1 Nac ymddigia o herwydd yr annuwolion, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnant anwiredd.
2Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glas-wellt, ac y gwywant fel gwyrdd lyssiau.
3Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna ddâ: trig yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.
4Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd, ac efe a ddyru i ti ddymuniadau dy galon.
5Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddyriet ynddo, ac efe a gyflawna
6Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni: a’th iniondeb di fel hanner dydd.
7Disgwil yn ddistaw wrth yr Arglwydd, ac ymddyriet ynddo: nac ymddigia wrth yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, nac wrth y gŵr yr hwn sydd yn gwneuthur amcan.
8Paid â digofaint, a gad ymmaith gynddaredd: nac ymofidia chwaith i ddrygu.
9Canys torrir ymmaith y drwg-ddynnion, a’r rhai a ddisgwiliant wrth yr Arglwydd, hwyntwy a etifeddant y tir.
10Am hynny etto ychydigyn, ac ni yr annuwiol, a thi a edrychi am y lle y bu efe, ac ni dim honaw.
11Eithr y rhai gostyngedic a feddant y ddaiar, ac ai diddenir gan liaws tangneddyf.
12Yr annuwiol a amcâna yn erbyn y cyfiawn, ac a escyrnyga ei ddannedd arno.
13Yr Arglwydd ai gwatwar ef, canys gwelodd fod ei ddydd ar ddyfod.
14Yr annuwolion a dynnâsant eu cleddyf, ac a annelâsant eu bŵa, i fwrw i lawr y tlawd, a’r anghenog, i ladd y rhai iniawn ffordd.
15[Eithr] eu cleddyf a aiff yn eu calon eu hunain, ai bwâu a ddryllir.
16Gwell prinder y cyfiawn, na mawr olud annuwolion cedyrn.
17Canys breichiau’r annuwolion a ddryllir: a’r Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.
18Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith, ai hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
19Ni’s gwaradwyddir hwy yn amser y dryg-fyd, ac yn amser newyn y cânt ddigon.
20Eithr collir yr annuwolion, a gelynnion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: gyd a’r mŵg y diflannant.
21Yr annuwiol a echŵyna, ac ni thâl adref: a’r cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.
22Canys y rhai a fendîgo efe a etifeddant y tir: a’r rhai a felldithio efe a dorrir ymmaith.
23Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr: a da fydd ganddo ei ffordd ef.
24Er iddo gwympo, ni fwrir ef ymmaith: canys yr Arglwydd sydd yn gynnal ai law.
25Mi a fum ieuangc, ac yr ydwyf yn hên: ac ni welais y cyfiawn wedi ei adu, nai hâd yn cardota bara.
26Pob amser y mae y cyfiawn yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg: ai hâd y fendith.
27Cilia di oddiwrth ddrwg, a gwna ddâ, a chyfannedda yn dragywydd.
28Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edu ei sainct: cedwir hwynt yn dragywydd, a hâd yr annuwolion a dorrir ymmaith.
29Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaiar, ac a bresswyliant arni yn dragywydd.
30Genau y cyfiawn a fynêga ddoethineb, ai dafod a draetha farn.
31Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef, ai draed ni lithrant.
32Yr annuwiol a graffa ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.
33Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni âd ef yn euog pan ei barner.
34Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th dderchafa fel yr etifeddech y tir: gwêli pan ddifether yr annuwolion.
35Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigoc, fel y lawryf gwyrdd.
36Er hynny efe a aeth ymmaith, ac wele nid honaw: a mi ai ceisiais, ni cheid ef.
37Ystyr yr hyn sydd berffaith, ac edrych at yr iniawn, canys diwedd y gŵr hwnnw tangneddyf.
38Canys y trawsion a gŷd ddestruwir, diwedd yr annuwolion a ddiwreiddir.
39A iechydwriaeth y rhai cyfiawn gan yr Arglwydd: efe fydd eu nerth hwynt yn amser trallod.
40Canys yr Arglwydd ai cymmorth hwynt, ac ai gwared, efe ai gwared hwynt rhag yr annuwolion, ac ai ceidw hwynt, gan iddynt ymddyried ynddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.