Numeri 25 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXV.Israel yn godinebu gyd a merched Moab. 7 Phinees yn lladd Cosbi a Zamri 17 Duw yn gorchymyn lladd y Madianiaid.

1A Thrigodd Israel Num.33.49.yn Sittim, a dechreuodd y bobl odinebu gyd a merched Moab.

2A galwasant ar y bobl i aberthau eu duwiau hwynt, a bwyttaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt.

3Ac ymgefeillodd Israel a Baal Peor, yna yr enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel.

4A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses Deut.4.3. Iosua.22.17.cymmer holl bennaethiaid y bobl, a chroga hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul, fel y dychwelo llîd digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.

5A dywedodd Moses wrth farn-wyr Israel, lleddwch bob vn ei ddynion y rhai a ymgyfeillasant a Baal Peor.

6Ac wele ŵr o feibion Israel a ddaeth ac a ddygodd Madianites at ei frodyr, yng-olwg Moses, ac yng-olwg holl gynnulleidfa meibion Israel: a hwynt yn ŵylo ddrws pabell y cyfarfod.

7A gwelodd Psal.106.30. 1.Mac.2.54. Eccles. 45.23.Phinees mab Eleazar, mab Aaron yr offeiriad, ac a gododd o ganol y gynnulleidfa, ac a gymmerodd waiw-ffon yn ei law.

8Ac a aeth ar ol y gŵr Israel i’r lluest ac ai gwanodd hwynt ill dau, sef y gŵr o Israel a’r wraig trwy ei cheudod: ac a attalwyd y pla oddi wrth feibion Israel.

9A bu feirw o’r blâ bedair mil a’r hugain.

10Yna y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:

11Phinees mab Eleazar, mab Aaron, yr offeiriad, o drôdd fy nigter oddi wrth feibion Israel, pan eiddigeddodd efe drosofi yn eu mysc fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd.

12Am hynny dywet, wele fi yn rhoddi iddo fyng-hyfammod o heddwch.

13A bydd iddo ef, ac iw hâd ar ei ôl ef ammod o offeiriadaeth dragywyddol, am iddo eiddigeddu tros ei Dduw, a gwneuthur iawn tros feibion Israel.

14A henw y gŵr o Israel yr hwn a laddwyd yr hwn a laddwyd gyd a’r Fadianites Zimri mab Salu pennaeth ty[ei]dâd o Simeon.

15A henw y wraig o Madian a laddwyd Cozbi merch Zur: pen cenhedlaeth ym Madian oedd hwn.

16A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.

17 Num.31.2. Blîna y Madianiaid, a lleddwch hwynt.

18Canys blîn ydynt arnoch trwy eu dichellion, y rhai a ddychymmygasant i’ch erbyn yn achos Peor, ac yn achos Cozbi merch tywysog Madian eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y blâ, o achos Peor.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help