Tobias 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Tobias yn cael Raphael i gyd ymdeithio i Rages.

1Yna yr attebodd Tobias, ac y dywedodd, fy nhâd, cwbl oll ac a orchymynnaist i mi, mi ai gwnaf:

2Eithr pa fodd y gallaf fi gael yr arian, a minne heb ei adnabod ef:

3Yntef a roddes iddo yr scrifen-law, ac a ddywedodd wrtho, cais i ti ryw vn, yr hwn (tra fyddwyfi yn y byd) a elo gyd â thydi, ac myfi a dalaf ei gyflog iddo ef, ac yna dos a chymmer yr arian.

4Ac efe a aeth i geisio vn ac a gafodd Raphael, yr hwn oedd angel: (yr hyn ni’s gŵyddied efe. )

5Ac efe a ddywedodd wrtho: a elli di fyned gyd â mi i dîr Media: a wyt ti hyfedr ar y gwledydd hynny?

6A’r angel a ddywedodd wrtho, mi a âf gyd â thydi, canys bum yn aros gyd â’n brawd Ga­bael.

7Yna Tobias a ddywedodd wrtho, aros fi oni ddywedwyf i’m tâd.

8Ac efe a ddywedodd wrtho, dos, ac na thrig, ac efe a aeth i mewn, ac a ddywedodd wrth ei dâd, wele mi a gefais vn i fyned gyd â mi: y­na y dywedodd yntef: galw ef attafi, modd y gallwyf ŵybod o ba lwyth y mae efe, a hefyd a ydyw efe ffyddlon i fyned gyd â thi.

9Ac efe a alwodd arno, ac yntef a ddaeth i mewn, ac yna y cyfarchasant ei gilydd:

10A Thobit a ddywedodd wrtho, fy mrawd, dangos i mi o ba lwyth a theulu yr wyt yn dy­fod.

11Ac yntef a ddywedodd wrtho, a wyt ti yn ceisio llwyth neu deulu: ai cyflog-ddyn i fyned gyd a’th fab: A Thobit ai hattebodd ef, mi a ewyllysiwn fy mrawd gael gŵybod dy genedl a’th enw.

12Yntef a ddywedodd, yr ydwyf fi, o genedl Azarias ac Ananais enwoc hwnnw, a’th frawd dithe.

13Yna y dywedodd Tobit, croeso wrthit fy mrawd: na ddigia wrthif am i mi geisio gŵybod y llwyth a’r teulu y daethost o honynt, canys fy mrawd wyt, o dylwyth da dedwyddol: o achos mi a adwaenwn Anaaias ac Ionathas, meibion Samaias enwoc, (am fy mod yn gorymdaith gyd â hwynt i Ierusalem i a­ddoli, gan ddwyn gyd âm ni y cynffrwyth a degwm cynnydd yr anifeliaid) y rhai ni throseddasant yn amryfusedd ein brodyr ni: yr wyt ti o wreiddin da fy mrawd.

14Ond dywet i mi, pa gyflog a roddaf i ti: gred beunydd a chyfreidiau fel i’m mab fy hun

15A hefyd mi a chwanegaf i ti dy gyflog os dychwelwch trachefn yn iach

16Ac felly y cydunasant, yna y dywedodd efe wrth Tobias, ymdrwsia i’r daith a rhwydd­hynt i chwi: ac wedi i’r mab baratoi pob peth i’r daith y dywedodd ei dad wrtho: dos gyd â’r gŵr hwn, a Duw yr hwn sydd ai drigfa yn y nef a lwyddianna eich ffordd chwi: ac eled Angel Duw gyd â chwi, Yna yr aethant ill dau a chî yr llangc gyd â hwynt.

17Eithr Anna ei fann ef a ŵylodd gan ddywedyd wrth Tobit, pa ham yr anfonaist ymmaith ein mab: ond efe yw ein llaw-ffon i fyned i mewn ac allan ger ein bronnau:

18Mi a fynnwn na buase yr arian hynny er ioed: eithr bod gweddill i’n mab.

19O herwydd fel y rhoes yr Arglwydd i ni i fyw, hynny ddigon i ni.

20A Thobit a ddywedodd wrthi: na chymmer ofal fy chwaer, efe a dda yn iach a’th lygaid ti ai gwelant ef.

21Canys yr Angel daionus sydd yn cydym­daith ag ef, ai ffordd ef a lwydda, ac efe a ddaw eilchwael yn iach

22Ac yna hi a beidiodd ac ŵylo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help