1 2 Bren.20.1. Yn y dyddiau hynny y clafychodd Hezecia i farw: Ac Esay mab Amos y prophwyd a ddaeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd: trefna dy dŷ, canys marw fyddi di, ac ni byddi byw.
2Yna Hezecia a droes ei wyneb at y pared, ac a weddiodd at yr Arglwydd:
3A dywedodd, attolwg Arglwydd cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac mewn calon berffaith, a gwneuthur yr hyn dda yn dy olwg: a Hezecia a wylodd ag wylofain mawr.
4Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Esay gan ddywedyd:
5Dos, a dywet wrth Hezecia, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad: clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau, wele fi yn chwanegu at dy ddyddiau di bymtheng mhlynedd.
6Ac o law brenin Assyria i’th waredaf di, a’r ddinas: canys mi a ddeffynnaf y ddinas hon.
7A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr Arglwydd, y gwna’r Arglwydd y gair hwn, yr hwn a lefarodd.
8Wele fi yn dychwelyd cyscod y graddau (yr hwn a ddescynnodd yn neial Ahaz gyd a’r haul) ddêc o raddau yn ei ôl: felly’r haul a ddatrôdd ddêc o raddau ar hŷd y graddau y rhai y descynnase
9Scrifen Hezecia brenin Iuda pan glafychase, a byw o honaw ef oi glefyd.
10Myfi a ddywedais, yn nhoriad fy nyddiau yr af i byrth y bedd: difeddwyd fi o weddill fy mlynyddoedd.
11Dywedais, ni chaf weled yr Arglwydd Ior yn nhir y bywion, ni chanfyddaf ddŷn mwyach ym mysc trigolion y byd.
12Fy mhresswylfod a aeth, ac a suddodd oddi wrthif fel lluest bugail: torrais ymmaith fy hoedl megis y gwehydd, gan gulni efe a’m dryllia: o ddydd hyd nos ti a’m gorphenni.
13Bwriedais hyd y boreu, megis llew y drylliodd efe fy holl escyrn: o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf.
14Megis garan wennol, felly drydar a wneuthum, griddfenais megis colommen: fy llygaid a dderchafasyd i’r vchder, ô Arglwydd a’m gorthrymmodd, esmwythâ arnaf.
15Beth a draethaf, canys dywedodd wrthif ac efe ai gwnaiff: mi a gyrwydraf yn araf fy holl flynyddoedd mewn chwerwedd fy enaid.
16Arglwydd iddynt hwy a fyddant byw, ac i bawb drwyddynt hwythau bywyd fy yspryd i, am hynny’r iachei fi, ac y bywhei fi.
17Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw: rhyngodd it fodd hefyd fy enaid o bwll llygredigaeth: canys ti a deflaist fy holl bechodau o’r tu ôl i’th gefn.
18Canys y bedd ni’th fawl di, angeu glodfora: y rhai sy yn ddescyn i’r pwll ni obeithiant yn dy wirionedd.
19Y byw, y byw efe a’th fawl di fel fyfi heddyw: y tâd a hyspyssa iw feibion dy wirionedd.
20Yr Arglwydd i’m cadw i: am hynny y canwn fyng-haniadau holl ddyddiau ein henioes yn nhŷ’r Arglwydd.
21Ac Esay a ddywedodd, cymmerant swp o ffigus, a rhwymant ar y cornwyd, ac efe a fydd byw.
22Yna y dywedodd Hezecia, pa arwydd canys âf i fynu i dŷ’r Arglwydd,
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.