1.Samuel 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Saul yn erbyn gorchymyn yr Arglwydd yn arbed Agag a’r anifeiliaid teccaf o’r eiddo yr Amaleciaid. 19 A Samuel yn ei geryddu ef am hynny.

1Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Pen.9.16.yr Arglwydd a’m hanfonodd i i’th eneinio di yn frenin ar ei bobl, ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr Arglwydd.

2Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd, côfiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe iw erbyn ar y ffordd, Exod.17.14. num.24.20.pan ddaeth efe i fynu o’r Aipht.

3Dôs yn awr a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll ganddo, ac nac eiriach ef: ond lladd yn ŵr, ac yn wraig, yn ddyn-bach, ac yn bleutyn sugno, yn ŷch, ac yn oen, yn gâmel ac yn assyn.

4Yna Saul a gynhullodd y bobl, ac ai cyfrifodd hwynt yn Telaim yn ddau cant mil o wŷr traed, ac yn ddeng-mil o wŷr Iuda.

5A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn yr afon.

6Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, cerddwch, ciliwch, ewch i wared o fysc yr Amaleciaid, rhac i mi eich destruwio chwi gyd a hwynt, o herwydd ti a wnaethost drugaredd a holl feibion Israel, pan ddaethannt i fynu o’r Aipht: a’r Ceneiaid a ymadawsant o fysc yr Amaleciaid.

7Felly Saul a darawodd yr Amaleciaid o Hafila y delech dil Sur, yr hon ar gyfer yr Aipht.

8Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw: ac efe a laddodd yr holl bobl a mîn y cleddyf.

9Ond Saul a’r bobl a arbedasant Agag, a’r defaid goref, a’r ychen, a’r breision, a’r ŵyn, a’r hyn oll a ddâ, ac ni fynnent eu destruwio hwynt: a phôb peth gwâel, a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy.

10Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Samuel gan ddywedyd:

11Edifar yw gennif osod Saul yn frenin, canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fyng-eiriau i: yna y cyffrôdd Samuel, ac a lefodd ar yr Arglwydd ar hyd y nôs.

12Yna y cyfododd Samuel yn foreu i gyfarfod Saul: a mynegwyd i Samuel gan ddywedydd, daeth Saul i Garmel, ac wele, efe a osododd iddo lê, efe a amgylchodd hefyd, ac a drammwyodd, ac a aeth i wared i Gilgal.

13A Samuel a ddaeth at Saul, a Saul a ddywedodd wrtho ef, bendigedic di i’r Arglwydd, mi a gyflawnais air yr Arglwydd.

14Yna y ddywedodd Samuel, beth yntef brefiad y defaid hyn yn fyng-hlustiau, i? a beichiad y gwarthec, yr hwn yr ydwyfi yn ei glywed?

15A Saul a ddywedodd, oddi ar yr Amaleciaid y dugasant hwy, canys y bobl a arbedodd y defaid goref, a’r ychen i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw: a’r rhan arall a ddifrodasom ni.

16Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, bydd fodlon, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr Arglwydd wrthifi neithwyr: yntef a ddywedodd wrtho ef llefara.

17A Samuel a ddywedodd, ond pan ti yn fychan yn dy olwg dy hun ti yn benn deuluoedd Israel? ac yr eneiniodd yr Arglwydd di yn frenin ar Israel?

18Ac yr anfonodd yr Arglwydd di i daith, ac y dywedodd wrthit, dos a difroda y pechaduriaid hynny, sef yr Amaleciaid, ac ymladd iw herbyn nes it eu difa hwynt?

19Pa ham gan hynny na wrandewaist ar lais yr Arglwydd? eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng-olwg yr Arglwydd?

20A Saul a ddywedodd wrth Samuel, yn wîr mi a wrandêwais ar lais yr Arglwydd, ac a rodiais yn y ffordd yr hon i’m anfonodd yr Arglwydd a dugum Agag brenin Amalec, ac mi a ddifrodais yr Amaleciaid.

21Ond y bobl a gymmerth o’r yspail, y defaid, a’r gwarthec blaenion y ddifrodaeth i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw yn Gilgal.

22A Samuel a ddywedodd: a ewyllys yr Arglwydd ar boeth offrymmau, ne ebyrth, megis ar wrando ei air ef: wele Ecclesi.4.17.|ECC 4:17. ose.6.7.|HOS 6:7. math.9.19.gwrando sydd well nac aberth, ac vfyddhau na brasder hyrddod.

23Canys anufydd-dod pechod dewiniaeth, a throseddiad anwiredd, a delw-addoliaeth: o herwydd it fwrw ymmaith gair yr Arglwydd, y bwrriodd efe dithe o yn frenin.

24Yna y dywedodd Saul wrth Samuel, pechais, canys troseddais air yr Arglwydd a’th eiriau dithe: o herwydd i’m ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt.

25Ond yn awr cymmer ymmaith attolwg fy mhechod, a dychwel gyd a mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd.

26A Samuel a ddywedodd wrth Saul, ni ddychwelaf gyd a thi, canys bwriaist ymmaith air yr Arglwydd, am hynny yr Arglwydd a’th fwrriodd dithe ymmaith o fod yn frenin ar Israel.

27Pan drôdd Samuel i fyned ymmaith, yntef a ymaflodd yng-hwrr ei fantell ef, a hi a rwygodd.

28Yna y dywedodd Samuel wrtho ef, yr Arglwydd a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthit ti heddyw, ac ai rhoddes i gymydog i ti gwell na thi.

29O herwydd cadernid Israel ni ddywed gelwydd, ac nid edifarhâ: canys nid dyn efe i edifarhau.

30Yna y dywedodd pechais, anrhydedda fi attolwg yn awr ger bron henuriaid fy mhobl, a cher bron Israel: a dychwel gyd a mi fel yr addolwyf yr Arglwydd dy Dduw.

31Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul, a Saul a addolodd yr Arglwydd.

32Yna y dywedodd Samuel, cyrchwch attafi Agag brenin yr Amaleciaid: ac Agag a ddaeth atto ef yn hoiw, ac Agag a ddywedodd, chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymmaith.

33A Samuel a ddywedodd, Exod.17.11. num.14.45.fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fain dithe ym mysc gwragedd: yna Samuel a ddarniodd Agag ger bron yr Arglwydd yn Gilgal.

34Felly Samuel a aeth i Ramah, a Saul a aeth i fynu iw dŷ yn Gibea Saul.

35Ac nid ymwelodd Samuel mwyach a Saul hyd ddydd ei farwolaeth ef: onid Samuel a alarodd am Saul: Gen.6.6.ac edifar fu gan yr Arglwydd osod Saul yn frenin ar Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help