Exodus 28 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVIII.Gwisc Aaron, ai feibion.

1A chymmer di Aaron dy frawd attat, ai feibion gyd ag ef o blith meibion Israel i offeiriadu i mi: Aaron, Nadab, ac Abihu, Eleazar ac Ithamar meibion Aaron.

2Gwna hefyd wiscoedd sanctaidd i Aaron dy frawd: er gogoniant a harddwch.

3A dywet wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag yspryd doethineb: am wneuthur o honynt ddillad Aaron iw sancteiddio ef i offeiriadu i mi.

4Ac dymma y gwiscoedd y rhai a wnant, dwyfronnec, ac Ephod, mantell hefyd, a phais o waith edef a nodwydd, meitr a gwregys: felly y gwnant wiscoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac iw feibion i offeiriadu i mi.

5Cymmerant gan hynny aur, a sidan glâs, a phorphor: ac scarlat, a sidan gwynn.

6A gwnant yr Ephod o aur, sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd o waith cywraint.

7Dwy yscwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwrr, fel y cydier hi yng-hyd.

8A gwregys ei Ephod ef yr hwn fydd arno sydd o honi hi, yn vn waith a hi; o aur, sidan glâs, a phorphor, scarlat hefyd, a sidan gwynn cyfrodedd.

9Cymmer hefyd ddau faen Onix, a nadd ynddynt enwau meibion Israel.

10Chwech o henwau ar y maen cyntaf: a’r chwe henw arall ar yr ail maen yn ol eu ganedigaeth.

11Ar waith saer maen fel naddu sêl y neddi di y ddau faen yn ol henwau meibion Israel: gwna hwynt o boglynnau o aur oi hamgylch.

12A gosot y ddau faen ar ysgwyddau yr Ephod yn feini coffadwriaeth i feibion Israel: canys Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bron yr Arglwydd ar ei ddwy yscwydd yn goffadwriaeth.

13Gwna hefyd foglynnau aur.

14A dwy gadwyn gyd-terfynol o aur coeth, o blethwaith y gwnei hwynt: a dod y cadwynau plethedic wrth y boglynnau.

15Gwna hefyd ddwyfronec barnedigaeth o waith cywraint, ar waith yr Ephod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwyn cyfrodedd y gwnei hi.

16Pedeir ongl fydd hi dau ddyblyg: yn rhychwant ei hŷd, ac yn rhychwant ei llêd.

17Llawna hi yn llawn o feini pedair rhês o feini: rhês o Sardius, a Thopas, a Smaragdus fydd y rhês gyntaf.

18A’r ail rhês Rubi, Saphir, ac Adamant.

19A’r drydedd rhês Lyncur, ac Achat, ac Amethyst.

20Y bedwaredd rhês Turcas, ac Onix, ac Iaspis: byddant wedi eu gwisco mewn aur yn eu lleoedd.

21A’r meini fyddant yn ol henwau meibion Israel, yn ddeuddec yn ol eu henwau hwynt: o naddiad sêl, bob vn wrth ei henw y byddant i’r deuddec llwyth.

22A gwna ar y ddwyfronec gadwynau cyd-terfynol yn bleth waith o aur coeth.

23Gwna hefyd ar y ddwyfronec ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwrr y ddwyfronec.

24A dod y ddwy (gadwyn) blethedic, o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronnec.

25A dod ddau pen y ddwy gadwyn wrth y ddau foglyn: a dod ar yscwyddau yr Ephod o’r tu blaen.

26Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur a gosot hwynt wrth ddau gwrr y ddwyfronnec: o’r tu mewn ar yr ymmyl ar ystlys yr Ephod.

27A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr Ephod oddi tanodd, oi thu blaen ar gyfer ei chydiad oddi ar wregys yr Ephod.

28A’r ddwyfronnec a rwymant ai modrwyau wrth fodrwyau’r Ephod a llinin o sidan glâs, i fod ar wregys yr Ephod: fell na ddatoder y ddwyfronnec oddi wrth yr Ephod.

29A dyged Aaron yn nwyfronnec y farnedigaeth henwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cyssegr: yn goffadwriaeth ger bron yr Arglwydd yn oestadol.

30A dod ar ddwyfronnec y farnedigaeth yr Urim a Thummim i fod ar galon Aaron pan ddelo ger bron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, ger bron yr Arglwydd yn oestadol.

31Gwna hefyd fantell yr Ephod oll o sidan glâs.

32A byddedd twll ei benn ef yn ei chanol: bydded eirionyn iw choler o amgylch o wauad-waith, megis coler lluric fydd iddi rhac rhwygo.

33A gwna ar ei godre hi pomgranadau o sidan glâs, a phorphor, ac scarlat ar ei godrau o amgylch: a chlychau o aur rhyngddynt o amgylch.

34 Pregeth.45.10. Clôch aur, a phom-granad chlôch aur a phom-granad ar odre y fantell o amgylch.

35A hi a fydd am Aaron wrth weini: fel y clywer ei swn ef pan ddelo i’r cyssegr, ger bron yr Arglwydd, a phan elo allan, fel na byddo farw.

36Gwna hefyd ddalen o aur coeth: a nadd di arni fel naddiadau sêl, Sancteiddrwydd i’r Arglwydd.

37A gosot hi wrth linin o sidan glâs, a bydded ar y meitr: o’r tu blaen i’r meitr y bydd.

38A hi a fydd ar dalcen Aaron fel y dygo Aaron anwiredd yr offrymmau y rhai a gyssegro meibion Israel oi holl sanctaidd offrymmau hwynt, ac yn oestad y bydd ar dalcen Aaron i iddynt ffafor ger bron yr Arglwydd.

39Gweithia ag edef a nodwydd y bais o sidan gwynn: a gwna feitr o sidan gwyn, a gwregys o wniad-waith.

40I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau: gwna hefyd iddynt gappanau er gogoniant a harddwch.

41A gwisc hwynt am Aaron dy frawd ai feibion gyd ag ef: ac eneinia hwynt, cyssegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt i offeiriadu i mi.

42 Leuit.6.10. Gwna hefyd iddynt lawdrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant.

43A byddant am Aaron, ac am ei feibion pan ddelont i babell y cyfarfod, neu pan ddelont at yr Allor i weini yn y cyssegr, fel na ddygont anwiredd a marw: deddf dragywyddol iddo ef, ac iw hâd ar ei ol ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help