1Y Brenin mawr Artaxerxes fydd yn scrifennu hyn at y tywysogion a’r rhaglawiaid y rhai a ordeiniwyd ar saith ar hugain â chant o dalaithau o Iudia hyd Ethiop.
2Gan fy mod i yn gorchymyn cenhedloedd lawer, ac yn llywodraethu yr holl fyd, mi a ewyllysiais nad ymdderchafwn o herwydd cadernid, eithr gan lywodraethu yn addfwyn, ac yn llonydd bôb amser cael gosod y deiliaid yn wastad, a chan wneuthur y deyrnas yn llonydd ac yn hyffordd hyd y diwedd, i addewyddu heddwch yr hwn y maepob ddyn yn ei chwennych.
3A phan ymgynghorais i â chynghorwŷr pa fodd y dygid hyn i ben, Aman yr hwn a aeth yn rhagorol mewn doethineb gyd â nyni, ac sydd hyspus ei fod mewn dianwadal ewyllys da a sicer ffyddlondeb, yr hwn sydd yn cael yn ail anrhydedd yn y deyrnas a fynegodd i mi fod pobl adcas wedi ymgymscu â holl lwythau y bŷd, yn wrthwynebus eu cyfraith i bôb cenedl, ar yn esceuluso yn wastod orchymynnion brenhinoedd, fel na chynhelir y dywysogaeth yr hon yr ydym ni yn ei llywodraethu yn ddifai.
4Pan gawsom ninnau ŵybod y modd y mae y genhedlaeth hon yn vnic wedi ymosod i wrthwynebu pôb dŷn yn oestad, gan newidio, ac ymrafaelio a’r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, trwy ddwyn cyfreithiau dieithr, a chan gyflawni drygioni o’r gwaethaf, fel na chaffo ein brenhiniaeth ni gyflwr da:
5Am hynny y gorchymynnasom am y rhai a yspysir i chwi mewn scrifen oddi wrth Aman (yr hwn sydd swyddog ar matterion, ac yn ail i ni) eu llwyr ddifetha hwynt oll gyd â’r gwragedd, a’r plant drwy gleddyfau y gelynnion heb ddim trugaredd na thosturiaeth ar y pedwerydd dydd ar ddêc o Adar ’r deuddecfed mîs o’r flwyddyn bresennol hon:
6Fel y gadawo hyn allan y rhai oeddynt ac yn awr ydynt elynnion (wedi iddynt ddescyn i vffern) y matterion yn gwbl gymmwys, ac yn llonydd i ni,
7Yntef (gan feddwl am holl weithredoedd yr Arglwydd) a weddiodd, at yr Arglwydd, ac a ddywedodd: ô Arglwydd, Arglwydd holl-alluog Frenin, diau fod pob peth yn dy feddiant: ac nad oes a’th wrthwynebo dî pan fynnech achub Israel.
8O blegit ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaiar, a phob dim rhyfedd yn yr hyn sydd tann y nefoedd.
9Arglwydd pôb dim ydwyt ti hefyd, ac nid oes a’th wrthwyneba di, yr hwn ydwyt Arglwydd.
10Ti a adwaenost bôb peth, ti a ŵyddost ô Arglwydd nâd o draha, nac o falchder, nac o chwant gogoniant y gwneuthym i hyn, sef nad anrhydeddwn Aman falch: canys buaswn fodlon i gussanu ôl ei draed ef er iechydwriaeth i Israel: ond mi a wneuthym hyn rhag gosod o honof ogoniant dŷn goruwch gogoniant Duw, ac rhag addoli o honof neb ond tydi, ac nid o falchder y gwneuthym hyn.
11Yn awr gan hynny (ô Arglwydd Dduw Frenin) ar bet dy bobl: o herwydd y maent hwy yn edrych arnom ni i’n dinistrio, ac hwy a chwennychâsant ddifetha yr hon sydd o’r dechreuad yn etifeddiaeth i ti:
12Na ddiystyra y rann, yr hon a waredaist i ti dy hun o dîr yr Aipht.
13Gwrando fyng-weddi, a bydd drugarog wrth dy rann, a thro ein tristwch yn hyfrydwch, fel y gallom ni fyw, a moliannu dy enw di ô Arglwydd: ac na ddifetha enau y rhai ydynt yn dy glôdfori di ô Arglwydd.
14Felly Israel oll a lefâsant yn gryfaf y gallent: o blegit eu marwolaeth oedd o flaen eu llygaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.