1Mor deg dy draed mewn escidiau ferch pendefig, cymmalau dy forddwydydd fel tlysau o waith dwylo’r cywraint.
2Dy fogel sydd gorflwch crwn heb eisieu diod: dy fru fel twrr gwenith wedi ei gaeu â lili.
3Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efellion.
4Dy wddf fel tŵr o Ifori, dy lygaid llynnoedd yn Hesbon wrth borth Bath-rabbim, dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.
5Dy ben arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porphor-wisc brenin wedi ei rhwymo ym mysc pistyllau dyfroedd.
6Morr deg ydwyt, ac mor hawddgar fyng-hariad mewn hyfrydwch.
7Dy vchter ymma sydd debyg i balm-wydden, a’th fronnau i ganghennau grawn.
8Dywedais y dringaf i’r balm-wydden, ac ymaflaf yn ei cheinciau, ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn-ganghennau y win-wydden: ac arogl dy ffroenau megis afâlau.
9A thaflod dy enau megis y gwin da, yn myned at fy annwylyd yn iniawn, ac yn peri i wefusau y rhai a gyscant lefaru.
10Eiddo fy annwylyd fi, ac arnafi ei serch ef.
11Tyret fy annwylyd awn i’r maes, a lleteuwn yn y pen-trefydd.
12Boreu-godwn i’r gwinllānoedd, edrychwn a flodeuodd y win-wydden, a agorodd egin y grawn-win, a flodeuodd y pomgranadau, yno y rhoddaf fy serch arnat.
13Y mandragorau a roddasant arogledd, wrth ein dryssau, phob godidawg ffrwythau newydd a hên y rhai a guddiais it fy annwylyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
