1.Timotheus 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Pa wedd y mae ceryddu pob gradd. 3 Trefn o blegit gwragedd-gweddwon. 17 A gwenidogion eglwysic. 24 Amryw farn am bechodau.

1Na cherydda henaf-gwr, eithr cynghora megis tad, y rhai ieuaingc megis brodyr.

2Yr hên wragedd megis mammau, y rhai ieuaingc megis chwiorydd, â phob diweirdeb.

3Anrhydedda’r gwragedd-gweddwon y rhai sy wir weddwon.

4Eithr o bydd vn weddw, ac iddi blant neu ŵyrion, dyscant yn gyntaf lywodraethu yn dduwiol eu tŷ eu hun, a thalu’r pwyth iw rhieni, canys hynny sydd dda a chymmeradwy ger bron Duw.

5Eithr yr hon sydd wir weddw, ac vnic, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbil, a gweddion nôs a dydd.

6Ond y ddrythyll, er ei bod yn fyw fu farw.

7Gorchymyn y pethau hyn, fel y byddant ddiargyoedd.

8Ar o bydd neb nid ymgeleddo yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw nag vn di-ffydd.

9Na ddewiser gwraig weddw tān drugainmlwydd oed, yr hon fu wraig vn gŵr:

10Ac yn dda ei gair am weithredoedd da, os magodd hi ei phlant, os bu letteugar, o golchodd hi draed y sainct, o chynhorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.

11Eithr gwrthod y gweddwon ieuaingc: canys pan ddechreuant ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant:

12Yn cael colledigaeth am iddynt dorri y ffydd gyntaf.

13Ac felly hefyd y dyscant rodio’r tai oddi amgylch yn segur, ac nid yn segur yn vnic: eithr hefyd ac yn ofer-ieithus, ac yn rhodrescar, yn adrodd pethau anweddaidd.

14Myfi a fynnwn am hynny i’r rhai ieuaingc briodi, planta, gwarchod y tŷ, ac na roddant ddim achos i’r gwrthwyneb-ŵr i oganu.

15Canys rhai eusus a ymchwelasant ar ôl Satan.

16O bydd gŵr ffyddlon, ne wraig ffyddlon, a gwragedd gweddwon ganddynt cynhorthwyant hwy, ac na ormeser ar yr eglwys, fel y byddo digonedd i’r rhai sy wîr weddwon.

17Yr henuriaid y rhai sy yn llywodraethu yn dda, ydynt yn haeddu Deut.5.16.parch dau-ddyblyg, yn enwedig y rhai sy yn poeni yn y gair, ac mewn athrawiaeth.

18Canys y mae yr scrythur yn dywedyd, Deut.25.4. 1.cor.9.9.na chae safn yr ŷch yr hwn sydd yn dyrnu yr ŷd: hefyd y mae’r * gweithiŵr yn heuddu ei gyflog.

19Na dderbyn achwyn yn erbyn henuriad, oddieithr tann ddau neu dri o dystion.

20Y rhai a bechant, cerydda hwy yn gyhoeddus, fel y gallo’r lleill ofni.

21 Math.10.10. luc.10.7. Gorchymyn yr ydwyf ger bron Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, a’r etholedig angelion, gadw o honot y pethau hyn yn ddi-duedd, na gwneuthur dim o gyd-partiaeth.

22Na ddot dy ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.

23Nac ŷf ddwfr yn hwy, eithr arfer ychydig wîn, er mwyn dy gylla a’ch fynych wendid.

24Pechodau rhyw rai yddynt amlwg o’r blaen yn rhagymddwyn i’r farn: a’r eiddo eraill yn dyfod ar yr ôl.

25Ac felly hefyd gweithredoedd da ydynt amlwg o’r blaen, a’r rhai fyddant amgenach ni’s gellir eu cuddio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help