1Yn yr Arglwydd yr ydwyf yn ymddiried, pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, eheda i’ch mynydd aderyn?
2Canys wele y drygionus a anelâsant fŵa, paratoâsant eu saetheu tu a’r llinin, i saethu mewn ddirgelwch y rhai iniawn o galon.
3Canys y seiliau a ddinistriwyd: pa beth a wnaeth y cyfiawn?
4Yr Arglwydd yn Nheml ei sancteiddrwydd, gorseddfa yr Arglwydd yn y nefoedd, y mae ei lygaid ef yn gweled ei amrantau yn chwilio meibion dynnion.
5Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr câs gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo anwiredd.
6Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân, a brwmstan, a gwynt ystormus Ezec.23.31.rhan eu phiol hwy.
7Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ai wyneb a genfydd y rhai iniawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
