1Mab 2.Bren.18.1.pum mlwydd ar hugain oedd Hezecia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Abia merch Zacharia.
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yngolwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a’r a wnelse Dafydd ei dâd ef.
3Yn y flwyddyn gyntaf oi deyrnasiad ef, yn y mis cyntaf, efe a agorodd ddryssau tŷ’r Arglwydd, ac ai cyweiriodd hwynt.
4Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid, a’r Lefiaid: ac ai casclodd hwynt i hêol y dwyrain.
5Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, gwrandewch fi ô Lefiaid: ymsancteiddiwch, yn awr, a chyssegrwch dŷ Arglwydd Dduw eich tadau, a dugwch yr aflendid allan o’r cyssegr.
6Canys ein tadau ni a drosseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd ein Duw ni, ac ai gwrthodasant ef: troasant hefyd eu hwynebau oddi wrth babell yr Arglwydd, a rhoddasant gwarrau
7Caeasant hefyd ddryssau y porth, a diffoddasant y goleuadau, ac nid arogl-darthasant arogl-darth: ac ni offrymmasant boeth offrymmau yng-hyssegr Duw Israel.
8Am hynny digofaint yr Arglwydd a ddaeth yn erbyn Iuda, ac Ierusalem: ac efe ai rhoddodd hwynt yn gyffro, yn rhifeddod, ac yn watwargerdd, fel yr ydych yn gweled a’ch llygaid.
9Ac wele ein tadau ni a syrthiasant drwy’r cleddyf: ein meibion hefyd, a’n merched, a’n gwragedd mewn caethiwed o herwydd hyn.
10Yn awr yn fy mryd wneuthur cyfammod ag Arglwydd Dduw Israel: fel y dychwelo ei ddigofaint llidioc ef oddi wrthym ni.
11Fy meibion na fyddwch ddifraw: canys yr Arglwydd a’ch dewisodd chwi i Num.18.6.sefyll ger ei fron ef i weini iddo ef, ac i fod yn gweini, ac yn arogl-darthu iddo ef.
12Yna y Lefiaid a gyfodasant, Mahath mab Amasai, ar Ioel mab Azariah o feibion y Cehathiaid, ac o feibion Merari, Chis mab Abdi, ac Azariah mab Iehalelel: ac o’r Gersoniaid, Ioah mab Zimmah, ac Eden mab Ioah.
13Ac o feibion Elisaphan, Simri, ac Iehiel: ac o feibion Asaph, Zacariah, a Mathania.
14Ac o feibion Heman, Iehiel a Simei: ac o feibion Ieduthun, Semaiah ac Uzziel.
15Felly hwynt a gynnullasant eu brodyr, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddaethant yn ôl gorchymyn y brenin drwy eiriau’r Arglwydd: i lanhau tŷ’r Arglwydd.
16A’r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ’r Arglwydd iw lanhau, ac a ddugasant allan yr holl frynti a’r a gawsant yn nheml yr Arglwydd i gyntedd tŷ’r Arglwydd: a’r Lefiaid ai cymmerasant iw dwyn ymmaith allan i afon Cedron.
17Ac yn y cyntaf o’r mîs cyntaf y dechreuasant gyssegru ac ar yr wythfed dydd o’r mîs y daethant i borth yr Arglwydd, ac mewn ŵyth niwrnod y cyssegrasant dŷ’r Arglwydd: ac yn yr vnfed dydd ar bymthec o’r mîs cyntaf y gorphennasant.
18Yna y daethant hwy i mewn at Hezecia y brenin, ac a ddywedasant, glanhausom holl dŷ’r Arglwydd: ac allor y poeth offrwm ai holl lestri a bwrdd y gosod, ai holl lestri.
19A’r holl lestri y rhai a fwriase y brenin Ahaz ymmaith (pan oedd efe yn teyrnasu yn ei gamwedd) a baratoasom, ac a gyssegrasom ni: ac wele hwynt ger bron allor yr Arglwydd.
20Yna Hezecia y brenin a gododd yn foreu, ac a gasclodd dywysogion y ddinas: ac a aeth i fynu i dŷ yr Arglwydd.
21Dugasant hefyd saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr Lefit.4.14.ym bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cyssegr, a thros Iuda: ac efe a ddywedodd wrth feibion Aaron yr offeiriaid am boeth offrymmu ar allor yr Arglwydd.
22Felly hwynt a laddasant y bustych, a’r offeiriaid a gymmerasant y gwaed, ac ai taeneliasant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod Exod.24.8. Hebre.9.11.a thaenellasant y gwaed ar yr allor, a hwynt a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor.
23Yna hwynt a ddugasant fychod y pechaberth o flaen y brenin a’r gynnulleidfa: ac a osodasant eu dwylo arnynt hwy.
24A’r offeiriaid ai lladdasant hwy, ac a lanhausant yr allor ai gwaed hwynt, i wneuthur iawn dros holl Israel: canys tros holl Israel yr archase y brenin[roddi] poeth offrwm, a phech-aberth.
25Ac efe a gyfleuodd y Lefiaid yn nhŷ’r Arglwydd a symbalau, ac a nablau, ac a thelynau 1.Cron.16.4.yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gwelududd y brenin, a Nathan y prophwyd: canys y gorchymyn drwy law’r Arglwydd, thrwy law ei brophwydi ef.
26A’r Lefiaid a safasant ag offer Dafydd, a’r offeiriaid ag vdcyrn.
27Ac Hezecia a ddywedodd am offrymmu poeth offrwm ar yr allor: a’r amser y dechreuodd y poeth offrwm, y dechreuodd cân yr Arglwydd, a’r vdcyrn, gyd ag offer Dafydd brenin Israel.
28A’r holl gynnulleidfa oeddynt yn addoli, ac yn canu cân, a’r vdcyrn yn lleisio: hyn oll nes gorphen y poeth offrwm.
29A phan orphennasant hwy boeth offrymmu: y brenin a’r holl rai a gafwyd gyd ag ef a ymgrymmasant, ac a addolasant.
30Yna Hezecia y brenin a’r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr Arglwydd drwy eiriau Dafydd, ac Asaph y gweledudd: felly hwynt a foliannasant a llawenydd, ac a ostyngasant, ac a addolasant.
31Ac Hezecia a attebodd, ac a ddywedodd, yn awr yr ymgyssegrasoch chwi i’r Arglwydd, nessewch, a dygwch ebyrth, a moliant i dŷ’r Arglwydd: a’r gynnulleidfa a ddugasant ebyrth, a moliant, a phob ewyllyscar o galon boeth offrymmau.
32A rhifedi y poeth offrwm yr hwn a ddug y gynnulleidfa oedd ddêc a thrugain o fustych, cant o hyrddod, dau cant o ŵyn: y rhai hyn oll yn boeth offrwm i’r Arglwydd.
33Ac i’r cyssegriadau chwe chant o fustych, a thair mil o ddefaid.
34Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid fel na allent flingo’r holl boeth offrymmau: am hynny eu brodyr hwynt y Lefiaid ai cynnorthwyasant hwy nes gorphen y gwaith, ac nes i’r offeiriaid ymgyssegru, canys y Lefiaid iniawnach o galon i ymgyssegru na’r offeiriaid.
35Y poeth offrwm hefyd yn aml gyd Lefit.3.2.a braster yr hedd offrwm, a diod offrwm y poeth offrwm: felly y darparwyd gwasanaeth tŷ’r Arglwydd.
36Yna Hezecia a lawenychodd a’r holl bobl, o herwydd paratoi o Dduw y bobl: o blegit yn ddisymmwth y bu y peth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.