2.Samuel 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Dafydd wedi cymmodi ag Absalom, heb adel iddo ddyfod yn ei wydd tros ddwy flynedd. 29 Y modd y cafodd efe ddyfod yng-wydd ei dad o’r diwedd.

1Yna Ioab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tu ag at Absalom.

2Ac Ioab a anfonodd i Thecoab, ac a ddûg oddi yno wraig ddoeth: ac a ddywedodd wrthi hi: cymmer arnat attolwg alaru, a gwisc yn awr alar-wisc, at nac ymîra ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru eusus er ys llawer a ddyddiau am y marw.

3A thyret at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn: ac Ioab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.

4Yna y wraig o Theocab a ddywedodd wrth y brenin, canys hi a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymmodd, ac a ddywedodd, cynnorthwya ô frenin.

5Yna y dywedodd y brenin wrthi hi, beth iti? a hi a ddywedodd, yn wîr gwraig weddw ydwyfi, canys fyng-wr a fu farw.

6Ac i’th lawforwyn dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonnasant yn y maes, ond nid ymthrywŷn-wr rhyngddynt hwy: a’r naill a darawodd y llall, ac ai lladdodd ef.

7Ac wele yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, dyro yr hwn a darawodd ei frawd fel y lladdom ni ef am enioes ei frawd yr hwn a laddodd efe, ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn yr hwn a adawyd, heb adel im gŵr enw, nac eppil ar wyneb y ddaiar.

8A’r brenin a ddywedodd wrth y wraig, dôs i’th dŷ dy hun: a mi a roddaf orchymyn o’th blegit.

9Yna y dywedodd y wraig o Thecoah wrth y brenin, y camwedd hwn arnafi fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhâd i: a’r brenin ai orsedd-faingc ef yn ddiniwed.

10A’r brenin a ddywedodd, dŵg attafi yr hwn a yngena wrthit, fel na chwanego efe mwyach gyffwrdd a thi.

11Yna hi a ddywedodd, cofied attolwg y brenin dy Arglwydd Dduw, rhac amlhau dialwŷr y gwaed i ddestruwio, a rhac difetha o honynt hwy fy mab i: ac efe a ddywedodd mai byw yr Arglwydd ni syrth o wallt dy fab di i lawr.

12Yna y dywedodd y wraig, attolwg, caffed dy law-forwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin: yntef a dywedodd dywet.

13A’r wraig a ddywedodd, pa ham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw? neu y mae yr brenin yn llefaru y gair hwn megis beius? gan na ddûg y brenin adref ei herwr.

14Canys gan farw yr ydym ni yn marw, îe fel dyfroedd wedi eu tywallt a’r y ddaiar, y rhai ni chesclit: ac-ni eiriach Duw enioes, etto efe a feddwl foddion, fel na yrro efe ymmaith yr herwr oddi wrtho ef.

15Ac yn awr mi a ddaethum i ymddiddan a’m harglwydd frenin am y peth hyn, o blegit i’r bobl fy nychrynnu i: am hynny y dywedodd dy law-forwyn, ymddiddanaf yn awr a’r brenin, ond odid efe a wnaiff y brenin ddymuniad ei law-forwyn.

16A’r brenin a wrendu, fel y gwaredo efe ei law-forwyn o law y gŵr fy nifethai, a’m mab hefyd o etifeddiaeth Dduw.

17A’th law forwyn a ddywedodd, bydded attolwg gair fy arglwydd frenin yn gyssur: (canys fel angel Duw yw fy arglwydd frenin i wrando yna, a’r drwg) a’r Arglwydd dy Dduw fyddo gyd a thi.

18Yna’r attebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, na chêla attolwg oddi wrthifi y peth yr hwn yr ydwyf yn ei ofyn i ti: a dywedodd y wraig, llefared yn awr fy arglwydd frenin.

19A’r brenin a ddywedodd, a llaw Ioab gyd a thi yn hyn oll? yna’r attebodd y wraig, ac y dywedodd, mai byw dy enaid ti fy arglwydd frenin nid gwiw ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin, canys dy wâs Ioab a orchymynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng-enau dy law-forwyn.

20Ar fedr troi wyneb y chwedl y gwnaeth dy wâs Ioab y peth hyn: ond fy arglwydd ddoeth fel doethineb angel Duw i ŵybod yr hyn oll ar y ddaiar.

21A’r brenin a ddywedodd wrth Ioab, wele yn awr gwneuthum y peth hyn: dôs, a dwg y llangc Absalom yn ei ôl.

22Yna Ioab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymmodd, ac a fendithiodd y brenin: ac Ioab a ddywedodd, heddyw y gwybu dy wâs di gael o honof ffafor yn dy olwg di (fy arglwydd frenin) am i’r brenin gyflawni dymuniad ei wâs.

23Ac Ioab a gyfododd, ac a aeth i Gesur: ac a ddûg Absalom i Ierusalem.

24A’r brenin a ddywedodd, troed iw dy ei hûn ac nac edryched fy wyneb i: felly Absalom a drôdd iw dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.

25Ac nid oedd ŵr mor dêg mor glodfawr ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed, hyd ei goryn nid oedd wrthyni ynddo ef.

26A phan gneifie efe ei benn, (canys vn waith yn y flwyddyn y cneifie efe ei wallt, o herwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe ai cneifie ef) yna efe a bwyse wallt ei benn yn ddau cant sicl wrth bwys y brenin.

27A thri mab a anwyd i Absalom, ac vn ferch, ai henw hi Thamar: yr oedd hi yn wraig dêg yr olwg.

28Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Ierusalem: ac ni welodd wyneb y brenin.

29Yna Absalom a ddanfonodd at Ioab, iw anfon ef ac y brenin, ond ni fynne efe ddyfod atto ef: ac efe a anfonodd etto’r ailwaith, ond ni fynne efe ddyfod.

30Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision gwelwch randîr Ioab ger fy llaw i, a haidd ganddo ef yno, ewch a lloscwch hi a thân: a gweision Absalom a loscasant y rhan-dîr a thân.

31Yno Ioab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom iw dŷ, ac a ddywedodd wrtho ef, pa ham y lloscodd dy weision di y rhā-dir yr hon gennifi a thân?

32Ac Absalom a ddywedodd wrth Ioab, wele mi a anfonais attat ti gan ddywedyd, tyret ymma fel i’th anfonwyf di at y brenin i ddywedyd, i ba beth y daethum i o Gesur? gwell fuase i mi fy i yno etto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin, ac od oes gamwedd ynof, yna lladded fi.

33Yna Ioab a ddaeth at y brenin, ac a fynegodd iddo ef, ac efe a alwodd am Absalom, yntef a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymmodd iddo i lawr ar ei wyneb ger bron y brenin: a’r brenin a gussanodd Absalom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help