1Yna’r 12.Esdr.6.21.(sic.)brenin Darius a osododd orchymyn ar geisio o honynt hwy yn nhŷ y llyfrau, tryssorau cadwedic yn Babilon.
2A chafwyd mewn cîst yn y llŷs yn nhalaith Media ryw lyfr, ac fel hyn yr scrifennasid ynddo yn goffadwriaeth.
3Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn, adailadu tŷ Dduw o fewn Ierusalem, yn y fangre lle yr aberthent aberthau, a chyfodi ei sylfaenau yn dri vgain cufydd eu huchter, yn dri vgain cufydd eu llêd.
4Yn dair rhês o feini mawr, a rhês o goed newydd, a’r draul a roddir o dŷ’r brenin.
5A llestri tŷ Dduw hefyd yn aur, ac yn arian, y rhai a ddûg Nabuchodonosor o’r deml yn Ierusalem, ac a ddûg efe i Babilon, a roddir i fyned adref i’r deml yn Ierusalem, ac iw dwyn llê i dŷ Dduw.
6Yn awr Thathanai tywysog tu hwnt i’r afon, Sethar-buzani a’ch cyfeillion y Persiaid y rhai o’r tu hwnt i’r afon ciliwch oddi yno.
7Gadewch waith tŷ Dduw hwn, adailaded tywysogion, ac henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn Dduw yn ei lê ei hun.
8Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn, wrth adailadu tŷ Dduw hwn, mai o gyfoeth y brenin, sef o’r deyrn-ged o’r tu hwnt i’r afon y rhoddir traul i’r gwŷr hynny fel na pheidio
9A’r hyn angen-rheidiol i boeth offrymmau Duw y nefoedd yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn ŷd, yn hâlen, yn win, ac yn olew: yn ôl yr hyn a ddywedo’r offeiriaid y rhai yn Ierusalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddibaid:
10Fel yr offrymmant aroglau peraidd i Dduw’r nefoedd, ac y gweddiant tros ennioes y brenin, ai feibion.
11Gosodais hefyd orchymyn, mai pa ddyn bynnac a newidio y gair hwn, y tynnir pren oi dŷ ef, ac y gosodir ef i sefyll: ar hwnnw y difethir ef, ac mai yn dommen y bydd ei dy ef am hynny.
12A Duw yr hwn a wnaeth iw enw bresswylio yno, a ddinistrio bob brenin, a phobl yr hwn a estynno ei law i newidio, i lygru y tŷ hwn eiddo Duw yn Ierusalem: myfi Darius a osodais y gorchymyn, gwneler ef yn ebrwydd.
13Yna 2.Esdr.7.1.Thathanai tywysog tu hwynt i’r afon, Setharbuzani ai cyfeillion, megis yr anfonodd brenin Darius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.
14A henuriaid yr Iddewon a adailadasant, ac a lwyddasant, drwy brophwydoliaeth Aggeus y prophwyd, a Zacharias fab Ido: îe adailasant, a sylfaenasant wrth orchymyn Duw Israel, ac wrth orchymyn Cyrus, a Darius, ac Artaxerxes brenin Persia.
15A’r tŷ hwn a orphennwyd erbyn y trydydd dydd o fîs Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Darius.
16Yna meibion Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r rhan arall o feibion y gaeth-glud a gyssegrasant y tŷ hwn o eiddo Duw mewn llawenydd.
17Ac a offrymmasant wrth gyssegru y tŷ hwn eiddo Dduw, gant o ŷchen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddec o fychod geifr yn bech aberth tros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.
18Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosparthiadau, a’r Lefiaid yn eu dosparthiadau hwythau ar waith Duw yn Ierusalem, yn ôl scrifen Num.3.6. & 8.9.llyfr Moses.
19Meibion y gaeth-glud a gadwasant hefyd y Pasc, ar y pedwerydd ar ddêc o’r mîs cyntaf.
20Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gydtun, yn lân hwynt oll: ac a aberthasant y Pasc tros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hun.
21Yna meibion Israel y rhai a ddychwelasent o’r gaeth-glud, a phob vn a ymnailltuase oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlâd attynt hwy gan geisio Arglwydd Dduw’r Israel, a fwyttâsant,
22Ac a gadwasant ŵyl y bara croiw saith niwrnod mewn llawenydd, canys yr Arglwydd ai llawenhause hwynt, ac a droese galon brenin Assyria attynt hwy, iw cynnorthwyo hwynt yng-waith tŷ Dduw, Duw Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.