1 Ac mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Sion, a chyd ag ef bedair mil a saith vgein-mîl, a chanddynt henw ei Dâd ef yn scrifennedig yn eu talcennau hwynt.
2Ac mi a glywais lais o’r nêf, fel llais llawer o ddyfroedd, ac fel llais taran fawr, ac mi a glywais lais telynorion yn canu ar eu telynau,
3Ac hwy a ganâsant fel caniad newydd ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron y pedwar anifail, a’r henuriaid, ac ni alle nêb ddyscu y caniad hwnnw, ond y pedair mîl, a’r saith vgein mîl, y rhai a brynâsid o’r ddaiar.
4Y rhai hyn ydynt y sawl ni halogwyd â gwragedd, canys gweryfon ydynt, y rhai sy yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr aiff, y rhai a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaen-ffrwyth i Dduw, ac i’r Oen.
5Ac ni chaed twyll yn eu genau hwynt, canys y maent yn ddifai ger bron gorsedd-faingc Duw.
6Ac mi a welais angel arall yn ehedeg trwy ganol y nêf, ac Efengyl dragywyddol ganddo i bregethu i’r rhai oeddent yn trigo ar y ddaiar, ac i bod cenhedlaeth, a llwyth, ac iaith, a phobl,
7Gan ddywedyd â llais vchel, ofnwch Dduw, a rhodwch anrhydedd iddo ef, canys awr ei farn ef a ddaeth, ac addolwch yr hwn a wnaeth nêf a daiar, a’r môr, a ffynhonnau y dyfroedd.
8Ac Angel arall a ddilynodd gan ddywedyd, syrthiodd, syrthiodd Babylon y ddinas fawr, canys hi a wnaeth i’r holl genhedloedd ŷfed o wîn llîd ei godineb hi.
9A’r trydydd angel a’i dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef vchel, os addola nêb y bwyst-fil a’i ddelwef, ac os derbyn ei nôd ef yn ei dalcen, neu yn ei law,
10Hwnnw a ŷf o wîn digofaint Duw, yr hwn a gymmyscwyd o win pûr mewn phiol ei ddigofaint ef, ac ef a boenir mewn tân a brwmstan yng-olwg yr angelion sanctaidd, ac yng-olwg yr Oen.
11A mŵg eu poenedigaeth hwynt a aiff i fynu yn dragywydd, ac ni chânt orphywysfa na dydd na nôs, y rhai a addolant, y bwyst-fil, a’i ddelw ef, a phwy bynnag a dderbynnio brint ei henw ef.
12Dymma amynedd y sainct, dy mma y rhai sy yn cadw gorchymynion Duw, a ffydd Iesu.
13Ac mi a glywais lais o’r nef yn dywedyd wrthif, scrifenna, gwyn eu byd weithiā y meirw, y rhai sy yn meirw yn yr Arglwydd, felly y dywed yr Yspryd, canys y maent yn gorphywyso oddi wrth eu poen, ac y mae eu gweithredoedd yn eu dilyn hwynt.
14Ac mi a edrychais, ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmnwl vn yn eistedd yn debyg i Fâb y dŷn, ac ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym.
15Ac angel arall a ddaeth allan o’r Deml, gan lefain â llef vchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, dôd ti i mewn dy grymman, a meda, canys daeth amser medi, am fôd cynhaiaf y ddaiar yn addfed.
16A’r hwn oedd yn eistedd ’ar y cwmwl, a fwriodd ei grymman ar y ddaiar, a’r ddaiar a fedwyd.
17Ac angel arall a ddaeth allan o’r Deml, yr hon sydd yn y nef, a chanddo hefyd grymman llym.
18Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd a gallu ganddo ar y tân, ac a lefodd â llef vchel ar yr hwn oedd a’r crymman llym ganddo, gan ddywedyd, bwrw i mewn dy grymman llym, a chascl ganghennau gwinllan y ddaiar, canys y mae ei grawn hi yn addfed.
19A’r angel a fwriodd ei grymman llym ar y ddaiar, ac a dorrodd i lawr win-ŵydd gwinllan y ddaiar, ac a’u bwriodd hwynt i gerwyn sawr digofaint Duw.
20A’r gerwyn a wascwyd allan o’r ddinas, a gwaed a ddaeth allan o’r gerwyn, cyfiwch â ffrwynau y meirch, ar hyd mîl a chwe-chant stâd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.