Gweithredoedd yr Apostolion 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Yr Yspryd glân yn dyfod ar ddull tafodau, 7 Gweithred yr Yspryd glân. 14 Petr yn atteb yn erbyn cabl-wyr yr Yspryd. 41 Cynnydd yr eglwys: buchedd, ac ymddygiad y ffyddloniad.

1Wedi dyfod dydd y Pentecost yr oeddynt hwy oll yn gytun yn yr vn-lle.

2Ac yn ddisymmwth fe ddaeth swn o’r nef, fel gwth gwynt yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd.

3A thafodau gwahannedic a ymddangosasant iddynt fel tân, ac efe a eisteddodd ar bob vn o honynt.

4A hwy a gyflawnwyd oll â’r Yspryd glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill megis y rhoddes yr Yspryd iddynt lefaru.

5Ac yr oedd yn trigo yn Ierusalem Iddewon bucheddol, o bob cenedl dann y nef.

6Wedi myned y gair o hynn, y daeth lliaws yng-hyd, ac a synnodd, o blegit bod pawb yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei dafod-iaith ei hun.

7Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant gan ddywedyd wrth ei gilydd, wele onid yw y rhai hyn oll sy yn llefaru o Galilæa?

8Pa wedd gan hynny yr ydym ni yn eu clywed hwynt, pawb yn ein tafod-iaith ein hunain yn yr hon ein ganed ni?

9Pârthiaid, Mediaid, Elamidiad, a thrigolion Mesopotamia, ac Iudæa, a Chappadocia, a Phontus, ac Asia,

10Phrygia, a Phamphilia, yr Aipht, a rhannau Libya yr hon sydd ger-llaw Cyrene, a dieithriaid o Rufein-wŷr, yn Iddewon, ac yn broselytiaid,

11Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn traethu mawrion weithredoedd Duw, yn ein tafod-iaith ein hun.

12A hwy a ryfeddâsant eu gyd oll, ac a synnasant gan ddywedyd y naill wrth y llall: beth a all hyn fod?

13Ac eraill yn gwatwar a ddywedâsant, mai llawn o win mêlus oeddynt hwy.

14Eithr Petr yn sefyll gyd â’r vn ar ddêc, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, ô wŷr, Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Ierusalem bydded yspysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau:

15Canys nid yw y rhai hyn yn feddwon fel yr ydych chwi yn tybied, o blegit y drydedd awr o’r dydd yw hi.

16Eithr dymma y peth a ddywetpwyd trwy y prophwyd Ioel.2.18. Esai.24.3. Ioel:

17Ac fe fydd yn y dyddiau diweddaf (medd Duw) y tywalltaf o’m Hyspryd ar bob cnawd, a’ch meibion a’ch merched a brophwydant, a’ch gwyr ieuaingc a welant weledigaethau, a’ch hynaf-gwŷr a freuddwydiant freuddwydion.

18Ac ar fyng-weision, ac ar fy llaw-forwynion y tywalltaf o’m Hyspryd yn y dyddiau hynny, a hwy a brophwydant.

19Ac mi a roddaf ryfeddodau yn y nef vchod, ac arwyddion yn y ddaiar i fod, gwaed, a thân, a tharth mwg.

20Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.

21A bydd: pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd fydd yn gadwedic.

22Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn, Iesu hwnnw o Nazareth gŵr profedic gan Dduw yn eich plith trwy weithredoedd nerthol, a rhyfeddodau, ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich mysc chwi, fel y gwyddoch chwi,

23Hwn wedi ei roddi trwy derfynedic gyngor a rhagŵybodaeth Duw, a gymmerasoch chwi: ac wedi i chwi trwy ddwylo anwir ei hoelio, a laddasoch chwi.

24Yr hwn a gyfodes Duw i fynu gan ryddhau gofidiau angeu, canys amhossibl oedd i hwnnw ei attal ef.

25O blegit Dafydd a ddywed am dano: Psal.16.9. yr Arglwydd a welais ger fy mron yn oestad: sef ar fy nehaulaw y mae fel na’m yscoger.

26Am hynny y llawenhâodd fyng-halon, ac y gorfoleddodd fy nhafod, ac y gorphywys fyng-nhawd hefyd mewn gobaith:

27Am na adewi fy enaid yn vffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.

28Gwnaethost yn hyspys i mi ffyrdd y bywyd: Ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wyneb[pryd.]

29Ha wŷr frodyr, mi a gaf yn hyf ddywedyd wrthych am y patriarch Dafydd, Pen.13.36. 1.Bren.2.10. ei farw ef, a’i gladdu, a bod ei feddrod gyd â ni hyd y dydd heddyw.

30Am hynny ac efe yn brophwyd, ac yn gŵybod dyngu o Dduw Psal.132.11. lw, mai o ffrwyth ei lwyn ef o herwydd y cnawd y cyfode efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef,

31Ac efe yn gŵybod o’r blaen a ddywedodd am gyfodiad Crist: na adawsid ei Pen.13.35. Psal.16.10. enaid yn vffern, ac na welse ei gnawd lygredigaeth:

32Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fynu, i’r hyn yr ydym ni oll yn dystion.

33Gan ei gyfodi ef fel hyn drwy ddehaulaw Dduw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid am yr Yspryd glân, efe a dywalltodd yr hyn ymma a welwch, ac a glywch y pryd hyn.

34O blegit ni dderchafodd Dafydd i’r nefoedd, ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Psal.110.1. yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheu-law,

35Oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th draed.

36Am hynny gwybydded holl dy Israel yn ddiogel ddarfod i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd, ac yn Grist, sef yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.

37Wedi clywed y geiriau hyn y cydbigid hwy yn eu calonnau, ac y dywedâsant wrth Petr, a’r apostolion eraill, ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni?

38Yna y dywedodd Petr wrthynt: edifarhewch, a bedyddier pawb o honoch yn enw yr Iesu Grist er maddeuant pechodau, a chwi a dderbyniwch ddawn yr Yspryd glân.

39Canys i chwi y mae yr addewid, ac i’ch plant, i bawb ym mhell, pa rai bynnac a alwo yr Arglwydd ein Duw ni.

40Ac â llawer o ymadroddion eraill y testiolaethodd ac y cynghorodd, gan ddywedyd, ymgedwch rhag y genhedlaeth anhydyn hon.

41Am hynny y rhai a dderbyniasant yn ewyllyscar ei air ef, a fedyddiwyd, a chwannegwyd at y dydd hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau.

42Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth yr apostolion, â chymdeithas, ac yn torri bara, ac mewn gweddiau.

43Ac ofn a gyfodes ar bawb, a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion.

44A phawb a’r a gredâsant oeddynt yn vn lle, a phob peth ganddynt yn gyffredin.

45Ac hwy a werthâsant eu meddiannau, a’u da, ac a’u rhannasant i bawb, fel yr oedd yr eisieu ar neb.

46Ac yr oeddynt yn parhau beunydd yn y Deml yn gytun, gan dorri bara o dŷ i dŷ, a chan gymmeryd bwyd mewn llawenydd, a symledd calon:

47Gan foli Duw, a chael ffafor gan yr holl bobl, a’r Arglwydd a chwanegodd at yr Eglwys beunydd y rhai fyddent gadwedig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help