Numeri 29 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIX.Offrymmau’r wyth niwrnod cyntaf o’r seithfed mîs.

1Ac yn y seithfed mis, ar y cyntaf o’r mis y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, Lefit.23.24.dim caeth-waith nis gwnewch: dydd i ganu vdcyrn fydd efe i chwi.

2Ond offrymmwch offrwm poeth yn arogl esmwyth i’r Arglwydd: vn bustach ieuangc, vn hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl.

3Ai bwyd offrwm o bellied wedi ei gymmyscu drwy olew, tair decfed ran gyd a’r bustach, a dwy ddecfed ran gyd a’r hwrdd.

4Ac vn ddecfed ran gyd a phob oen, o’r saith oen.

5Ac vn bwch geifr yn bech aberth i wneuthur iawn trosoch.

6Heb law poeth offrwm y mis, ai fwyd offrwm, a’r poeth offrwm gwastadol, ai fwyd offrwm, ai diod offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt yn arogl esmwyth yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

7Ac ar y decfed o’r seithfed mîs hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, dim gwaith nis gwnewch.

8Ond offrymmwch yn boeth offrwm i’r Arglwydd o arogl esmwyth vn bustach ieuangc vn hwrdd, saith oen blwyddiaid, byddant berffaith-gwbl gennych.

9Ai bwyd offrwm o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, tair decfed ran god a bustach, a dwy ddecfed ran gyd a phob hwrdd.

10Bob yn ddecfed ran, gyd a phob oen o’r saith oen.

11Un bwch geifr yn bech aberth, heb law pech aberth yr iawn, a’r poeth offrwm gwastadol, ai fwyd offrwm, ai diod offrwm.

12Ac ar y pymthecfed dydd o’r seithfed mis cymanfa sanctaidd fydd i chwi, dim caethwaith nis gwnewch, eithr cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod.

13Ond offrymmwch yn offrwm poeth, yn aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd, dri ar ddec o fustych ieuaingc, dau hwrdd pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid, byddant berffaith-gwbl.

14Ai bwyd offrwm o beillied wedi ei gymmyscu drwy olew, tair decfed ran gyd a phob bustach, o’r tri bustach ar ddec: dwy ddecfed ran gyd a phob hwrdd o’r ddau hwrdd.

15A phob yn ddecfed ran gyd a phob oen, o’r pedwar oen ar ddec.

16Ac vn bwch geifr yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ei fwyd offrwm, ai ddiod offrwm.

17Ac ar yr ail dydd deuddeng mhustach ieuaingc, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl.

18Ai bwyd offrwm, ai diod offrwm, gyd a’r bustych, gyd a’r hyrddod, a chyd a’r ŵyn, yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod.

19Ac vn bwch geifr yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ai fwyd offrwm, ai ddiod offrwm.

20Ac ar y trydydd dydd vn bustach ar ddec, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl.

21Ai bwyd offrwm, ai diod offrwm gyd a’r bustych, gyd a’r hyrddod, a chyd a’r ŵyn, yn ôl eu rhifedi wrth y ddefod.

22Ac vn bwch geifr yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ai fwyd offrwm, ai ddiod offrwm.

23Ac ar y pedwerydd dydd deng-mhustach, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl.

24Eu bwyd offrwm, ai diod offrwm, gyd a’r bustych, gyd a’r hyrddod, a chyd a’r ŵyn yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod.

25Ac vn bwch geifr yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ei fwyd offrwm, ai ddiod offrwm.

26Ac ar y pummed dydd naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl.

27Ai bwyd offrwm, ai diod offrwm, gyd a’r bustych, gyd a’r hyrddod, a chyd a’r ŵyn yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod.

28Ac vn bwch yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ai fwyd offrwm, ai ddiod offrwm.

29Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl.

30Ai bwyd offrwm, ai diod offrwm, gyd a’r bustych, gyd a’r hyrddod, a chyd a’r ŵyn yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod.

31Ac vn bwch yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ei fwyd offrwm, ai ddiod offrwm.

32Ac ar y seithfed dydd saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl.

33Ai bwyd offrwm, ai diod offrwm, gyd a’r bustych, gyd a’r hyrddod, a chyd a’r ŵyn yn ol eu rhifedi, wrth eu defod.

34Ac vn bwch yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ei fwyd offrwm ai ddiod offrwm.

35Ar Lefit.23.36.yr wythfed dydd vchel-wŷl fydd i chwi, dim caeth-waith nis gwnewch.

36Ond offrymmwch yn offrwm poeth yn aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd, vn bustach, vn hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl.

37Eu bwyd offrwm, ai diod offrwm, gyd a’r bustach, a chyd a’r hwrdd, a chyd a’r ŵyn yn ôl eu rhifedi wrth y ddefod.

38Ac vn bwch yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ei fwyd offrwm, ai ddiod offrwm.

39Hyn a wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau, heb law eich addunedau, a’ch offrymmau gwirfodd, gyd a’ch offrymmau poeth, a’ch offrymmau bwyd, a’ch offrymmau diod, a’ch offrymmau hedd.

40A dywedodd Moses wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help