Iob 21 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXI.Iob yn atteb Zophar ai gyfeillion gan ddangos y bydd gwyn-fyd yn fynych i’r annuwiol, ac adfyd i’r Duwiol.

1Ac Iob a attebodd, ac a ddywedodd:

2Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd: a bydd hyn lle eich cyssur

3Dioddefwch fi, a minne a lefaraf: ac wedi i mi ddywedyd, gwatwar dithe.

4A ydwyfi fyng-hŵyn wrth ddyn? ac os pa ham na bydd cyfyng ar fy yspryd?

5Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch llaw ar genau.

6Eithr pan gofiwyf yna y synna arnaf: a dychryn a ymeifl yn fyng-nhawd.

7Pa ham y mae’r annuwolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau cyfoeth?

8Eu hâd hwy safadwy oi blaen gyd â hwynt: ai hiliogaeth yn eu golwg hwynt.

9Eu tai hwynt heddwch allan o ofn: ac nid gwialen Duw arnynt hwy.

10Y mae ei darw ef yn cyfloi, ac ni chyll ei hâd: ei fuwch ef a fwrw lô yn rhwydd, ac nid erthyla hi.

11Danfonant allan eu rhai bychain fel defaid: ai bechgyn a neidiant.

12Cymmerant dympan a thelyn: a llawenychant wrth lais organ.

13Treuliant eu dyddiau mewn daioni: ac yn ebrwydd descynnant i’r bedd.

14Dywedant hefyd wrth Dduw, cilia oddi wrthym: canys ni fynnwn adnabod dy ffyrdd di.

15Pa beth’r Holl-alluog fel y gwasanaethem ef? a pha fudd i ni pan weddiom arno ef?

16Wele nid eu ffynniant hwy yn eu llaw eu hun: pell fyddo cyngor yr annuwolion oddi wrthif fi.

17Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwolion, ac y daw eu dinistr arnynt hwy? y rhanna ofidiau yn ei ddig?

18Byddant hwy fel gwellt o flaen gwynt: ac fel mân-us yr hwn a gippia y corwynt.

19Duw a guddia ei anwiredd iw feibion: efe a dâl iddo fel y gwypo.

20Ei lygaid ef a welant ei ddinistr ei hun: ac efe a ŷf o ddigofaint yr Holl-alluog.

21Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan gwttogir rhifedi ei fisoedd ef.

22A ddysc dyn ŵybodaeth i Dduw? gan ei fod yn barnu y rhai vchaf?

23Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn berffeithrwydd: ac efe ei gyd yn esmwyth, ac yn heddychol.

24Ei gelyrnau ef sy yn llawn llaeth: a mêr ei escyrn ef iraidd.

25A’r llall yn marw mewn blinder: ac ni fwytâdd mewn hyfrydwch.

26Hwynt a orweddant yng-hŷd yn y pridd: a’r pryfed a doant trostynt hwy.

27Wele mi a adwen eich meddyliau: a’r bwriadau’r ydych chwi yn eu dychymmygu ar gam yn fy erbyn.

28Canys dywedwch, pa lê tŷ y pendefig? a pha lê lluesty anueddau’r annuwolion?

29Oni ofynnasoch chwi i’r rhai oeddynt yn myned heibio rhyd y ffordd: ac oni chydnabyddwch chwi eu harwyddion hwy?

30Canys yn nydd trueni yr attelir y drygionus: yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan.

31Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei ŵydd ef? pwy a dâl iddo ef fel y gwnaeth?

32Yntef a ddygir i’r bedd, ac a erys mewn twrr

33Y mae priddellau y dyffryn yn fêlus ganddo ef, ac efe a dynn bob dŷn ar ei ôl: megis oi flaen aneirif.

34Pa fodd gan hynny y cyssurwch fi ag oferedd: canys camwedd a adawed eich atebion chwi?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help