1Pa ham Act.4.25.y terfysca y cenhedloedd? ac y bwriada y bobloedd yn ofer?
2Y mae brenhînoedd y ddaiar yn codi i fynu, a’r penaethiaid yn ymgynghori yng-hyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.
3Drylliwn eu rhwymau hwy: a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.
4 Dihareb.1.26. Yr hwn sydd yn presswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd ai gwatwar hwynt.
5Yna y llefara efe wrthynt yn ei lîd, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.
6Minne a ossodais fy Mrenin ar Sion fy mynydd sanctaidd.
7Mynegaf y ddeddf a ddywedodd yr Arglwydd wrthif: Act.13.26,33. Heb.1.5.fy mâb ti, myfi heddyw a’th genhedlais.
8Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti: a therfynau y ddaiar i’th feddiant.
9Briwi hwynt â gwialen haiarn, maluri hwynt fel llestr pridd.
10Gan hynny’r awr hon, ô frenhinoedd byddwch synhwyrol: barn-wŷr y ddaiar, cymmerwch ddŷsc.
11Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn: ac ymlawenhewch mewn dychryn.
12Cussênwch y mâb, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gynneuo ei lîd ef ddim: gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
