1Ac ym mysc y rhai seliedic Nehemias Hathirsatha mab Hacalia a Zidciah.
2Seraiah, Azaria, Ieremia.
3Pashur, Amaria, Malaciah.
4Hartus, Sebania, Maluc.
5Harim, Meremoth, Obadia.
6Daniel, Ginnethou, Baruc.
7Mesulam, Abia, Miiamin.
8Maazia, Bilgai, Semaia: dymma’r offeiriaid.
9A’r Lefiaid: Iesua mab Azania, Binnui, o feibion Hanadad Cadniel.
10Ai brodyr hwynt: Sebania, Hodiiah Celita, Pelaia, Hanan.
11Micha, Rehob, Hasabiah.
12Zaccur, Serebiah, Sebania.
13Hodiah, Bani, Beninu.
14Pennaethiaid y bobl Paros, tywysog Moab, Elam, Zathur Bani.
15Bunni, Azagad Bebai.
16Adonia, Bigua, Adin.
17Ater, Hizciah, Azzur.
18Hodia, Hasum, Bezai.
19Hariph, Anathoth, Nebai.
20Magpias, Mesulam, Hezir.
21Mesezabel, Zadoc, Iadua.
22Pelatia, Hanan, Ananiah.
23Hosea, Hananiah, Hassub.
24Halohes, Pilha, Sobec.
25Rehum, Hasabna, Maaseiah.
26Achia hefyd, Chanan, Anan.
27Maluc, Harim, Baanah.
28A’r rhann arall o’r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a’r a oedd naillduedic oddi wrth bobl y gwledydd ac gyfraith Dduw, eu gwragedd hwynt, eu meibion, ai merched: pawb a’r a oedd yn medru deall.
29Eu pennaethiaid ai cadarnhausant tros eu brodyr, ac a ddaethant mewn rhaith a llŵ ar rodio yng-hyfraith Dduw, yr hon a roddasid drwy law Moses gwâs Duw: ar gadw hefyd, ac ar wneuthur holl orchymynnion yr Arglwydd ein Duw ni, ai farnedigaethau, ai ddeddfau.
30Ac ar na roddem ein merched i bobloedd y wlâd hon: ac na chymmerem eu merched hwynt i’n meibion ni.
31Ac pobl y tîr yn dwyn marchnadoedd, neu ddm llynniaeth ar y ddydd Sabboth iw werthu, na chymmerem ganddynt ar y Sabboth, neu ar y dydd sanctaidd: ac Lefit 25.4.|LEV 25:4. Deut.15.1.y gadawem hebio y seithfed flwyddyn, ac ddyled pob dyn.
32A ni a osodasom arnom orchymynnion ar i ni roddi traian sicl yn y flwyddyn tu ag ac waith tŷ ein Duw ni.
33A thu ag at y bara gosod a’r offrwm oestadol, a thu ag ac y poeth offrwm oestadol, y Sabbothau, y newydd loerau, tu ag ac y gŵyliau arbennic, a thu ag ac y cyssegredic bethau, a thu ag ac y pech-ebyrth i wneuthur iawn tros Israel: holl waith tŷ ein Duw.
34Ac ni a fwriasom goel-brennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl am goed yr offrwm, fel y dygent i dŷ ein Duw ni dros dylwyth ein tadau ni, ar amserau nodedic o flwyddyn i flwyddyn: iw llosci ar allor yr Arglwydd ein Duw, fel y mae’n scrifennedic yn y gyfraith.
35Ac i ddwyn blaen-ffrwyth ein gwlad ni, a blaen-ffrwyth o bob ffrwyth, o bob prenn o flwyddyn i flwyddyn i dŷ’r Arglwydd.
36A’r rhai cyntaf-anedic o’n meibion ni, ac o’n hanifeiliaid fel y mae yn scrifennedic yn y gyfraith: a chyntaf-anedigion ein gwartheg, a’n defaid iw dwyn i dŷ ein Duw ni ac yr offeiriaid, y rhai ydynt yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni.
37A blaenion ein toes ni, a’n hoffrwm derchafel, a ffrwyth bob prenn, gŵin, ac olew a ddygem ac yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw ni, a degwm ein tir i’r Lefiaid: fel y caffe y Lefiaid hwythau ddegwm drwy holl ddinasoedd ein gorchwyliaeth ni.
38A bydded yr offeiriad mab Aaron gyd a’r Leifiaid pan fyddo y Lefiaid yn degymmu: a dyged y Lefiaid i fynu ddecfed rann y degwm i dŷ ein Duw ni, i’r celloedd yn y tressor-dŷ.
39Canys meibion Israel, a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwîn, a’r olew i’r stafelloedd, ac yno llestri y cyssegr, a’r offeiriaid y rhai ydynt yn gweini, y porthorion hefyd, a’r cantorion: ac nac ymadawn a thŷ ein Duw ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.