Susanna 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

Y ddau lywodraeth-wr yn chwennychu Susanna. 19 Hwynt yn ei dal hi yn vnic yn yr ardd, 20 ac yn ceisio ei hudo hi i gyd-orwedd â hwynt. 23 Hithe yn ddewisach genddi beidio â phechu yn erbyn Duw, er bod hynny yn enbydrwydd am ei henioes. 45 Daniel yn ei gwaredu hi. 62 Rhoddi y llywodraeth-wyr i farwolaeth.

1Yr oedd gŵr yn presswylio yn Babilon ai enw Ioacim.

2Ac efe a briododd wraig ai henw Susanna, merch Helcias, yr hon oedd lân iawn, ac yn ofni’r Arglwydd.

3Ei thad hi ai mam oeddynt bobl ffyddlon gyfiawn ac a ddyscasent eu merch yn ôl cyfraith Moses.

4A Ioacim oedd gyfoethog iawn; ac iddo ef yr oedd gardd dêg yn gyfagos i’w dŷ. At yr hwn yr ymgynhulle yr Iddewon, am ei fod efe yn anrhydeddusach nâ neb.

5A’r flwyddyn hōno y rhoddwyd dau henuriad o’r bobl yn farnwŷr, am y rhai y dywedodd yr Arglwydd mai o Babilon y daeth yr anwiredd, oddi wrth y barnwŷr hynaf, y rhai a gymmerent arnynt lywodraethu’r bobl.

6Y rhai hyn oedd yn aros yn nhŷ Ioacim: ac attynt y tramwye pawb oll a’r a ymgyfreithient.

7A (phan fydde ’r bobl yn myned ymmaith ganol y dydd) y bydde i Susanna fyned i rodio i ardd ei gŵr.

8A’r ddau henuriad ai gwelent hi beunydd yn myned i mewn, ac yn rhodio: fel yr oeddynt mewn chwant iddi hi:

9A hwy a lygrasent eu meddwl, fel na ddychwelent eu llygaid i edrych tu a’r nefoedd, ac nad argofient am gyfiawn farnau.

10Ac er eu bod ill deuoedd yn gwŷnfydu o ei hachos hi: atto ni ddangose ’r naill y gofid oedd arno i’r llall,

11O herwydd bod yn wradwydd ganddynt ddangos eu bod mewn chwant iw chorff hi.

12A beunydd y disgwilient yn ddyfal am ei gweled hi.

13A’r naill a ddywedodd wrth y llall: awn i’r tŷ, am ei bôd hi yn bryd ciniaw.

14Yna’r aethant y naill oddi wrth y llall: ac troi a wnaethant eilchwel a dyfod i’r un man, ac wedi chwilio ’r achos rhyngddynt, cyffessu a wnaethant bôb un iw gilydd eu chwant, ac yn unfryd llunio amser y gallent ei chael hi ei hunan.

15Ac fel yr oeddynt yn disgwil amser cyfaddas, Susanna a aeth i mewn (fel yr arfere beunydd) a dwy forwyn gyd â hi yn unic, ar fedr ymolchi yn yr ardd, canys brŵd oedd

16Nid oedd neb yno onid y ddau henuriad, y rhai a ymguddiasent yno iw disgwil hi.

17A hi a ddywedod wrth ei morwyniō, dygwch i mi olew a sebon, o cheiwch ddryssau ’r ardd, fel y gallwyf i ymolchi.

18A’r morwynion a wnaethant fel yr archase hi, ac wedi iddynt gaeu drysseu ’r ardd hwy a aethant allan i ddrws dirgel, i gyrchu ’r petheu a archasid iddynt: eithr ni welsant mo’r henuriaid, o achos eu bod guddiedig.

19Ac fe ddarfu wedi i’r morwynion fyned allan, i’r ddau henuriad godi a rhedeg atti hi, a dywedyd:

20Wele ddrysseu ’r ardd yn gaead, fel na all neb ein gweled: yr ydym ni ein deuoedd mewn chwant i ti: cyd-orwedd â ni, a bydd gyd â ni.

21Os tydi ni wnei hynny, nyni a destiolaethwn yn dy erbyn fod gŵr ieuangc gyd â thi, ac anfon o honot y morwynion ymmaith oddi wrthit am hynny.

22Yna’r ochneidiodd Susanna gan ddywedyd: yr ydwŷf fi mewn cyfyngdra o’r ddeutu: os y peth hwn a wnafi, marwolaeth yw i mi, os minnau ni’s gwnaf, ni allaf fi ddiangc o’ch dwylo chwi.

23Etto mae yn ddewisach gennifi syrthio yn eich dwylo chwi yn ddieuog, na phechu gerbron yr Arglwydd: yna Susanna a ddolefawdd â llef uchel.

24Felly y llefodd y ddau henuriad yn ei herbyn hi.

25A’r naill a redodd, ac a agorodd ddryssau ’r ardd.

26Pan glybu tylwyth y tŷ y llefain yn yr ardd, myned a wnaethant i mewn i’r drws dirgel, i edrych beth a ddarfuase iddi hi.

27Eithr wedi i’r henuriaid ddywedyd eu chwedl, cywilyddio yn ddir fawr a wnaeth y gweision, o herwydd ni buase ’r fath air i Susanna o’r blaen.

28A thrannoeth, pan ddaeth y bobl i dŷ Ioacim ei gŵr hi: y ddau henuriad hefyd a ddaethant yno, yn llawn drwg feddwl i Susanna, ar ei rhoi hi i’w marwolaeth.

29A dywedasant yng-ŵydd y bobl, cyrchwch ymma Susanna ferch Helcias, gwraig Ioacim, a hwy a cyrchasant hi.

30Hithe a ddaeth ai rhieni, ai phlant ai holl geenedl.

31Susanna oedd dyner a phrydferth ei gwêdd.

32A’r rhai anwir hyn a barasant dynnu ymaith ei moled hi (canys yr oedd hi mewn moled) fel y gallent hwy borthi eu chwant âi thegwch hi.

33Yna ’r ŵylodd cynnifer un a’r a oedd yn ei chylch hi, a’r rhai oll ai hadwaenent hi.

34A’r ddau henuriad a safasant i fyny ym mhlith y bobl, ac a roddasant eu dwylo ar ei phen hi.

35A hithe yn ŵylo a edrychodd i fyny i’r nefoedd am fod ei chalon hi ai goglyd ar yr Arglwydd.

36A’r henuriaid a ddywedasant: pan oeddem ni yn rhodio ein hunain yn yr ardd, y daeth hi a dwy lawforwyn i mewn, ac wedi iddi hi eu hanfon hwynt ymmaith a chaeu ’r dryssau,

37Fe a ddaeth gŵr ieuangc atti yr hwn oedd yno yn guddiedig, ac a orweddodd gyd â hi.

38A phan welsom ninnau yng-hongl yr ardd y cyfryw anwiredd, ni a redasom attynt, ac a welsom fel yr oeddynt ynghyd.

39Ac ni allassom moi ddala ef am ei fod yn gryfach nâ ni, eithr efe a agorodd y drws, ac a ddiangodd.

40Wedi i ni ddala hon ni ai holassom hi, pwy oedd y gŵr ieuangc hwnnw, ac ni ddangose hi i ni: a hyn yr ydym ni yn ei destiolaethu.

41A’r gynulleidfa ai credodd hwynt megis henuriaid a barnwŷr y bobl: ac felly hwynt ai barnassant hi iw marwolaeth.

42Yna Susanna a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, O Dduw tragwyddol, i’r hwn y mae pob dirgelwch yn agored, ac a ŵyddost bob peth cyn ei ddigwydd,

43Ti a wyddost gam destiolaethu o honynt yn fy erbyn, ac yn awr y mae yn rhaid i mi farw, er na wneuthym i’m hoes y pethau y mae’r gwŷr hyn wedi eu drwg ddychymyg i’m herbyn.

44A’r Arglwydd a wrādawodd ar ei llef hi:

45Ac a a gyffrôdd ysbryd sanctaidd bachgennyn ieuangc ai enw Danielwrth, yr hwn (a hi yn myned iw marwolaeth) a lefodd yn uchel:

46Gwirion wyf fi oddi wrth waed y wraig hon.

47A’r holl bobl a droesant atto ef, ac a ddywedasant, beth yw’r ymadrodd hwn a ddywedaist ti?

48Ac efe a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd: ô Israeliaid a ydych chwi mor ansynhwyrol a gadel yn euog ferch ô Israel, heb lwyr chwilio a gwybod y gwirionedd?

49Troiwch eilchwel i’r frawdle: canys testiolaethu a wnaethant gelwydd yn ei herbyn hi.

50A’r holl bobl a droesant ar ffrwst: a’r hynafgwŷr a ddywedassant wrtho, tyret eistedd yn ein plith a dangos i ni, gan i Dduw dy roddi ti fraint henuriad.

51A Daniel a ddywedodd wrthynt, nailltuwch hwynt oddi wrth ei gilydd ymhell, a mi ai holaf hwynt.

52Phan ddarfu nailltuo ’r naill oddi wrth y llall, efe a alwodd un ohonynt, ac a ddywedodd wrtho: ô hên ddiffeithwr yr awran y daeth dy bechodau yn dy erbyn y rhai a wnaethost o’r blaen.

53A’th gam farnau a fernaist, yn gadel yn euog y gwirion, ac yn rhyddhau ’r anwir: lle y dywedodd yr Arglwydd, na ladd y gwirion a’r cyfiawn.

54Felly yn awr os hon a welaist ti, dangos dan ba ryw bren y gwelaist ti hwynt yng-hyd? yna’r attebodd yntef, dann lentysc-bren.

55A Daniel a ddywedodd, gwych y dywedaist gelwydd yn erbyn dy ben dy hun, canys angel yr Arglwydd wrth farn Duw a’th wahana di yn ddau.

56Yna wedi troi hwnnw heibio, efe a barodd ddyfod â’r llall, ac a ddywedodd wrtho: ô hiliogaeth Canaan, ac nid hil Iuda, tegwch a’th dwyllodd di, a chwant a lygrodd dy galon.

57Fel hyn y gwnaethoch chwi â merched Israel, y rhai rhag ofn a gytunasant â chwi: eithr merch Iwda

58Ni chynhwysodd ddim o’ch anwiredd, felly dywet i mi dan ba ryw bren y deliaist di hwynt yng-hyd? Ac efe a attebodd, tann brinwŷdden.

59A Daniel a ddywedodd wrtho: gwych y dywedaist ditheu hefyd gelwydd yn erbyn dy ben dy hun: canys y mae angel yr Arglwydd yn aros â’r cleddyf ganddo i’th dorri di yn dy hanner, ac i’ch difetha chwi eich deuoedd.

60Yna y llefodd yr holl gynulleidfa â llef uchel gan foli’r Arglwydd yr hwn a wared y sawl a ymddiriedo ynddo ef.

61A hwynt a godasant yn erbyn y ddau henuriad, (canys Daniel ai gosodase hwynt ar eu geiriau eu hunain o gam-destiolaeth)

62A hwy a wnaethant iddynt y modd yr amcanasent hwy wneuthur ar gam âi cymydog, ac ai rhoddasant iw marwolaeth, yn ôl cyfraith Moses: felly y gwaredwyd y gwaed gwirion y dydd hwnnw.

63Yna Helcias ai wraig a glodfawrasant Dduw dros ei merch Susanna gyd ag Ioacim ei gŵr hi, ai holl genedl, am na chawsid ynddi ddim gwradwyddus.

64Ac o’r dydd hwnnw allan y daeth Daniel mewn parch mawr ym mhlith y bobl.

65A’r brenin Astiages a roddwyd at ei henafiaid, a Cyrus y Persiad a gymmerodd ei frenhiniaeth ef.

Terfyn Hystoria Susanna.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help