yr hwn a addewais i iddynt.
43A’r meusydd a feddiennir yn y wlad ymma yr hon yr ydych chwi yn dywedyd: anghyfannedd hi heb ddŷn, nac anifail, yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi.
44Meusydd a brynir a’m arian, ac a scrifennir mewn llyfr, ac a seliir, a chymmerir tystion yn nhîr Beniamin, ac o amgylch Ierusalem, ac yn ninasoedd Iuda, ac yn ninasoedd y mynydd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.