1Ac Iob a attebodd, ac a ddywedodd:
2O gan bwysso na phwyssid fy nigllondeb: ac na chydgodent fy-nhrychineb mewn clorian.
3Canys yn awr trymmach fydde na thyfod y môr: am hynny y pallodd fyng-eiriau.
4O herwydd saethau’r Holl-alluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy yspryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn.
5A rûa assyn wyllt vwch benn glas-wellt? a frêf ych vwch benn ei borthiant?
6A fwyteir peth diflas heb hâlen? a oes flâs ar wynn ŵy?
7[Y pethau] a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, y rhai hynny gan ofid yn lle bwyd i mi.
8O na ddeue fy nymuniad, ac na rodde Duw’r hyn yr ydwyfi yn ei ddisgwil.
9O ddechreue Duw fy nryllio, na ollynge efe ei law yn rhydd, ac na’m torre fi ymmaith.
10Yna cyssur a fydde etto (er fynghaledu mewn clefyd heb arbed) na chelais ymadroddion y sanctaidd
11Pa nerth i mi i barhau? a pha ddiwedd i mi pe estynnwn fy hoedl?
12Ai cryfdwr cerrig fynghryfdwr? a ydyw fyng-nhawd o brês?
13Onid fy amdeffyn gennifi? a fwriwyd rheswm ymmaith oddi wrthif,
14Yn erbyn yr hwn y toddwyd drugaredd oddi wrth ei gyfell, ac a adawodd ofn yr Holl-alluog?
15Fy mrodyr twyllasant megis afon: aethant heibîo fel llifeiriant afonydd:
16Y rhai a ddûasant gan rew: ac yr ymguddiodd eira ynddynt:
17Mewn amser hwy a redant, hwy a dorrir ymmaith: pan wresogo hwy a ddarfyddant allan oi lle:
18Llwybrau eu ffordd hwynt a giliant: dringant hefyd i wagedd, a hwy a gollir.
19Y rhai a aent i Thema a edrychasant: y rhai a deithient i Saba a ddisgwiliasant am danynt hwy.
20Hwynt a gywilyddiwyd am obeithio hwynt a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant.
21Felly yn awr diau nad oeddych: chwi a welsoch ddychryn, ac a ofnasoch.
22A ddywedais i, dygwch i mi? ac o’ch ffrwyth chwi rhoddwch roddion trosofi?
23Neu gwaredwch fi o law y gelyn: a rhyddhowch fi o law y cedyrn.
24Dyscwch fi, ac myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall mha beth y dywedais yn amryfus.
25Mor gryfion ydyw geiriau iniondeb: ond pa beth a argyoedda argyoeddiado honoch chwi?
26Ai argyoeddu ymadroddion a amcenwch chwi? fel geiriau truan megis gwynt.
27Chwi a ruthrwch hefyd am benn yr ymddifad, ac a gloddiwch yn erbyn eich cyfaill.
28Eithr yn awr byddwch fodlon, edrychwch arnafi: canys ni ddywedaf gelwydd’och blaen chwi.
29Dychwelwch attolwg, na fydded anwiredd: îe troiwch etto fyng-hyfiawnder yn hyn.
30A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fyng-enau gamwedd?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
