1 Gurando fyng-hyfraith, fy mhobl, gostyngwch eich clust at eiriau fyng-enau.
2Agoraf fyng-enau mewn dihareb, thraethaf ddammegion o’r cynfyd.
3Y rhai a glywsom, ac a wybûom, ac a fynêgodd ein tadau i ni.
4Ni chêlwn rhag eu meibion, mynegwn i’r oes nesaf foliant yr Arglwydd ai nerth, ai ryfeddodau, y rhai a wnaeth efe.
5Fel y cyfododd efe destiolaeth yn Iacob, ac y gosododd gyfraith yn Israel: y rhai a orchymynnodd efe i’n tadau eu dyscu iw plant.
6Fel y gwybydde’r oes nesaf, y plant a ênyd, a gyfodent y mynegent iw plant hwythau.
7Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchymynnion ef.
8Ac na byddent fel eu tadau yn genhedlaeth gyndyn, ac annufudd, yn genhedlaeth nid yw iniawn ei chalon, ac nid yw ei hyspryd ffyddlon i Dduw.
9Meibion Ephraim yn arfog yn saethu bŵa, a droesant yn nydd y frwydr.
10Ni chadwâsant gyfammod Duw, eithr gwrthodâsant rodio yn ei gyfraith ef.
11Ac anghofiâsant ei weithredoedd, ai ryfeddodau y rhai a ddangosâse efe iddynt.
12Efe a wnaethe wrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aipht, maes Zoan.
13Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd, gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pen-twr.
14Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt mewn cwmwl, ac ar hŷd y nos wrth oleuni tân.
15Holltodd efe y creigiau yn anialwch, a rhoddes ddiod megis ddyfndêrau dirfawr:
16Canys efe a ddug lifeiriant o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
17Er hynny chwanegâsant etto bechu yn eu erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffaethwch:
18A themptiâsant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blŷs.
19Llefarâsant hefyd yn erbyn Duw, a ddywedâsant, a ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20Wele efe a darawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd, a ddichon efe roddi bâra hefyd? a ddarpara efe gîg iw bobl?
21Am hynny y clybu’r Arglwydd, ac y digiodd, a thân a enynnodd yn Iacob, a digofaint hefyd a gynneuodd yn Israel,
22Am na chrêdent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iechydwriaeth ef.
23Er hynny efe a orchymynnase i’r wybrennau oddi vchod, ac a agorâse ddrysau y nefoedd:
24Ac a lawiase Manna arnynt iw fwytta: ac a roddâse iddynt lynniaeth o’r nêfoedd.
25Dŷn a fwyttaodd fara angelion, anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
26Gyrrodd y dwyrein-wynt hyd y nefoedd: ac yn ei nerth y dûg efe ddeheu-wynt.
27Glawiodd hefyd gîg arnynt fel llwch: ac adar ascelloc fel tyfod y môr.
28Ac a wnaeth gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu presswylfeudd.
29Felly y bwyttasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt, ac efe a barodd eu dymuniad iddynt.
30Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant tra yr ydoedd bwyd yn eu safnau.
31Digllonedd Duw a gynneuodd yn eu herbyn hwynt, ac efe a laddodd o’r rhai brasaf o honynt, ac a ostyngodd etholedigion Israel:
32Er hyn oll pechâsant etto, ac ni chredâsant iw ryfeddodau ef.
33Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, ai blynyddoedd mewn dychryn.
34Pan lladde efe hwynt, os ceisient ef, a ddychwelyd, a cheisio Dduw yn foreu:
35Os cofient hefyd mai Duw eu craig, mai y goruchaf Dduw eu gwaredudd.
36Er iddynt ragrithio iddo ef ai gênau, a dywedyd celwydd wrtho ai tafod,
37Ai calon heb yn iniawn gyd ag ef, nai bod yn ffyddlon yn ei gyfammod ef:
38Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd hanwiredd, ac ni ddifethodd eithr trôdd ymmaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lîd.
39Eithr efe a gofie mai cnawd hwy, gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
40Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffaethwch?
41Canys troasant, a phrofasant Dduw, a themptiasant Sanct yr Israel.
42Ni chofiasant ei nerth ef, dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
43Yr hwn a osododd ei arwyddion yn yr Aipht, ai ryfeddodau ym maes Zoan.
44Ac y drôdd eu hafonydd ai ffrydau yn waed, fel na allent yfed.
45Anfonodd gymmysc-blâ yn eu plith, ac ai difâodd hwynt: a llyffaint iw difetha hwynt.
46Efe a roddodd eu cnŵd hwynt i’r Locust, ai llafur i’r ceilioc rhedyn.
47Destruwiodd eu gwin-wŷdd â chenllysc, ai Sycomor-wŷdd â chesair.
48Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysc, ai cyfoeth i’r mellt.
49Anfônodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiawgrwydd, a digter, a chyfyngder, trwy anfon angelion drwg.
50Cymhwysodd ffordd iw ddigofaint, nid attaliodd eu henaid oddi wrth angeu: ai bywyd a roddodd efe i’r haint.
51Tarâwodd hefyd bôb cyntaf-anedic yn yr Aipht, sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Cam.
52Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac ai harweiniodd hwynt fel praidd trwy’r anialwch.
53Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel fel nad ofnasant: a’r môr a orchguddiodd eu gelynnion hwynt.
54Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd: mynydd hwn a ennillodd ei ddeheulaw ef.
55Ac efe a yrrodd allan genhedloedd oi blaen hwynt, ac a rannodd iddynt rhan-dir yn etifeddiaeth: a gwnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
56Er hynny temptiâsant, a digiâsant Dduw goruchaf, ac ni chadwâsant ei destiolaethau.
57Eithr ciliâsant a buant anffyddlon fel eu tadau: troâsant fel bŵa twyllodrus.
58Digiâsant ef hefyd ai huchel-fannau: a llidiasant ef ai cerfiedic ddelwau.
59Clybu Duw ac a ddigiodd, ac a ddiystyrodd Israel yn ddirfawr.
60Gadawodd hefyd tabernacl Silo, y babell a osodase efe ym mysc dynnion.
61A rhoddes ei nerth mewn caethiwed, ai brydferthwch yn llaw’r gelyn.
62Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf, a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
63Tân a yssodd ei wŷr ieuangc, ai forwynnion ni phriodwyd.
64Ei offeiriaid a laddwyd a’r cleddyf, ai wragedd gweddwon nid ŵylasant.
65Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel o gyscu: fel cadarn yn bloeddio gwedi gwîn.
66Ac efe a darawodd ei elynnion yn ei hôl: rhoddes iddynt warth tragywyddol.
67Gwrthododd hefyd babell Ioseph, ac ni etholodd lwyth Ephraim.
68Ond efe a ethôlodd lwyth Iuda, sef mynydd Sion yr hwn a hoffodd efe.
69Ac a adailadodd ei gyssegr fel vchel: fel y ddaiar yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
70Etholodd hefyd Dafydd ei wâs, ac ai cymmerth o gorlannau y defaid.
71Oddi ar ôl cyfebrion y daeth ag ef i borthi Iacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
72Yntef ai porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon, ac ai trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.