Exodus 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.1 Moses ac Aaron yn dywedyd eu cennadwriaeth wrth Pharao. 6 Pharao yn gorthrymmu ’r bobl waeth waeth. 20 Y bobl yn digio wrth Moses ac Aaron.

1Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharao: fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, gollwng ymmaith fy mhobl fel y cadwant ŵyl i mi yn yr anialwch.

2A dywedodd Pharao, pwy’r Arglwydd, fell y gwrandawn i ar ei lais, i ollwng Israel ymmaith? yr Arglwydd nid adwen, ac Israel ni ollyngaf.

3A dywedasant hwythau, Duw’r Hebraaid a gyfarfu a ni: gad i ni fyned attolwg, daith tridiau yn yr anialwch fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw rhac iddo ein rhuthro a haint neu â chleddyf.

4Yna y dywedodd brenin yr Aipht wrthynt, Moses ac Aaron, pa ham y perwch i’r bobl beidio ai gwaith? ewch at eich clud.

5Pharo hefyd a ddywedodd, wele pobl lawer ydynt yn y wlad: a pharasoch iddynt beideio ai llwythau.

6A’m hynny y gorchymynnodd Pharao y dydd hwnnw: i’r rhai oeddynt feistred gwaith ar y bobl ai goruchwil-wyr, gan ddywedyd,

7Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur pridd-feini megis o’r blaen: elont eu hun a chasclant wellt iddynt.

8Er hynny rhifedi y pridd-feini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt, na leihewch o hynny: canys segur ydynt, am hynny y maent yn gweiddi gan ddywedyd, gad i ni fyned ac aberthu i’n Duw.

9Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo: fel nad edrychant am eiriau ofer.

10Yna meistred gwaith y bobl, ai goruchwyl-wyr a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl gan ddywedyd: fel hyn y dywedodd Pharao, ni roddaf wellt i chwi.

11Ewch chwi, a chymmerwch iwch wellt o’r lle y caffoch: er hynny ni leihair dim o’ch gwasanaeth.

12A’r bobl a ymwascarodd trwy holl wlad yr Aipht, i gasclu sofl yn lle gwellt.

13A’r meistred gwaith oedd yn eu pryssuro gan ddywedyd: gorphennnwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.

14A churwyd goruchwil-wyr meibion Israel y rhai a osodase meistred gwaith Pharao arnynt gan ddywedyd: pa ham na orphennasoch eich tasc ar wneuthur pridd-feini ddoe a heddyw: megis cyn hynny?

15Yna goruchwil-wyr meibion Israel a ddaethant, ac a lefasant ar Pharao gan ddywedyd: pa ham y gwnei fel hyn i’th weision?

16Gwellt ni roddir i’th weision, a gwnewch bridd-feini i ni meddant: ac wele dy weision a gurwyd a’th bobl di sydd ar y bai.

17Ac efe a ddywedodd segur segur ydych: am hynny ’r ydych chwi yn dywedyd, gad i ni fyned yr aberthom i’r Arglwydd.

18Am hynny ewch yn awr, gweithiwch ac ni roddir gwellt i chwi: etto chwi a roddwch yr cyfrif o’r priddfeini.

19A goruchwil-wyr meibion Israel ai gwelent eu hun mewn drwg pan ddywedyd: na leihewch o’ch pridd-feini dogn dydd yn ei ddydd.

20A chyfarfuant a Moses a Aaron yn sefyll ar eu ffordd hwynt: pan ddaethant allan oddi wrth Pharao.

21A dywedasant wrthynt, edryched yr Arglwydd a barned arnoch chwi: y rhai a barasoch i’n sawyr ddrewi ger bron Pharao, a cher bron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n llâd ni.

22Yna y dychwelodd Moses at yr Arglwydd ac a dywedodd: ô Arglwydd pa ham y drygaist y bobl hynn? i ba beth i’m hanfonaist?

23Canys er pan ddaethum at Pharao i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hynn: a chan waredu ni waredaist dy bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help