Psalmau 61 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lxj.At y pen-cerdd ar y Neginoth Psalm Dafydd.

1Clyw ô Dduw fy llefain, gwrando di fyng-weddi.

2O eithaf y ddaiar y llefaf attat, pan lesmeirio fyng-halon: arwain fi i graig a fyddo vwch nâ mi.

3Canys buost obaith i mi, thŵr nerthol rhag y gelyn.

4Presswyliaf yn dy babell byth: a’m ymddyried fydd dann orchudd dy adenydd.Selah.

5Canys ti Dduw a glywaist fy addunedau, rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw.

6Hir-oes a roddi i’r brenin, ei flynyddoedd lawer oes.

7Efe a bresswylia byth ger bron Duw: darpar drugaredd a gwirionedd, y cadwant ef.

8Felly y can-molaf dy enw yn dragywydd: gan dalu fy addunedau beunydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help