Deuteronomium 33 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIII.Moses yn bendithio y bobl cyn ei farw. 26 Ac yn dangos rhagoriaeth Duw a rhagoriaeth ei bobl ef.

1Ac dymma y fendith’r hon y bendithiodd Moses (gŵr Duw) feibion Israel o flaen ei farwolaeth.

2Ac efe a ddywedodd, yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt, ymlewyrchodd o fynydd Pharan: ac efe a ddaeth gyda myrddiwn o sainct thanllyd gyfraith oi ddeheulaw iddynt.

3Caru y mae efe y bobl, ei holl sainctyn dy law: a hwynt a ymlynasant wrth dy draed, a gymmerasant o’th eiriau.

4Moses a orchymynnodd gyfraith i ni yn etifeddiaeth cynnulleidfa Iacob.

5Ac efe oedd brenin yn Israel, pan ymgasclodd pennau y bobl yng-hyd llwythau Israel.

6Bydded fyw Ruben, ac na fydded farw, a bydded ei ddynion rifedi.

7[Bydded] hyn hefyd i Iuda, a dywedodd clyw ô Arglwydd lais Iuda, ac at ei bobl dŵg ef, digon yw iddo ei ddwylo ei hun, os byddi yn gymmorth rhac ei elynion.

8Ac am Lefi y dywedodd, dy Thummim, a’th Urim i’th ŵr trugarog yr hwn a brofaist ym Massa, a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd y gynnen,

9Yr hwn a ddywedodd am ei dâd, ac am ei fam (ni welais ef) ai frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei feibion ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynhaliasant dy gyfammod.

10Dyscant dy farnedigaethau i Iacob, a’th gyfraith i Israel: gosodant arogldarth yn dy ffroen, a llosc-aberth ar dy allor.

11Bendithia ô Arglwydd ei olud ef, a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef: archolla lwynau a godant iw erbyn, ai gaseion fel na chodant.

12Am Beniamin y dywedodd efe, annwylyd yr Arglwydd a drig mewn diogelwch gyd ag ef, yr hwn fydd yn cyscodi trosto yr holl ddydd ac yn aros rhwng ei escwyddau ef.

13Ac am Ioseph y dywedodd efe, ei dîr ef sydd wedi ei fendigo o’r Arglwydd a hyfrydwch y nefoedd, a gwlith, ac a dyfnder yn gorwedd isod.

14Hefyd a hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac a hyfrydwch addfed-ffrwyth y lleuadau.

15Ac a penn mynyddoedd y dwyrain, ac a hyfrydwch brynnau tragywyddoldeb.

16Ac a hyfrydwch y ddaiar, ac ai chyflawnder, a bodd presswylydd y berth a ddelo ar benn Ioseph, Gene.29.46(sic.)ac ar goryn yr hwn a nailltuwyd oddi wrth ei frodyr.

17Cyntafanedic ei ŷch ef brydferthwch iddo, ai gyrn ef gyrn vnicorn, a hwynt y cornia efe y bobl ynghyd eithafoedd y ddaiar: ac dymma fyrddiwn Ephraim, îe dymma filoedd Manasses.

18Ac am Zabulon y dywedodd efe, ymlawenycha Zabulon yn dy fynediad allan, a Issachar yn dy bebyll.

19Galwant bobloedd i’r mynydd, yna’r aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedic dryssorau y tywod.

20Ac am Gad y dywedodd efe, bendigedic yw ehangudd Gad, megis llew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr yscwyddoc a’r penn.

21Edrychodd am dano ei hun yn y dechreuad canys yno ran y cyfraith-wr yn guddiedic, efe a ddaeth a phennaethiaid y bobl, gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd, ai farnesig aethau gyd ag Israel.

22Am Dan hefyd y dywedodd efe, Dan yn genew llew a neidia o Basan.

23Ac am Nephthali y dywedodd efe, ô Nephthali llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr Arglwydd: gorescyn di y gorllewyn a’r dehau.

24Ac am Aser y dywedodd efe, bendigedig o feibion Aser: bydd efe gymmeradwy ei frodyr, ac efe a wlych ei droed mewn olew.

25Haiarn a phrês dan dy escid ti: a megis dy ddyddiau dy nerth.

26Nid megis Duw Israel yr hwn sydd yn marchogeth y nefoedd, yn gymmorth it: a’r wybrennau yn ei fawredd.

27[Dy] noddfa Duw tragywyddol, a thann freichiau tragwyddol efe a wthia dy elyn o’th flaen, ac a ddywed difetha

28Israel hefyd a drîg ei hun yn ddiogel, ffynnon Iacob mewn tîr ŷd, a gwîn: ei nefoedd hefyd a ddiferant wlith.

29Gwynfydedic wyt ti o Israel pwy megis ti? ô bobl gadwedic gan yr Arglwydd tarian dy gynhorthwy, yr hwn hefyd cleddyf dy ardderchawgrwydd: a’th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri a’r eu huchel-leoedd hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help