1Ymlawenhewch yn Nuw yr holl fŷd.
2Dadcenwch ogoniant ei enw: gosodwch ei foliant yn ogoneddus.
3Dywedwch wrth Dduw, mor ofnadwy dy weithredoedd? o herwydd amlder dy nerth y cymmer dy elynnion arnynt fod yn ddarostyngedic i ti.
4Yr holl fyd a ymostyngant i ti, ac a gânant i ti: canant i’th enw.Selah.
5Deuwch, a gwêlwch weithredoedd Duw, ofnadwy weithred tu ag at feibion dynnion.
6Trôdd efe y môr yn sych-dir, aethant drwy’r afon ar draed: yna y llawenychâsom ynddo.
7Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth, ei lygaid a edrychant at y cenhedloedd, y rhai annufudd nid ymdderchafant.Selah.
8Oh bobloedd molwch ein Duw, a phêrwch glywed llais ei fawl ef.
9Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni âd i’n troed lithro.
10Canys profaist ni ô Dduw, a choethaist ni fel coethi arian.
11Dygaist ni i’r rhwyd, gosodaist wascfa ar ein lwynau.
12Peraist i ddynnion farchogaeth ar vcha ein pennau, aethom drwy yr tân, a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i diwall.
13Deuaf i’th dŷ ag offrymmau poeth, talaf it fy addunedau,
14Y rhai a addawodd fyng-wefusau, ac a ddywedodd fyng-enau yn fyng-hyfyngder.
15Offrymmaf it boeth offrymmau breision yng-hyd ag arogl-darth hyrddod: aberthaf ŷchen, a bychod.Selah.
16Deuwch, gwrandewch y rhai oll a ofnwch Dduw: a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid.
17Llefais arno a’m genau, ac efe a dderchafwyd a’m tafod.
18Pe edrychaswn ar anwiredd yn fyng-halon, ni wrandawse’r Arglwydd.
19Duw yn ddiau a glybu, a wrandawodd ar lais fyng-weddi.
20Bendigedic fyddo Duw’r hwn ni fwriodd fyng-weddi nai drugaredd ef oddi wrthif inne.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
