Genesis 35 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXV.1 Iacob yn myned i Bethel wrth orchymmyn Duw i adailadu allor. 2 Efe yn puto tylwyth ei dy. 5 Duw’n gwneuthur i elynion Iacob ei ofni. 8 Debora mammaeth Rebecca’n marw. 12 Addo gwlad Canaan. 18 Rahel yn marw ar anedigaeth dyn bach. 23 Meibion Iacob. 27 Iacob yn dyfod at ei dâd Isaac. 29 Oes, a marwolaeth Isaac.

1Yna y dywedodd Duw wrth Iacob, cyfot, escyn i Bethel, a thrîg yno, a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti Gene.28.14.pan ffoaist o wydd Esau dy frawd.

2Yna Iacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll gyd ag ef: bwriwch ymmaith y duwiau dieithr, y rhai yn eich plith chwi, ac ymlânhewch, a newidiwch eich gwiscoedd.

3O blegit cyfodwn, ac escynnwn i Bethel, ac yno y gwnaf allor i Dduw yr hwn a’m gwrandawodd yn nŷdd fyng-hystudd, ac a fu gyd a’m fi yn y ffordd, a gerddais.

4Yna y rhoddasant at Iacob yr holl dduwiau dieithr y rhai yn eu llaw hwynt, a’r clust-dlysau, y rhai yn eu clustiau hwynt: ac Iacob ai cuddiodd hwynt, tann y dderwen, yr hon yn ymmyl Sichem.

5Felly y cychwynnasant, ac ofn Duw ar y dinasoedd, y rhai oi hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ol meibion Iacob.

6Ac Iacob a ddaeth i Luz, yng-wlad Canaan, hon Bethel, efe ai holl bobl y rhai gyd ag ef:

7Ac a adailadodd yno allor, ac a henwodd y Gene.28.19.lle El-bethel: o blegit yno yr ymddangosasse Duw iddo ef, pan ffoase efe o wydd ei frawd.

8A marw a wnaeth Debora mammaeth Rebecca, a hi a gladdwyd islaw Bethel dann y dderwen: am hynny y galwyd henw honno Alhon-bachuth.

9Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Iacob pan ddaeth efe o Mesopotamia ac ai bendithiodd ef.

10A Duw a ddywedodd wrtho, dy henw di Iacob, ni Gene.32.28.elwir dy henw di Iacob mwy, onid Israel a fydd dy henw di: galwodd gan hynny ei enw ef Israel.

11Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, myfi Dduw holl-alluog, cynnydda, ac amlhâ: cenedl, a chynnulleidfa cenhedloedd a fydd o honot ti; a brenhinnoedd a ddeuant allan o’th lwynau di,

12A’r wlâd yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th hâd ti ar dy ôl di y rhoddaf y wlâd

13Yna’r escynnodd Duw oddi wrthaw ef yn y fan lle y llefarase efe wrtho ef.

14Ac Iacob a osododd golofn i sefyll yn y fann lle’r ymddiddanase efe ag ef, colofn faen, ac a daenellodd arni ddiod offrwm, ac a dywalltodd olew arni.

15Felly Iacob a alwodd henw y fann lle ’r ymddiddanodd Duw ag ef: Bethel.

16Yna’r aethant ymmaith o Bethel, ac yr oedd etto megis milltir o dîr i ddyfod i Ephrath: yno’r escorodd Rahel, a bu galed wrth escor.

17A darfu pan oedd yn galed wrth escor o honi, i’r fŷdwraig ddywedyd wrthi hi, nac ofna: o blegit llymma hefyd i ti fâb.

18Darfu hefyd wrth fyned oi henaid hi allan, (o blegit marw a wnaeth hi) yna iddi hi alw ei henw ef Benoni: ond ei dâd ai henwodd ef Ben-iamin.

19A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Ephrath: hon Bethlehem.

20Ac Iacob a osododd golofn i sefyll ar ei bedd hi, honno colofn bedd Rahel hyd heddyw.

21Yna Israel a gerddodd, ac a estynnodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal-eder.

22A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlâd honno, yna Ruben a aeth, ac a orweddodd Gene.49.5.gyd a Bilha gordderchwraig ei dâd ef, a chlybu Israel yna meibion Iacob oeddynt ddeu-ddec.

23Meibion Lea, Ruben cyntafanedic Iacob, a Simeon, a Lefi, ac Iuda, ac Isacar, a Zabulon.

24Meibion Rahel, Ioseph a Beniamin.

25A meibion Bilha, llaw-forwyn Rahel: Dan, a Naphthali.

26A meibion Zilpha llaw-forwyn Lea: Gad, ac Aser. Dymma feibion Iacob, y rhai a anwyd iddo ym-Mesopotamia.

27Yna Iacob a ddaeth at Isaac ei dâd ef i Mamre i gaer Arba, hon Hebron, lle’r ymdeithiase Abraham, ac Isaac.

28A dyddiau Isaac gan-mlwydd a phedwar ugain mlwydd.

29Yna Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasclwyd at ei bobl yn hên, ac yn gyflawn o oedran, ai feibion Esau ac Iacob ai claddasant ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help