1Gras-lawn wyt ô Arglwydd i’th dir, dychwelaist gaethiwed Iacob.
2Maddeuaist anwiredd dy bobl: a chuddiaist eu holl bechod.Selah.
3Tynnaist ymmaith dy holl lid, troaist oddi wrth lidiawgrwydd dy ddigter.
4Troa ni ô Dduw, ein iechydwriaeth: a thorr dy ddigofaint wrthym.
5Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy sorriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
6Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?
7Dangos i ni Arglwydd dy drugaredd: a dod ti i ni dy iechydwriaeth.
8Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw canys efe a draetha heddwch iw bobl, ac iw sainct, fel na throant i ynfydrwydd.
9Diau ei iechid ef yn agos i’r rhai ai hofnant ef: fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.
10Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfûant: cyfiawnder a heddwch a ymgusanâsant.
11Gwirionedd a dardda o’r ddaiar, a chyfiawnder a edrych o’r nefoedd.
12Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni a’n daiar a rydd ei chnŵd.
13Cyfiawnder a aiff oi flaen ef: ac efe a esid ei draed ar y ffordd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
