1A Hiram brenin Tyrus a anfonodd gennadau at Ddafydd, a choed cedr, a seiri meini, 2.Sam.5.11.a seiri prennau i adailadu iddo ef dŷ.
2Am hynny y gwybu Dafydd gadarnhau o’r Arglwydd ef yn frenin ar Israel, a derchafu o honaw ef yn vchel ei frenhiniaeth ef er mwyn Israel ei bobl.
3A chymmerth Dafydd wragedd yn chwanec yn Ierusalem: cenhedlodd Dafydd hefyd feibion yn chwanec a merched.
4Ac Dymma henwau y plant y rhai oeddynt iddo ef yn Ierusalem, Samua, a Sobab, Nathana, a Salomon.
5Ibehar hefyd, ac Elisua, ac Elpalel.
6Noga hefyd, a Nephec, ac Iaphia.
7Elisama hefyd, a Beeliada, ac Eliphalet.
8Pan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, yna y Philistiaid oll a aethant i fynu i geisio Dafydd, a chlybu Dafydd, ac efe a aeth allan yn eu herbyn hwynt.
9A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymwascarasant yn nyffryn Rephaim.
10A Dafydd a ymgynghorodd a Duw gan ddywedyd: a âfi i fynu yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy law i? a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, cerdda i fynu, a mi ai rhoddaf hwynt yn dy law di.
11Felly’r aethant i fynu i Baal Perazim, a lladdodd Dafydd hwynt yno, a Dafydd a ddywedodd, Duw a rwygodd fyng-elynnion drwy fy llaw i fel rhwygo dyfroedd, am hynny y galwasant hwy enw’r lle hwnnw Baal Perazim.
12A phā adawsant hwy eu duwiau, yna y dywedodd Dafyd am eu llosci hwynt yn tân.
13Ac eilwaith y Philistiaid a ddaethant trachefn, ac a ymwascarasant yn y dyffryn.
14Yna eilwaith yr ymgynghorodd Dafydd a Duw, 2.Sam.5.23.a Duw a ddywedodd wrtho ef, na ddos i fynu ar eu hôl hwynt, amgylcha oddi wrthynt hwy, a thyret attynt hwy oddi ar gyfer y mor-wydd.
15A phan glywech drŵst cerddediad ymmrig y morwŷdd yna dos allan i ryfel canys y mae Duw yn myned o’th flaen di, i daro llu y Philistiaid.
16A gwnaeth Dafydd megis y gorchymynnase yr Arglwydd iddo ef, a hwy a darawsant lû y Philistriaid o Gibeon hyd Gazer.
17A henw Dafydd a aeth drwy’r holl diroedd, a’r Arglwydd a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
