1.Timotheus 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.2 Rhubydd pa ddysc a ddylid gilio rhagddi. 6 A pha vn ei chanlyn. 15 Ac ym mha orchwyl y dyle eglwys-wr ymarfer beunydd.

1A’r Yspryd sydd yn dywedyd yn eglur yr ymedu rhai yn yr amseroedd 2.Tim. 3.1.|2TI 3:1. 2.pet.3.4.|2PE 3:4. iud.19.diweddaf o’r ffydd, gan roddi coel i ysprydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid,

2Y rhai ydynt yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a’u cydwybod wedi ei llosci â haiarn brŵd,

3Yn gwahardd priodas, ymattal oddi wrth fwydydd y rhai a greawdd Duw iw mwynhau trwy dalu diolch i’r ffyddloniaid, ac i’r rhai a adwaenant y gwirionedd.

4Canys pa beth bynnag a greawdd Duw da ydyw, ac nid oes dim iw wrthod, os cymmerir trwy dalu diolch.

5O herwydd ei sancteiddio trwy air Duw a gweddi.

6Os gosodi hyn o flaen y brodyr, byddi weinidog da i Iesu Grist, yr hwn i’th fagwyd mewn geiriau’r ffydd, ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist.

7Eithr Pen.1 4.|1TI 1:4 & 6.20.|1TI 6:20. 2.tim.2 16.|2TI 2:16. titus.3.9.gad heibio halogedic, a gwrachiaidd chwedlau, ac ymarfer di dy hun i dduwioldeb.

8Canys i ychydig y mae ymarfer corphorol yn fuddiol, eithr duwioldeb sydd fuddiol i bôb peth a chenddi addewid o’r bywyd sydd, ac o r hwn fydd.

9Y gair hwn fydd wîr, ac ym mhob modd yn heuddu ei dderbyn:

10O blegit er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwradwyddo, o herwydd ein bod yn gobeitho yn Nuw byw yr hwn ydyw achubudd pob dŷn, yn enwedig y ffyddloniaid.

11Y pethau hyn gorchymyn, a dysc.

12Na ddiystyred neb dy ieuengtid ti, eithr bydd i’r ffyddloniaid yn siampl mewn gair, mewn ymddygiad, mewn cariad, mewn yspryd, mewn ffydd, a diweirdeb.

13Hyd oni ddelwyfi, ymosot ti i ddarllen, i gynghori, ac i athrawiaethu.

14Nac yscaelusa y dawn sydd ynot ti, yr hwn a rodded i ti trwy brophwydoliaeth, gan arddodiad dwylo yr henuriaeth.

15Arfer y pethau hyn, a pharhâ yn hyn, fel y byddo dy gynnydd yn eglur ym mhlith pawb.

16Gwilia arnat dy hun, ac ar athrawiaeth, parhâ yn hyn: canys o gwnei di hyn, ti a’th gedwi dy hun, a’r rhai a wrandawant arnat.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help