1Wedi hyn Lefit.23.3. Deut.16.1.yr oedd gŵyl yr Iddewon, ac Iesu a aeth i fynu i Ierusalem.
2Ac y mae yn Ierusalem wrth Nehem.3.1. & 32. & 12.39.[borth] y defaid lynn a elwir yn Hebræ-aec Bethesda, ac iddo bum porth.
3Yn y rhai hyn yr oedd lliaws mawr o gleifion, o ddeillion, o gloffion, a gwywedigion yn gorwedd, yn disgwil am gynhyrfiad y dwfr.
4Canys angel a ddescynne ar amserau i’r llyn, a’r dwfr a gynhyrfe: yna pwy bynnac yn gyntaf ar ôl cynhyrfiad y dwfr a ddescynne i mewn, a iachauid o ba ryw glefyd bynnac a fydde arno.
5Ac yr oedd yno ryw ddyn yr hwn a fuase yn glaf am yn dwy deugain o flynyddoedd.
6Pan welodd yr Iesu ef yn gorwedd, a gwybod gael o honaw ef lawer o amser bellach, efe a ddywedodd wrtho, a fynni di dy wneuthur yn iach?
7A’r claf a attebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennif neb pan gynhyrfer y dwfr a’m bwrio fi i’r llynn: onid tra fyddwyf yn dyfod, arall a ddescyn o’m blaen.
8Iesu a ddywedodd wrtho ef, cyfot, cyfot dy wely, a rhodia.
9Ac yn ebrwydd y gwnaed y dŷn yn iach, ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd, a’r Sabboth oedd y diwrnod hwnnw.
10Am hynny ’r Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethyd yn iach, Sabboth yw hi,* ni ddylit ti godi dy wely.
11Efe a attebodd iddynt, yr hwn a’m hiachâodd fi, efe a ddywedodd wrthif: cyfot dy wely, a rhodia.
12Yna hwynt a ofynnasant iddo ef, pwy ydyw ’r dŷn yr hwn a ddywedodd wrthit ti cyfot dy wely, a rhodia?
13A’r hwn a iachausid ni ŵydde pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliase o’r dyrfa yr hon oedd yn y fann
14Wedi hynny Iesu a’i cafodd ef yn y Deml, ac a ddywedodd wrtho, wele ti a iachauwyd: na phecha mwyach rhac digwyddo peth a fyddo gwaeth i ti.
15Y dŷn a aeth ymmaith, ac a fynegodd i’r Iddewon, mai Iesu oedd efe yr hwn a’i gwnaethe ef yn iach.
16Am hynny ’r Iddewon a erlidiasant Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, o blegit iddo ef wneuthur hyn ar y Sabboth.
17Ond Iesu ai hattebodd hwynt, y mae fy Nhâd yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finne yn gweithio.
18O herwydd hynny ’r Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, nid yn vnic o blegit iddo ef dorri ’r Sabboth, ond am iddo ef ddywedyd mai Duw oedd ei Dâd, gan ei wneuthur ei hun yn gystal â Duw.
19Yna Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, ni ddichon y Mab wneuthur dim o honaw ei hunain, eithr yr hyn a welo efe y Tâd yn ei wneuthur, canys beth bynnac y mae efe yn ei wneuthur hynny y mae y Mab hefyd yn ei wneuthur.
20Canys y Tâd sydd yn caru y Mâb, ac yn dangos iddo ’r hyn oll y mae efe yn ei wneuthur, ac efe a ddengis iddo ef weithredoedd mwy nâ ’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.
21O blegit megis y mae y Tâd yn cyfodi y rhai meirw, ac yn bywhâu: felly y mae’r Mâb hefyd yn bywhau y neb a fynno.
22Canys y Tâd nid yw yn barnu neb: eithr efe a roddes bob barn i’r Mab.
23Fel yr anrhydedde pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tâd, yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tad, yr hwn a’i hanfonodd ef.
24Yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fyng-air, ac yn crêdu i’r hwn a’m hanfonodd i a gaiff fywyd tragywyddol, ac ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
25Yn wir, yn wîr meddaf i chwi, yr awr a ddaw ac y mae hi eusus pan glywo y meirw lef Mab Duw, a’r rhai a glywant a fyddant byw.
26Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mâb hefyd, fod ganddo fywyd ynddo ei hun.
27Ac efe a roddes iddo ef allu i wneuthur barn, o herwydd ei fod efe yn Fab dŷn,
28Na ryfeddwch er hyn, canys yr awr a ddaw yn yr hon y caiff pawb oll a’r a ydynt yn y beddau glywed ei lef ef.
29A’r Math.25.41.rhai a wnaethant ddaioni a ddeuant allan i adgyfodiad y bywyd: ond y rhai a wnaethant ddrygioni i adgyfodiad barn.
30Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hunan, fel y clywyf y barnaf, a’m barn sydd gyfiawn: canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, onid ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
31Os myfi a destiolaethwn am danaf fy hunan, ni bydde fy nhestiolaeth i yn wîr.
32Arall sydd yn testiolaethu o honofi, ac mi a wn mai gwir yw y destiolaeth yr hon y mae efe yn ei destiolaethu o honofi.
33Chwy chwi Pen.1.27.a anfonasoch at Ioan, ac efe a destiolaethodd o’r gwirionedd.
34Ond nid ydwyfi yn derbyn testiolaeth oddi wrth ddŷn: eithr dywedyd yr ydwyf y pethau hyn, fel i’ch gwaredid chwi.
35Efe oedd gannwyll yn llosci, ac yn goleuo: ac ennyd awr y mynnech chwi lawenychu yn ei oleuni ef.
36Ond y mae gennifi destiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd y rhai a roddes y Tâd i mi iw gorphen, y gweithredoedd hynny y rhai ’r ydwyfi yn eu gwneuthur sy’n testiolaethu o honofi, mai’r Tâd a’m hanfonodd i.
37A’r Tâd yr hwn a’m hanfonodd i, efe a destiolaethodd am danafi: ond ni wrandawsoch chwi ar ei lais ef vn amser, ac Math.3.17. & 17.5.ni welsoch ei wedd ef.
38Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys nid ydych chwi yn credu yn yr hwn a anfonodd efe.
39 Act.17.18. Chwiliwch yr scrythyrau, canys yr ydych chwi yn tybied gael ynddynt fywyd tragywyddol, a hwynt hwy ydynt yn testiolaethu o honofi.
40Ond ni fynnwch chwi ddyfod attafi, fel y caffech chwi fywyd.
41Nid ydwyfi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion.
42Ond myfi a’ch adwen chwi, nad oes gariad Duw ynoch.
43Myfi a ddaethym yn enw fy Nhâd, ac ni dderbynniasoch chwi mo honof: os daw arall yn ei enw ei hun, ef a dderbyniwch chwi.
44Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan ei gilydd, ac heb geisio y gogoniant yr hwn sydd oddi wrth Dduw yn vnic?
45Na thybiwch y cyhuddafi chwi wrth y Tâd: y mae a’ch cyhudda chwi, Moses: yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
46Canys pe chredasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minne: o blegit am danafi yr scrifennodd efe.
47Ond os chwi ni chredwch iw scrifennadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau maufi?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.