Ezeciel 42 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLII.Trefn y stafelloedd y rhai oeddynt yn y Deml i’r offeiriaid, ac i’r petheu cyssygredic.

1Ac efe a’m dûg i’r cyntedd nesaf allan, tua ffordd y gogledd, ac a’m dûg i stafell ’r hon ar gyfer y llannerch neillduol yr hon ar gyfer yr adail, tua’r gogledd.

2Drws y gogledd ar gyfer hŷd y cant cufydd, a llêd y dêc cufydd a deugain.

3Ac ar gyfer yr vgain y rhai i’r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant, yr hwn i’r cyntedd nesaf allan, stafell ar gyfer stafell yn dair rhodfa yn ddêc cufydd o lêd, y ffordd o fewn vn cufydd, ai dryssau tua’r gogledd.

5A’r stafelloedd vchaf gulion, o herwydd yr stafelloedd oeddynt yn llyngcu y lleill y rhai isaf, a’r rhai canol o’r adailadaeth.

6Canys traianoc hwy, ac heb golofnau iddynt, fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na’r rhai isaf, ac na’r rhai canol o’r llawr

7A’r clawdd yr hwn oedd o’r tu allan ar gyfer yr stafelloedd tua’r cyntedd nesaf allan o flaen yr stafelloedd ddêc cufydd a deugain ei hyd,

8O herwydd hŷd yr stafelloedd yr rhai yn y cyntedd nesaf allan ddêc cufydd a deugain: ac wele o flaē y Deml cant cufydd.

9Ac oddi tann y stafelloedd hyn drws o du’r dwyrain, ffordd yr elid iddynt hwy o’r cyntedd nesaf allan.

10O fewn llêd clawdd y cyntedd tua’r dwyrain ar gyfer y llannerch neillduol, ac ar gyfer adail yr stafelloedd.

11A’r ffordd oi blaen hwynt yn ôl dull y stafelloedd y rhai oeddynt tua’r gogledd, vn hŷd â hwynt felly eu llêd hwynt: ai holl ddrysau, ie vn wedd oeddynt, ac yn agorid yr vn modd.

12Ac drws (fel drysau y stafelloedd y rhai tua’r deau) ym mhen y ffordd y ffordd ym mhen y clawdd yn iniawn tua yr dwyrain yn y ddyfodfa i mewn.

13Ac efe a ddyweddodd wrthif, stafelloedd y gogledd stafelloedd y deau y rhai ar gyfer y llannerch neilltuoll, stafelloedd y cyssegr y rhai hynny: lle y bwyttu’r offeiriaid y rhai a nessaant at yr Arglwydd y petheu sanctaidd cyssegredic, ac yno y gosodant y sanctaidd betheu cyssegredic, a’r bwyd offrwm, a’r pechaberth, a’r aberth tros gamwedd, canys lle cyssegredic

14A phan ddelo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o’r cyssegr i’r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad, y rhai y gwasanaethant ynddynt, am hwy yn sanctaidd: a gwiscant hwy wiscoedd eraill, pan nessaont i’r lle yr hwn i’r bobl.

15Pan orphennodd efe fesuro y tŷ o fewn, yna efe a’m dug i tua’r porth yr hwn ai wyneb tua’r dwyrain, ac ai mesurodd ef a amgylch ogylch.

16Efe a fesurodd du’r dwyrain â chorsen fessur, yn bump cant o gorsennau, wrth gorsen fessur oddi amgylch.

17Efe a fesurodd du yr gogledd yn bump cant corsen, wrth gorsen fesur oddi amgylch.

18Y tu deau a fesurodd efe yn bump cant corsen wrth gorsen fesur.

19Efe a aeth o amgylch i du y gorllewyn, ac a fessurodd bump cant corsen wrth gorsen fessur.

20Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef, mûr iddo ef o amgylch ogylch, yn bump cant o hŷd, ac yn bump cant o lêd, i wahanu rhwng y cyssegr a’r digyssegr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help