Ecclesiasticus 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Am elusen. 12 A doethineb. 24 Am ba beth y dyle dyn gywilyddio.

1Fy mab Deut.15.7.na thwylla y tlawd am ei fywyd: ac na wna i lygaid y tlawd hir ddisgwil.

2Na thristâ enaid newynog, ac na wna i ŵr yn ei eisieu hir ddisgwil.

3Na chyffroa galon ddigllon, ac na wna i’r anghenog hir ddisgwil am ei rodd.

4Na fwrw ymmaith ymhiliwr gorthrym­medig, ac Tob.4.7.na chrô dy wyneb oddi wrth y tlawd.

5Na thrô dy lygad oddi wrth yr anghenus: ac na ddod ti le i ddyn i’th felldithio di.

6Pan felldithio vn dy di yn chwerwedd ei enaid, yr hwn ai gwnaeth ef a wrendu ei weddi ef.

7Gwna dy hun yn hawddgar i’r gynnull­eidfa, a gostwng dy ben i ŵr mawr.

8Gostwng dy glust at y tlawd yn ddidrist: ac atteb ef yn heddychol ac yn llednais.

9Gwaret yr hwn sydd yn cael cam o law yr hwn sydd yn gwneuthur cam: ac na fydd lwfr pan farnech.

10Bydd i’r ymddifad fel tâd, ac yn lle gŵr iw mam hwynt.

11A thi a gei fôd megis yn fab i’r Goruchaf, ac efe a’th gâr di yn fwy na’th fam.

12Doethineb a dderchafa ei meibion, ac a dderbyn y rhai ai cesiant.

13Yr hwn sydd yn ei charu hi sydd yn caru enioes, a’r rhai a ddisgwilant am dani hi yn foreu a lenwir â llawenydd.

14Yr hwn ai dalio hi a etifedda ogoniant, a’r Arglwydd a fendithia y lle yr êl ef.

15Y rhai ydynt yn ei gwasanaethu hi ydynt yn gwasanaethu y sanctaidd ac y mae yr Arglwydd yn caru y rhai a ydynt yn ei charu hi.

16Yr hwn sydd yn ei chlywed hi a farna genhedloedd, a’r hwn a wrandawo arni hi a bresswylia yn ddiogel.

17Os efe a greda, efe ai caiff hi yn etifeddi­aeth, ai hiliogaeth hwynt a fyddant yn y meddiant.

18Canys yn gyntaf hi a rodia gyd ag ef ar ŵyr:

19Hi a ddwg ofn ac arswyd arno ef, ac ai poena ef ai haddysc hyd oni ymddyriedo hi iw enaid ef, ac oni phrofo hi ef yn ei chyfiawnderau.

20A thrachefn hi a ddaw yn iniawn atto ef, ac ai llawenycha ef.

21Ac hi a ddadcuddia ei dirgelwch iddo ef.

22Os cyfeiliorna efe, hi ai gâd ef, ac a âd iddo ef syrthio.

23Cadw ’r amser, Rhuf.12.9. 1.Thess.5.22.ac ymgadw rhag drygioni.

24Er dy enioes na fydded cywilydd gennit

25Canys y mae cywilydd yn dwyn pechod, ac y mae cywilydd yn anrhydedd a grâs.

26Na dderbyn wyneb yn erbyn dy enaid dy hun, ac na ymwradwydda i’th ddinistr dy hun.

27Na attal air yn amser iechydwriaeth,

28Ac na chuddia dy ddoethineb er mwyn gweddeidd-dra.

29O blegit wrth ymadrodd yr adweinit doethineb, ac addysc wrth eiriau y tafod.

30Na ddywet yn erbyn y gwirionedd mewn dim, rhag dy wradwyddo trwy dy gelwydd o eisieu addysc.

31Na fydded gywilydd gennit gyfaddef dy bechodau, ac nac ymegnîa yn erbyn ffrwd yr afon.

32Na ymddyro i ddŷn ffôl, ac na dderbyn ŵyneb y galluog.

33Ymegnia gyd â ’r gwirionedd hyd farwolaeth, a’r Arglwydd Dduw a ymladd gyd â thithe.

34Na fydd chwyrn a’th dafod, a diog ac araf yn dy weithredoedd.

35Na fydd megis llew yn dy dŷ, yn curo dy weision wrth dy phansi.

36Na Act.20.35.fydded dy law yn agored i gymmeryd, ac yn gaead i roddi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help