1Weithian fy-mrodyr byddwch lawen yn yr Arglwydd, nid blin gennif fi scrifennu yr vn pethau attoch, ac i chwithau i mae yn diogel.
2Gochelwch gŵn: gochelwch ddrwgweithwyr: gochelwch rhag cydtoriad.
3Canys enwaediad ydym ni, y rhai ydym yn addoli Duw yn yr Yspryd, ac yn gorfoleddu yng-Hrist Iesu, ac nid yn ymddyried yn y cnawd.
4Ac er bod gennif achos i ymddyried yn y cnawd: o thybia nêb arall y gall ymddyried yn y cnawd, mwy fi:
5Wedi fy enwaedu yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Beniamin, yn Ha frodyr, dilynwch fi, ac edrychwch ar y rhai sy yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi.
18 Rufei 16.17. Canys llawer a rodiant am ba rai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr awrhon yr ydwyf yn dywedyd i chwi dan ŵylo bod yn elynion croes Crist.
19Y rhai y mae eu diwedd yn gyfrgoll, bol y rhai sydd yn dduw a’n gogoniant yn wradŵydd iddynt, y rhai y mae eu meddwl am bethau daiarol.
20Canys ein gwlâdwriaeth sydd yn y nefoedd, o’r lle yr ydym yn edrych am yr 1.Cor.1.7. Tit.2.11.Iachawdr yr Arglwydd Iesu Grist.
21Yr hwn a gyfnewidia ein corph gwael fel y gwnêler yn vn ffurf a’i gorph gogoneddus ef, o herwydd y grym, trwy yr hwn y dichon efe ddarostwng pôb dim iddo ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
