1[Dymma] y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi, am yr holl Iddewon y rhai oeddynt yn trigo yng-wlad yr Aipht, yn presswylio ym Migdol, ac yn Thaphnis, ac yn Noph, ac yng-wlad Pathros, gan ddywedyd,
2Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel, chwi a welwch yr holl ddrwg yr hwn a ddygais i ar Ierusalem, ac ar holl ddinasoedd Iuda: ac wele hwynt heddyw yn anghyfannedd, ac heb bresswylydd ynddynt,
3[A hynny] er mwyn eu drygioni hwynt yr hwn a wnaethant i’m diglloni fi, gan fyned i arogl-darthu i wasanaethu duwiau dieithr y rhai nid adwaenent hwy, chwithau, na’ch tadau.
4Er i mi anfon attoch chwi fy holl weision, y prophwydi, Ier.7.25. Ier.25.3. Ier.26.5. Ier.29.19|JER 29:19 & 32.33.gan foreu-godi, ac anfon i ddywedyd, na wnewch attolwg y ffieidd-beth hyn, yr hwn sydd gâs gennifi,
5Etto ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clustiau i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni, fel nad arogldarthent i dduwiau dieithr.
6Am hynny y tywalltwyd fy llîd, a’m digofaint, ac y lloscodd efe yn ninasoedd Iuda, ac yn heolydd Ierusalem, ac y maent hwy yn anghyfannedd, ac yn ddiffaethwch fel heddyw.
7Ac yn awr fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd Duw Israel: pa ham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau? i beri dinistrio i chwi gŵr a gwraig, plentyn, a’r hwn sydd yn sugno, ymmaith o Iuda, fel na adawer i chwi weddill?
8I’m diglloni fi â gweithredoedd eich dwylo, gan arogl-darthu i dduwiau dieithr yng-wlad yr Aipht yr hon y daethoch chwi i aros ynddi, i’ch difetha eich hunain, ac i fod yn felldith, ac yn warth ym mysc holl genhedloedd y ddaiar.
9A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Iuda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a’ch drygioni eich hunain, a drygioni eich gwragedd y rhai a wnaethant hwy yng-wlâd Iuda, ac yn heolydd Ierusalem?
10Nid ydynt edifeiriol hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant ychwaith yn fyng-hyfraith, nac yn fy neddfau y rhai a roddais i o’ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau.
11Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel, wele myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn chwi, er niwed ac i ddifetha a holl Iuda.
12Ac mi a gymmeraf weddill Iuda y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aipht i aros yno, ac hwynt a ddifethir oll, yng-wlad yr Aipht y syrthiant drwy y cleddyf, thrwy newyn y difethir hwynt o fychan hyd fawr, trwy’r cleddyf a thrwy newyn y byddant feirw: Ier.26.6|JER 26:6 & 41.18.a hwynt a fyddant yn felldith, yn anghyfanneddol, yn ddirmyg, ac yn warth.
13Canys myfi a ymwelaf â thrigolion gwlad yr Aipht fel yr ymwelais ag Ierusalem, â chleddyf, â newyn, ac â haint.
14Fel na byddo vn a ddihango, nac a adawer o weddill Iuda (y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aipht) i ddychwelyd i wlad Iuda yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi, canys ni ddychwel ond y rhai a ddiangant.
15Yna yr holl wŷr y rhai a ŵyddent iw gwragedd arogl-darthu i dduwiau dieithr, a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yn gynnulleidfa fawr, a’r holl bobl y rhai oeddynt yn trigo yn yr Aipht, yn Pathros a attebasant Ieremi gan ddywedyd:
16[Am] y gair yr hwn a leferaist ti wrthym ni yn enw yr Arglwydd, ni wrandawn ni arnat,
17Onid gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogl-darthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi hi ddiodydd-offrwm, megis y gwnaethom ni, a’n tadau, ein brenhinoedd, a’n tywysogion yn ninasoedd Iuda, ac yn heolydd Ierusalem: canys yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg.
18Ond er pan beidiasom, ac arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac a thywallt diod-offrwm iddi hi bu arnom esieu pob trwy gleddyf hefyd, a thrwy newyn y darfuom ni.
19A phan oeddem ni yn arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod offrwm iddi: ai heb ein gwŷr y gwnaethom ni iddi hi deisennau iw llawenhau hi, a diod offrwm iw dywallt iddi?
20Yna Ieremi a ddywedodd wrth yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl, (y rhai ai attebasant ef) gan ddywedyd:
21Oni chofiodd yr Arglwydd yr arogldarth yr hwn a arogldarthasoch chwi yn ninasoedd Iuda, ac yn heolydd Ierusalem, chwychwi a’ch tadau, eich brenhinoedd a’ch tywysogion, a phobl y wlâd? ac oni ystyriodd efe hyn yn ei galon?
22Fel na alle yr Arglwydd gyd-ddwyn gan ddrygioni eich gweithredoedd chan y ffiaiddbethau y rhai a wnaethech: am hynny yr aeth eich tîr yn anghyfannedd, ac yn ddiffaethwch, ac yn felldith heb bresswylydd, megis y dydd hwn.
23O herwydd i chwi arogl-darthu, ac am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd, ac na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd, ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau ef, nac yn ei destiolaethau: am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel heddyw.
24Ac Ieremi a ddywedodd wrth yr holl bobl, ac wrth yr holl wragedd, gwrandewch air yr Arglwydd holl Iuda y rhai yng-wlâd yr Aipht.
25Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd: chwychwi a’ch gwragedd a gyflawnasoch a’ch dwylo yr hynn a draethasoch a’ch genau, gan ddywedyd: gan wneuthur nyni a wnawn ein haddunedau y rhai a addunasom ni, am arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod offrwm iddi hi, llwyr y cwblhasoch eich addunedau, a llwyr y gwnaethoch yr hynn a addunasech chwi.
26Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd holl Iuda, y rhai sy yn aros yng-wlad yr Aipht: wele myfi a dyngais i’m enw mawr medd yr Arglwydd, na elwir fy enw i mwyach o fewn holl wlâd yr Aipht yng-enau vn gŵr o Iuda gan ddywedyd, byw yw’r Arglwydd Dduw.
27Wele mi a wyliaf arnynt hwy er niwed, ac nid er daioni, a holl wŷr Iuda y rhai yng-wlad yr Aipht a ddifethir a’r cleddyf, ac â newyn, hyd oni ddarfyddant.
28A’r rhai a ddiangant gan y cleddyf, a ddychwelant o wlâd yr Aipht i wlâd Iuda ychydig o nifer: a holl weddill Iuda y rhai a ddaethant i wlâd yr Aipht i aros yno, a gânt wybod gair pwy a saif, ai fy eiddo i, ai yr eiddo hwynt.
29A hynn yn arwydd i chwi medd yr Arglwydd, sef yr ymwelaf â chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fyng-eiriau i’ch erbyn chwi er niwed.
30Fel hynn y dywed yr Arglwydd, wele myfi a roddaf Pharao Hophra frenin yr Aipht yn llaw ei elynnion, ac yn llaw y rhai sy yn ceisio ei enioes ef, fel y rhoddais i Sedecia frenin Iuda yn llaw Nabuchodonosor brenin Babilon ei elyn, yr hwn oedd yn ceisio ei enioes.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.