1Attat ti ô Arglwydd y derchafaf fy enaid.
2Fy Nuw, ynot ti’r ymddyriedais, na’m gwradwydder: na lawenyched fyng-elynnion o’m plegit.
3Hefyd pawb a’r a obeithiant ynot ti ni wradwyddir hwynt: gwradwyddir y rhai a drosseddant heb achos.
4Pâr di i mi ŵybod dy ffyrdd ô Arglwydd: dysc i mi dy lwybrau.
5Tywys fi yn dy wirionedd, a dysc fi: canys ti Duw fy iechydwriaeth, ynot y gobeithiais ar hŷd y dydd
6Cofia Arglwydd dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys er ioed hwy.
7Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di am danaf, er mwyn dy ddaioni Arglwydd.
8Dâ ac iniawn yr Arglwydd: o herwydd hynny y dysc efe bechaduriaid yn y ffordd.
9Y rhai difalch a hyffordda efe mewn barn: ai ffordd a ddysc efe i’r rhai gostyngedic.
10Holl lwybrau’r Arglwydd drugaredd, a gwirionedd i’r rhai a gadwant ei gyfammod ai destiolaethau ef.
11Er mwyn dy enw Arglwydd maddeu di fy anwiredd: canys mawr yw.
12Pa ŵr yw efe sy’n ofni yr Arglwydd? efe ai dysc ef yn y ffordd a ddewiso.
13Ei enaid ef a erys mewn daioni: ai hâd a etifedda y ddaiar.
14Dirgelrwydd yr Arglwydd i’r rhai ai hofnant ef: ai gyfammod hefyd iw cyfarwyddo hwynt.
15Fy llygaid yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddŵg fy nhraed allan o’r rhwyd.
16Trô attaf, a thrugarha di wrthif: canys vnic a thlawd ydwyf.
17Gofidion fyng-halon a ymehangasant: dwg fi allan o’m cyfyngdêrau.
18Gwêl fyng-hystudd, a’m helbul: a maddeu di fy holl bechodau.
19Cenfydd fyng-elynnion, canys amlhausant: â chasineb traws hefyd i’m cassausant.
20Cadw fy enaid, ac achub fi: na’m gwradwydder: canys ymddiriedais ynot.
21Cadwed perffeithrwydd, ac iniondeb fi, canys gobeithiais ynot.
22O Dduw gwaret Israel oi holl gyfyngdêrau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
