1Ac yn nyddiau 2 Bren 16.5.Ahaz fab Iotham, fab Uzia frenin Iuda, y daeth Rezin brenin Syria, a Phecah mab Remaliah brenin Israel i fynu Ierusalem i ryfela arni: ond ni allodd efe ymladd iw herbyn.
2A mynegwyd i dŷ Ddafydd, gan ddywedyd, Syria a gydtunodd ag gen.48.19.Ephraim: am hynny ei galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cyffru prennau y coed o flaen y gwynt.
3Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Esay, dôs allan yr awr hon i gyfarfod Ahaz ti a Sear Iasub dy fâb, wrth ymyl aber y llynn vchaf, ar lwybr maes y pann-wr:
4A dywet wrtho ef, ymgadw a bydd lonydd, nac ofna, ac na feddalhaed dy galon rhag dwy gloren y pentewynnion myglyd hyn: rhag enyniad llid Rezin, a Syria, a mab Remaliah.
5Canys Syria a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn: Ephraim, a mab Remaliah gan ddywedyd:
6Escynnwn yn erbyn Iuda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd attom, ac vrddwn fab Tabel yn frenin ynddi.
7Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ni saif, ac ni bydd
8Canys pen Syria Damascus, a phen Damascus Rezin: ac o fewn pum mhlynedd a thri vgain y difeir Ephraim o yn bobl.
9Hefyd pen Ephraim Samaria, a phen Samaria mab Remaliah: oni chredwch, diau na’ch siccrheuir chwi.
10A’r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahaz gan ddywedyd.
11Gofyn it arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw: cais o’r dyfnder, neu o’r vchelder oddi arnodd.
12Yna y dywedodd Ahaz, ni ofynnaf, ac ni themptiaf yr Arglwydd.
13A dywedodd yntef, gwrandewch yr awr hon tŷ Ddafydd, ai bychan gennwch flino dynion, yni flinoch hefyd fy Nuw?
14Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd: wele y forwyn a fydd feichiog, ac yhi a escor ar fab, a thi a elwi ei enw ef, Immanu-El.
15Ymenyn a mêl a fwyttu efe, hyd onni fedro efe ymwrthod a’r drwg, ac ethol y dâ.
16Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod a’r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlâd yr hon a ffieiddiaist heb ei dau frenin.
17Yr Arglwydd a ddŵg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau ddyddiau y rhai ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Ephraim oddi wrth Iuda, sef brenin Assyria.
18A bydd yn y dydd hwnnw i’r Arglwydd chwibianu ar y gwybedyn yr hwn yn eithaf afonydd yr Aipht, ac ar y wenŷnen yr hon yn nhir Assyria:
19A hwynt oll a ddeuant, ac a orphywysant yn nyffrynnoedd y diffaethwch, ac yng-hromlechydd y creigiau: ac yn yr yspydded oll, ac yn y perthi oll.
20Yn y dydd hwnnw yr eillia’r Arglwydd (a’r ellin yr hwn a gyflogir o’r tu hwnt i’r afon â brenin Assyria) y pen, a blew’r traed; a’r farf hefyd a ddifa efe.
21A bydd yn y dydd hwnnw i ŵr fagu anneir-fûwch, a dwy ddafad.
22Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwytta ymenyn, a mêl a fwyttu y sawl a adewir o fewn y tîr.
23A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y mae ynddo fil o win-wydd mîl o arian yn ddrain, ac yn fieri.
24A saethau, ac â bwâu y daw yno: canys yn ddrain, ac yn fieri y bydd yr holl wlâd.
25Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibiir â cheibiau ni ddaw yno ofn drain na mieri: ond bydd yn hebryngfa gwarthec, ac yn sathrfa defaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.