Iosuah 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Y noddfeudd y rhai a barodd yr Arglwydd eu gosod yn y wlâd, ai hachosion.

1Yna y llefarodd yr Arglwydd wrth Iosuah gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd: Exod.21.13. Num.35.6. Deut.19.2.moeswch i chwi ddinasoedd nodded y rhâi y lleferais wrthych drwy law Moses.

3Fel y ffŷ yno y llofrudd yr hwn a laddo neb mewn amryfusedd, mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhac dialudd y gwaed.

4Pan ffŷ efe i vn o’r dinasoedd hynny yna safed efe ddrws porth y ddinas, a llefared lle y clywo henuriaid y ddinas honno ei achosion: yna cymmerant ef attynt i’r ddinas, a rhoddant lê iddo, fel y trigo efe gyd a hwynt.

5Ac os dialudd y gwaed a erlid ar ei ôl ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y tarawodd efe ei gymmydog, ac nid oedd gâs ganddo mo honaw ef o’r blaen,

6Ond triged efe yn y ddinas honno nes iddo sefyll o flaen y gynnulleidfa i farn: Num.35.28nes marw yr arch-offeiriad yr hwn fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued iw ddinas ac iw dŷ, sef y ddinas yr hon y ffoase efe o honi.

7Am hynny y cyssegrasant Cedes yn Galile, ym mynydd Nephthali, a Sichem ym mynydd Ephraim: a chaer Arbah (honn Hebron) ym mynydd Iuda.

8Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen o du’r dwyrain i Iericho y rhoddasant Deut.4 43.|DEU 4:43. 1.Cron.6.78.Beser (yn yr anialwch ar y gwastadedd) o lwyth Ruben: a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasses.

9Y rhai hynn oeddynt ddinasoedd y cyfarfod i holl feibion Israel, ac i’r dieithr yr hwn a ymdiethie yn eu mysc hwynt, fel y ffôe pawb iddynt a’r a ladde neb mewn amryfusedd: ac na bydde marw drwy law dialudd y gwaed nes iddo sefyll o flaen y gynnulleidfa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help