Osea 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Denu y bobl i edifeirwch y mae efe, 5 Gan ddangos eu gau-dduwiaeth hwynt, ai cospedigaeth.

1Dywedwch wrth eich brodyr, ô fy mhobl: wrth eich chwiorydd, ô yr hon y trugarhawyd wrthi.

2Ymddadleuwch a’ch mam, îe ymddadleuwch, nad fyng-wraig yw hi, ac nad ei gŵr hi finne: fel y bwrio hi ymmaith ei phuteindra oi golwg, ai godineb Ezec.16.25.oddi rhwng ei bronnau:

3Rhag i mi ei diosc hi yn noeth-lymmum, Ezec.16.4.ai gosod fel y dydd y ganed hi, ai rhoi fel anialwch, ai gosod fel tir diffaeth, ai lladd â syched.

4Ac ar ei phlant ni chymmeraf drugaredd: am eu bod yn blant godineb.

5Canys eu mam hwynt a butteiniodd, a gwradwyddwyd yr hon ai hymddug hwynt: canys dywedodd hi, âf ar ôl fyng-hariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mâra, a’m dwfr, fyng-wlân, a’m llîn, fy olew, a’m diodydd.

6Am hynny wele, mi a gaeaf i fynu dy ffordd di â drain, ac a furiaf fûr, fel na chaffo hi ei llwybrau.

7Yna hi a ddilyn ei chariadau, ac ni’s goddiwes hwynt, ac hi ai cais hwynt, ac ni’s caiff: ac hi a ddywed, âf, a dychwelaf at fyng-ŵr cyntaf, gwell oedd arnafi yna, nag yr awr hon.

8Ni ŵydde hi mai myfi a roddais iddi’r ŷd, a’r gwîn, a’r olew, ac a amlheais iddi arian, ac aûr, a weithiasant hwy i Baal.

9Am hynny dychwelaf, a chymmeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwîn yn ei dymmor: a thynnaf fyng-wlân, a’m llîn o guddio ei gwarth hi,

10Ac mi a ddatcuddiaf bellach ei brynti hi, yng-olwg ei chariadau, ac ni’s gwared neb hi o’m llaw.

11Gwnaf hefyd iw holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newydd-leuadau, ai Sabbothau, ai holl vchel-wyliau beidio.

12A mi a anrheithiaf ei gwin-wŷdd hi, ai ffigus-wŷdd, am y rhai y dywedodd, dymma fyng-obrwyon, y rhai a roddodd fyng-hariadau i mi: ac mi ai gosodaf yn goedwic, a bwyst-filod y maes ai difa hwynt.

13Ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim y rhai y lloscodd hi arogl-darth iddynt, ac y gwiscodd ei chlust-fodrwyau, ai thlyssau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr Arglwydd.

14Am hynny wele, mi ai denaf hi, ac ai dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon.

15Ac mi a roddaf iddi ei gwin-llannoedd o’r fan honno, a dyffryn Iosua.7.26.Achor yn ddrws gobaith: yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuengtid, ac megis y dydd y daeth hi i fynu o wlâd yr Aipht.

16Y dydd hwnnw medd yr Arglwydd, i’m gelwi fyng-ŵr, ac ni’m gelwi mwyach Baali.

17Bwriaf henwau Baalim allan oi genau hi: ni’s coffeir mwyach wrth eu henwau.

18A’r dydd hwnnw y gwnaf ammod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ag ymlusciaid y ddaiar: a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel a dorraf o’r wlâd: a gwnaf iddynt gyscu yn ddiogel.

19A mi a’th ddyweddiaf â mi fy hun yn dragywydd, ie dyweddiaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, mewn tirionder, ac mewn trugaredd.

20A dyweddiaf di â mi mewn ffyddlondeb, a rhaid it adnabod yr Arglwydd.

21A’r dydd hwnnw y gwrandawaf medd yr Arglwydd, ar y nefoedd y gwrandawaf, a hwythau a wrandawant ar y ddaiar.

22A’r ddaiar a wrendu ar yr ŷd, a’r gwîn, a’r olew: a hwythau a wrandawant ar Iezrahel.

23A mi ai hauaf hi i’m fy hun yn y tîr, ac a drugarhâf wrth yr hon ni chawse drugaredd, ac a ddywedaf wrth yr hwn nid oedd bobl i’m, Rhuf.9.25. 1.pet.2.10.fy mhobl maufi wyt ti, ac yntef a ddywed, ô fy-Nuw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help