Daniel 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Nabuchodonosor yn gwneuthur delw fawr, ac yn peri ei haddoli. 8 Sidrach, Misach, ac Abednego am nad addolent y ddelw a fwriwyd i’r ffwrn danllyd. 23 Duw yn eu gwaredu hwynt oddi yno.

1Nabuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur, ei huchter yn drivgain cufudd, ei llêd yn chwe chufydd, efe ai gosododd hi yng-wastadedd Dura o fewn talaith Babilon.

2Yna Nabuchodonosor y brenin a anfonodd i gasclu y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, y rhaglawiaid, y tryssor-wŷr, y cyfreith-wŷr, y treth-wŷr, a holl lywodraeth-wŷr y talaithiau, i ddyfod wrth gyssegru y ddelw yr hon a gyfodase Nabuchodonosor y brenin.

3Yna y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, rhaglawiaid, y trysor-wŷr, y cyfreith-wŷr, y treth-wŷr, a holl lywodraeth-wŷr y talaithiau a ymgasclasant wrth gyssegru y ddelw a gyfodase Nabuchodonosor y brenin: ac a safasant o flaen y ddelw yr hon a gyfodase Nabuchodonosor.

4A chyhoedd-wr a lefodd yn grôch, wrthych chwi bobloedd, genhedloedd, ac ieithoedd y dywedir:

5Pan glywoch sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulcimer, y saltringau, y symphon, a phob rhyw gerdd, y syrthiwch, ac y gostyngwch i’r ddelw aur, yr hon a gyfododd Nabuchodonosor y brenin.

6A’r hwn ni syrthio, ac ni chrymmo iddi yr awr honno, a fwrir i ganol ffwrn o dân poeth.

7Am hynny’r amser hwnnw pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulcimer, y saltringau, a phob rhyw gerdd, y bobloedd, y cenhedloedd a’r ieithoedd oll a syrthiasant gan ymgrymmu i’r ddelw aur yr hon a gyfodase Nabuchodonosor y brenin.

8O ran hynny gwŷr Caldea a gyhuddâsant gyhuddiad yr Iddewon.

9Adroddasant a dywedasant wrth Nabuchodonosor y brenin, bydd fyw, frenin, yn dragywydd.

10Ti frenin a osodaist orchymyn, ar i byw bynnac a glywe sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulcimer, y saltringau, a’r symphon, a phob rhyw gerdd, syrthio ac ymgrymmu i’r ddelw aur.

11A phwy bynnac ni syrthie, ac ymgrymme, y teflyd ef i ganol ffwrn o dân poeth.

12Y mae gwŷr o Iddewon y rhai y gosodaist hwynt ar orchwyliaeth talaith Babilon, Sydrach, Misach, ac Abednego: y gwŷr hyn ô frenin ni wnaethant gyfrif o honot ti, dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymmant i’r ddelw aur a gyfodaist.

13Yna Nabuchodonosor mewn llidiawgrwydd a digter a ddywedodd am gyrchu Sydrach, Misach, ac Abednego: yna y cyrchwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin.

14Adroddodd Nabuchodonosor a dywedodd wrthynt, ai gwir Sydrach, Misach, ac Abednego, na addolwch chwi fy nuwiau mau fi, ac nac ymgrymmwch i’r ddelw aur yr hon a berais ei chyfodi?

15Yr awr hon wele byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulcimer, y saltringau, a’r symphon, a phob rhyw gerdd, i syrthio ac i ymgrymmu i’r ddelw’r hon a wneuthum: ac onid ymgrymmwch, yr awr hōno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth, a pha Dduw efe yr hwn a’ch gwared chwi o’m dwylo mau fi?

16Sydrach, Misach, ac Abednego a attebasant, ac a ddywedasant wrth y brenin: Nabuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am atteb it am y peth hyn:

17Wele y mae ein Duw ni yr hwn yr ydym ni yn ei addoli yn gallu ein gwared ni allan o’r ffwrn danllyd boeth: ac efe a’n gwared o’th law di ô frenin.

18Ac onid-ê, bydded hyspys it frenin na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymmwn i’th ddelw aur, yr hon a gyfodaist.

19Yna y llannwyd Nabuchodonosor o llidiawgrwydd, a gwedd ei wyneb ef a newidiodd ar Sydrach, Misach, ac Abednego: llefarodd a dywedodd am dwymno’r ffwrn seithwaith mwy nag y gwelsid ei thwymno hi.

20Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol y rhai yn ei lu ef, am rwymo Sydrach, Misach, ac Abednego, iw bwrw i’r ffwrn o dân poeth.

21Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llawdrau, ai cwccyllau, ai gwiscoedd ac ai bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth.

22O achos gorchymyn y brenin yn gaeth, a’r ffwrn yn boeth ragorawl, fflamm y tân a laddodd y gwŷr hynny y rhai a fwriasant i fynu Sydrach, Misach, ac Abednego.

23A’r try-wŷr hynny Sydrach, Misach, ac Abednego, a syrthiasant yng-hanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym.

24Yna y rhyfeddodd Nabuchodonosor, ac y cyfododd ar frŷs, attebodd a dywedodd wrth ei gyng-horiaid, onid try-wŷr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym? attebasant a dywedasant wrth y brenin, ie yn wîr ô frenin.

25Attebodd a dywedodd yntef, wele fi yn gweled pedwar-gwŷr rhyddion yn rhodio yng-hanol y tân, ac nid oes niwed arnynt, a dull y pedwerydd sydd debyg i fab Duw.

26Yna y daeth Nabuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd ô Sydrach, Misach, ac Abednego, ei wasanaeth-wŷr ef y Duw goruchaf euwch allan, a deuwch yna Sydrach, Misach, ac Abednego a ddaethant allan o gânol y tân.

27A’r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasclasant i weled y gwŷr hyn, na finiase y tân ar eu cyrph hwynt, ac na loscase gwallt eu penn hwy: ni newidiase eu peisiau ychwaith, ac nid aethe sawyr tân arnynt.

28Attebodd Nabuchodonosor, ac a ddywedodd, bendigedic yw Duw Sydrach, Misach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei Angel ac a waredodd ei weision y rhai a ymddiriedasant ynddo ef, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrph rhag gwasanaethu, nac ymgrymmu o honynt i vn duw ond iw Duw eu hun.

29Am hynny y gosodir gorchymyn oddi wrthifi, mai pob pobl, cenhedlaeth, ac iaith, yr hon a ddywedo gabledd am eu Duw hwynt (sef Sidrach, Misach, ac Abednego) a wneir yn ddrylliau, ai dŷ ef a osodir yn dommen: o herwydd nad oes Duw arall yr hwn a ddichon ymwared fel hyn.

30Yna y mawrhaodd y brenin Sydrach, Misach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help