Iosuah 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Rhai o frenhinoedd Canaan yn ymgasclu yn erbyn Iosuah. 3 y cyfammod a wnaeth Iosuah a’r Gibeoniaid. 21 A’r gwasanaeth a osodwyd arnynt hwy.

1Wedi clywed o’r holl frenhinoedd y rhai o’r tu hwnt i’r Iorddonen yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac ym mhob porthladd i’r môr mawr ar gyfer Libanus: yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Iebusiaid,

2Yna hwynt a ymgasclasant yng-hyd i ymladd yn eerbyn Iosuah, ac yn erbyn Israel o vn-frŷd.

3A 2.Sam.21.1.thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethe Iosuah i Iericho, ac i Ai.

4Hwyntau gan hynny a wnaethant yn gyfrwys, canys hwy a aethant, ac a ymddangosasant fel cennadon: cymmerasant hefyd hên sach-lennau ar eu hassynnod, a hên gostrelau gwîn wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo.

5A hên escidiau maglog am eu traed, a hên wiscoedd am danynt: a holl fara eu llynniaeth hwynt sych brithl-wyd.

6Ac aethant at Iosuah i’r gwerssyll i Gilgal: a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel: o wlad bell y daethom, ac yn awr gwnewch gyfammod a ni.

7Yna gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Pen.11.19.Hefiaid: nid hwyrach dy fod yn ein mysc yn trigo, pa fodd gan hynny y gwnafi gyfammod a thi?

8A hwynt a ddywedasant wrth Iosuah, dy weision di ydym ni: ac Iosuah a ddywedodd wrthynt, pwy ydych? ac o ba le y daethoch?

9Yna y dywedasant wrtho ef, dy weision a ddaethant o wlâd bell iawn at enw yr Arglwydd dy Dduw: canys ni a glŷwsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aipht.

10A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid y rhai o’r tu hwnt i’r Iorddonen: i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan yr hwn yn Astaroth.

11Am hynny ein henafiaid ni a holl bresswylwŷr ein gwlâd ni a lefarasant wrthym ni gan ddywedyd, cymmerwch lynniaeth gyd a chwi i’r daith, ac ewch iw cyfarfod hwynt, a dywedwch wrthynt, eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfammod a ni.

12Dymma ein bara ni, yn boeth y cymmerasom ef yn lynniaeth o’n tai ni y dydd y cychwynasom ddyfod attoch: ac yn awr wele sych, a thryfrith yw.

13Dymma hefyd y costrelau gwîn y rhai a lenwasom yn newyddion, ac wele hwynt wedi hollti: ein gwiscoedd hyn hefyd, a’n hescidiau a heneiddiasant rhac meithed y daith.

14A’r gwŷr a gymmerasant oi hymborth hwynt: ac nid ymgynghorasant a genau’r Arglwydd.

15Felly Iosuah a wnaeth heddwch a hwynt, ac a wnaeth gyfammod a hwynt ar ei cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynnulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt.

16Ond ym mhen y tri-diau wedi iddynt wneuthur cyfammod a hwynt: yna y clywsant mai cymmydogion iddynt hwy, ac yn eu mysc yr oeddynt yn aros.

17A meibion Israel a gychwnnasant, ac a ddaethant iw dinasoedd hwynt y trydydd dydd: ai dinasoedd hwynt Gibeon, a Chaphira, Beroth hefyd, a Chiriath Iearim.

18Ond ni tharawodd meibion Israel monynt hwy, o blegit tywysogion cynnulleidfa Arglwydd Dduw Israel a dyngasent wrthynt: am hynny yr holl gynnulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.

19Yna yr holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynnulleidfa, ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny nid allwn yn awr gyffwrdd a hwynt.

20Hyn a wnawn ni iddynt hwy fel y cadwom hwynt yn fyw: ac na byddo digofaint arnom ni o herwydd y llw’r hwn a dyngasom wrthynt.

21A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt byddant fyw: a byddant yn torri cynnyd, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynnulleidfa, fel yr archase y tywysogion iddynt.

22Yna Iosuah a alwodd arnynt, ac a lefarodd wrthynt gan ddywedyd: pa ham y twyllasoch ni gan ddywedyd? pell iawn ni oddi wrthych, a chwithau yn presswylio yn ein mysc ni.

23Yn awr gan hynny melldigedic ydych: ac ni phalla o honoch chwi yn weision, ac yn torri cynnyd ac yn tynnu dwfr i dy fy Nuw.

24A hwynt a attebasant Iosuah, ac a ddywedasant, yn ddiau gan fynegu y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn Deut.7.1.i Moses ei wâs roddi i chwi’r holl wlâd hon, a difetha holl drigolion y wlâd o’ch blaen chwi: am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein henioes, ac y gwnaethom y peth hyn.

25Ac yn awr wele ni yn dy law di: fel yn dda, ac yn inion yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.

26Ac felly y gwnaeth efe iddynt: ac efe ai gwaredodd hwynt o law meibion Israel fel na laddasant hwynt.

27Ac Iosuah ai rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymmyn-wŷr coed, ac yn wahenwyr dwfr i’r gynnulleidfa: ac i allor yr Arglwydd hyd y dydd hwn yn y lle’r hwn a ddewisase efe.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help