Ioan 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.8 Crist yn troi’r dwfr yn wîn. 14 Yn gyrru y pryn-wyr a’r gwerth-wyr o’r deml, 19 Ac yn eu rhac-rybuddio am ei farwolaeth, ai ail-gyfodiad mewn dammeg am ddinistrio y deml ai hadaliadu mewn tridiau.

1 A’r trydydd dydd y gwnaed priodas yn Cana Galilæa: a mam yr Iesu oedd yno.

2Galwyd yr Iesu hefyd, a’i ddiscyblion i’r briodas.

3A phan ballodd y gwîn, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt morr gwîn.

4Iesu a ddywedodd wrthi hi, Beth sydd i mi â thi wraig? ni ddaeth fy awr i etto.

5Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaeth-wyr, Beth hynna a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

6Ac yr oedd yno chwech o ddyfr-lestri meini, wedi eu gosod yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob vn ddau ffircyn, neu dri.

7Iesu a ddywedodd wrthynt, llenwch y dyfr-lestri o ddwfr: a hwynt a’u llanwasant hyd yr ymyl.

8Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch ac lywodraeth-wr y wledd: a hwy a ddugasant.

9Pan brofodd llywodraeth-wr y wledd y dwfr yr hwn a wnaethid yn win, (canys ni wydde efe o ba le y cawsid: onid y gwasanaethwŷr y rhai a ollyngasent y dwfr a ŵyddent) llywodraeth-wr y wlêdd a alwodd ar y priod-fab,

10Ac a ddywedodd wrtho ef, pob dyn a esyd y gwin dâ yn gyntaf, a phan yfont yn dda, yna vn a fyddo gwaeth: tithe a gedwaist y gwin dâ hyd yr awr hon.

11Hyn o ddechreu gwrthiau a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilæa, ac a eglurodd ei ogoniant, a’i ddiscyblion a gredasant ynddo.

12Wedi hynny efe a aeth i wared i Capernaum, efe a’i fam, a’i frodyr, a’i ddiscyblion, ac nid arhosasant yno nemmor o ddyddiau.

13A Phasc yr Iddewon oedd yn agos, am hynny ’r aeth yr Iesu i fynu i Ierusalem.

14A efe Math.21.12. Mar.11.15. Luc.19.45. a gafodd yn y Deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a newidwyr arian yn eistedd

15Pan wnaeth efe fflangell o reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r Deml, y defaid hefyd, a’r ŷchen, ac a dywalltodd arian y newid-wŷr, ac a ddymchwelodd y byrddau.

16Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn gwerthu colomennod, dygwch y rhai hyn oddi ymma: na wnewch dŷ fy Nhâd i yn dŷ marchnat.

17A’i ddiscyblion ef a gofiasant fod yn scrifennedic, Psal.69.9.Zêl dy dŷ di a’m hyssodd i.

18Yna’r Iddewon a attebasant, ac a ddywedasant wrtho ef: pa arwydd a ddangost di i ni, gan i ti wneuthur y peth hyn?

19Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Math.26.61. & 27.40. Mar14.58. & 15.29.dinistriwch y Deml hō, ac mewn tri-diau y cyfodaf hi trachefn.

20Yna’r Iddewon a ddywedasant, chwe blynedd a deugain y buwyd yn adailadu y Deml hon: ac a gyfodit ti hi mewn tri-diau?

21Ond efe a ddywedase am deml ei gorph.

22Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddiscyblion ef a gofiasant iddo ef ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwynt a gredasant yr scrythur, a’r gair yr hwn a ddywedase yr Iesu.

23A phan oedd efe yn Ierusalem ar y Pasc yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled y gwrthiau y rhai a wnaethe efe.

24Ond nid ymddyriedodd yr Iesu iddynt am dano ei hun, am yr adwaene efe hwynt oll,

25Ac am nad oedd rhaid iddo wrth neb i destiolaethu am ddŷn, o herwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dŷn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help