1Ac mi a ddywedais yn fyng-halon, tyret yn awr mi a gymmyscaf win yn llawen, cymmer dy fyd yn esmwyth, ac wele hyn hefyd sydd wagedd,
2Mi a ddywedais wrth y chwerthinog, yr ydwyt ti yn ynfydu, ac wrth y llawen, pa beth yr ydwyt yn eiu wneuthur felly?
3Mi a fwriedais yn fyng-halon roddi fyng-nhawd i’r gwîn (pan oeddwn yn arwain fyng-halon mewn doethineb) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn ai da i feibion dynnion yw yr hyn a wnânt hwy tann y nefoedd hôll ddyddiau eu bywyd.
4Mi a wneuthum fyng-waith mawr, mi a adailadais i mi dai, ac a blennais win-llannoedd.
5Mi a wneuthum erddi a pherllannau, lle y gosodais brennau o bôb ffrwyth.
6Mi a wneuthum lynnau dwfr i ddwfrhau â hwynt y llwynau i’r-goed.
7Mi a dderparais weisiō, a morwyniō: hefyd yr oedd i mi wenidogion caeth, îe yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid tu hwnt i bawb ôll a fuasent o’m blaen i yn Ierusalem.
8Mi a bentyrrais i mi arian ac aur, a thryssor pennaf brenhinoedd, a thalaithiau: mi a ddaperais i mi gantorion a chantoressau a phôb rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynnion.
9A mi a dyfaswn ac a gynnyddaswn yn fwy nâ neb a fuase o’m blaen i yn Ierusalem: o blegit fy noethineb oedd yn sefyll gyd â mi.
10Beth bynnac a ddeisyfie fy llygaid, ni ommeddwn hwynt, ni attaliwn fyng-halon oddi wrth ddim hyfryd: ond fyng-halon a lawenyche yn fy holl lafur, a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur.
11Mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethe fy nwylaw, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur, ac wele hyn oll wagedd a gorthrymder yspryd, megis ac nad oes dim buddiol tann yr haul.
12Ac am hynny mi a droais i edrych ar ddoethineb, ac ar bob ynfydrwydd a ffolineb (canys beth’r dyn a geisie ganlyn y brenin? y peth a wnaed eusus)
13Mi a welais yn ddiau fôd êlw doethineb vwch law ffolineb, fel êlw goleuni vwch law tywyllwch.
14 Dihar.17.24. Y doeth sydd ai lygaid yn ei benn: ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch, ac etto mi a welais yr vn damwain yn digwyddo iddynt oll.
15Ac am hynny y dywedais yn fyng-halon y peth a ddigwydda i’r ffôl a ddigwydda i minne, pa beth gan hynny a dâl i mi fôd yn ddoeth mwyach? ac mi a ddywedais yn fyng-halon, fod hyn hefyd yn wagedd.
16Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd, y pethau sydd yr awr hon yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: ac y mae y doeth yn marw fel yr annoeth.
17Ac am hynny câs gennif y bywyd hwn, canys drwg gennif y gorchwyl a wneir tann haul, canys hyn oll ydynt wagedd a gorthrymder yspryd.
18Câs gennif fy holl lafur, yr hwn yr ydwyfi yn ei gymmeryd tann haul, am fod yn rhaid i mi ei adel i’r neb a fydd ar fy ôl i.
19A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd y neb a fydd feistr ar fy holl lafur maufi, yr hwn mor gall a gymmerais tann haul? dymma wagedd hefyd.
20Ac am hynny mi a droais ymmaith heb obaith gennif am gael budd oddi wrth fy holl lafur yr hwn a gymmerais i tann yr haul.
21Canys y mae dŷn a lafuria yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn iniawn: ac y mae yn gorfod iddo roi rhan i’r neb ni lafuriodd yn ei geisio: hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder mawr.
22Canys beth sydd yng-weddill i’r dyn hwnnw oi oll lafur a gorthrymder ei galon yr hwn a gymmerodd efe tann haul,
23Yn ei holl ddyddiau y mae gorthrymder, yn ei oll lafur y mae dig, ie ni chymmer ei galon seibiant liw nôs: hyn hefyd sydd wagedd.
24Nid oes daioni mewn dŷn oddieithr iddo ef fwyta ac ŷfed, a pheri iw enaid gael daioni oi lafur: hyn hefyd a welais i o law Dduw ei hun.
25Pwy a ddichon fwynhau a phwy ai mwynhae mor fuan a’m fi?
26Canys i’r dŷn y gwelo efe yn dda y rhydd Duw ddoethineb, a gwybodaeth a llawenydd: ond i’r pechadur y rhydd efe boen i gasclu, ac i dyrru, iw roddi i’r neb y gwelo Duw yn dda: hynny hefyd sydd wagedd a gorthrymder yspryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.