1Ym meddiant dŷn y mae meddyliau’r galon: ond ymadrodd y tafod sydd oddi wrth yr Arglwydd.
2Gŵr a dyb yn ei olwg ei hûn fod ei hôll ffyrdd yn lan: ond yr Arglwydd a bwysa yr ysprydion.
3Treigla dy holl weithredoedd ar yr Arglwydd: a’th feddyliau a gyfarwyddir.
4Yr Arglwydd a wnaeth bôb peth er ei fwyn ei hûn: a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg.
5Ffiaidd gan yr Arglwydd bôb dŷn vchel galon: er maint fyddo ei gymmorth ni bydd dieuog.
6Drwy drûgaredd a gwirionedd y deleuir pechod: am hynny trwy ofn yr Arglwydd ymado oddi wrth ddrwg.
7Pan fydd ffyrdd gŵr yn rhyngû bodd i’r Arglwydd: efe a bar iw elynnion fod yn heddychol ag ef.
8 Pen.15.16|PRO 15:16. Psal.37.16. Gwell yw ychydic trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.
9Calon dŷn a ddychymmyg ei ffordd: ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef.
10Bydded pwyll yng-wefusau’r brenin: rhag gŵyro ei enau ef mewn barn.
11Pwysau a chlorian cywir yr Arglwydd ai pie: ei waith ef yw hôll gerrig y gôd.
12Ffiaidd yw i frēhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys drwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd.
13Gwefûsau cyfiawn sydd gymmeradwy gan frenhinoedd, a’r brenin a gâr a draetho iniawndeb.
14Digofaint y brenin sydd megis cennad angeu: ond gŵr doeth ai bodlona hi.
15Yn siriol wynebpryd y brenhin y mae bywyd: ai ewyllys da ef sydd megis cwmylau glaw diweddar.
16Cael doethineb, ô mor well yw nag aur cloddiedig: a chael pwyll, mwy dymunol yw nag arian.
17Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid.
18Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac vchelder yspryd o flaen cwymp.
19Gwell yw bod yn ostyngedig gyd a’r gostyngedig: na rhannu’r yspail gyd a’r beilchion.
20Y call y ei fatter a ddaw i ddaioni: a’r Deut.11.14|DEU 11:14. pen.8.10.|PRO 8:10. Psal.125.1neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, ô gwyn ei fyd hwnnw.
21Y doeth ei galon a elwir yn ddehallus, a melysder y gwefusau a chwanega ddysceidiaeth.
22Ffynnon y bywyd yw deall iw pherchennog: ond addysc ffyliaid yw ffolineb.
23Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol: a thrwy ei wefusau y chwanega addysc.
24Geiriau têg ydynt ydynt megis dil mel, yn felus i’r enaid, ac yn iachus i’r escyrn.
25 Pen.14.12. Mae ffordd a dybir ei bod yn iniawn yng-olwg gŵr: ond ei ddiwedd a dywys i farwolaeth.
26Y dyn blîn a bar flinder iddo ei hun: canys ei ymadrodd sydd yn troi arno ei hun.
27Dŷn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusa yr erys efe fel tân poeth.
28Dŷn cyndyn a bar ymryson: a’r athrodwr a nailltua dywysogion.
29Gŵr traws a huda ei gymmydog: ac ai tywys ar hyd ffordd nid yw dda.
30Y neb a gâed ei lygaid wrth ddychymmyg trawsedd, ac a friwa yn ei eiriau a wna ddrwg.
31Coron anrhydeddus yw henaint, os bydd hi mewn ffordd cyfiawnder.
32Gwell ywr diog i ddigofaint na’r cadarn: a’r neb â reola ei yspryd ei hûn sydd well na’r hwn â enillo ddinas.
33Y coel-bren â fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae ei holl lywodraethiad ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.