Exodus 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Cyndynrwydd Pharao. 4 Y locustiaid. 16 Cyffes Pharao. 19 Gweddi Moses. 21 Tywyllwch anferthol.

1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dos at Pharao: o herwydd mi galedais ei galon ef, a chalon ei weision, fel y gosodwn fy arwyddion hyn yn ei fysc ef.

2Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, Exod.4.21.yr hynn a wneuthum yn yr Aipht, a’m harwyddion y rhai a osodais yn eu plith hwynt: ac y gwypoch mai myfi yr Arglwydd.

3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharao, a dywedasant wrtho, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw’r Hebræaid, pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymmaith fy mhobl, fel i’m gwasanaethant.

4O herwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl: wele, y foru y dygaf locustiaid i’th frô,

5Y rhai a orchuddiant wyneb y ddaiar, fel na allo weled y ddaiar: ac hwy a yssant y gweddill yr hwn a adawyd i chwi yn ddiangol gan y cenllysc, difaant hefyd bôb pren a fyddo yn blaguro iwch yn y maes.

6Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai’r holl Aiphtiaid, y cyfryw ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaiar hyd y dydd hwn: yna efe a drôdd, ac a aeth allan oddi wrth Pharao.

7A gwesion Pharao a ddywedasant wrtho, pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymmaith y gwŷr, fel y gwasanaethant yr Arglwydd eu Duw: oni wyddosti etto ddifetha’r Aipht?

8A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharao, ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw: pa rai sy’n myned?

9A Moses a ddywedodd, a’n llangciau, ac a’n hynafgwyr yr awn ni: a’n meibion hefyd, ac a’n merched, a’n defaid, ac a’n gwarthec, yr awn ni o blegit rhaid i ni gadw gŵyl i’r Arglwydd.

10Ac efe a dywedodd wrthynt, yr vn modd y byddo’r Arglwydd gyd a chwi, ag y gollyngaf chwi a’ch plant: gwelwch mai ar ddrwg y mae eich brŷd.

11Nid felly, ewch yn awr y gwŷr, a gwasanaethwch yr Arglwydd, canys hyn yr oeddech yn ei geisio: felly hwynt a wthiwyd o wydd Pharao.

12Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, estyn dy law ar wlad yr Aipht am locustiaid fel y deuannt ar dîr yr Aipht: ac y bwyttaant holl lyssieu y ddaiar cwbl ar a adawodd y cenllysc.

13Felly Moses a estynnodd ei wialen ar dîr yr Aipht, a’r Arglwydd a ddug ddwyreinwynt ar y tîr yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos honno: a ddaeth y borau gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.

14A’r locustîaid a ddaethant ar holl wlad yr Aipht, ac a arhosasant ym mhob ardal i’r Aipht: yn drwm iawn, ni bu y fath locustiaid oi blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb.

15Canys toasant wyneb yr holl dîr, a thywyllodd y wlad, a hwynt a yssasant holl lyssiau y ddaiar, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillase y cenllysc: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lyssieu y maes o fewn holl wlad yr Aipht.

16Am hynny Pharao a alwodd am Moses, ac Aaron ar frŷs, ac a ddywedodd: pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.

17Ac yn awr maddeu di attolwg fy mhechod y waith hon yn vnic, a gweddiwch ar yr Arglwydd eich Duw: ar iddo dynnu oddi wrthif yn vnic y farwolaeth hon.

18A a aeth allan oddi wrth Pharao: ac a weddiodd ar yr Arglwydd.

19A’r Arglwydd a drodd wynt gorllewyn crŷf iawn, ac efe a gododd ymmaith y locustiaid, ac ai bwriodd hwynt i’r môr coch: ni adawyd vn locust o fewn holl derfynau’r Aipht.

20Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharao: fel na ollynge efe feibion Israel ymmaith.

21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, estynn dy law tua’r nefoedd fel y byddo tywyllwch ar dîr yr Aipht: ac y teimlo y tywyllwch.

22Felly Moses a estynnodd ei law, tua’r nefoedd: Doeth.17.2.a bu dywyllwch niwloc drwy holl wlad yr Aipht dri diwrnod.

23Ni wele neb ei gilydd, ac ni chododd neb oi le dri diwrnod: ond Doeth.8.1.yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.

24Yna y galwodd Pharao am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, ewch gwasanaethwch yr Arglwydd, arhoed eich defaid a’ch gwarthec yn vnig: aed eich plant hefyd gyd a chwi.

25A dywedodd Moses, ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoeth offrymmau: fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.

26Am hynny’r aiff ein hanifeiliaid hefyd gyd a ni, ni adewir ewin, o blegit o honynt y cymmerwn i wasanaethu’r Arglwydd ein Duw: canys ni wyddom a pha beth y gwasanaethom yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.

27Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pharao: fel nad oedd efe fodlon iw gollwng hwynt.

28A dywedodd Pharao wrtho, dos oddi wrthif: gwylia arnat rhac gweled fy wyneb mwy, o blegit y dydd y gwelech fy wyneb y byddi farw.

29A dywedodd Moses inion y dywedaist: ni welaf dy wyneb mwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help