Ecclesiasticus 39 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIX.Cynneddfau y doeth i o Godidawgrwydd gweithredoedd yr Arglwydd 24 Bod pob peth er budd a lles ir duwiol ac er afles a niwed i’r annwiol.

1Hwnnw a gais ddoethineb y rhai oll a fuant gynt, ac a dreulia ei amser yn y prophwydi.

2Efe a geidw eiriau gwŷr enwoc, ac a aiff i drofeuydd dammegion.

3Efe a gais ddirgelwch diharebion, ac a erys yn wastadol yng-haled gwestiwnau dam­megion.

4Efe a wasanaetha ym mysc pendefigion ac a ymddengys yng-ŵydd tywysogion.

5Efe a aiff i wlâd cenhedloedd dieithr, ac a fyn ŵybod pa dda a pha ddrwg sydd ym mysc dynion.

6Efe a rydd ei feddwl ar fyned yn foreu ac yr Arglwydd yr hwn ai gwnaeth ef, ac efe a weddia ger bron y Goruchaf.

7Efe a egur ei enau mewn gweddi, ac a weddia tros ei bechodau.

8Pan fynno yr Arglwydd mawr, efe a lenwir ag yspryt deall,

9Efe a draetha ei eiriau doethion, ac yn ei weddi efe a folianna yr Arglwydd.

10Efe a gyfarwydda ei gyngor, ai ŵybodaeth ef, ac a feddylia am ei ddirgelwch ef.

11Efe a ddengys athrawiaeth ei ddysceidi­aeth, ac a lawenycha yng-hyfraith cyfammod yr Arglwydd.

12Llawer a ganmolant ei synnwyr ef, ac ni’s deleir hi byth:

13[Nid] ymmedu ei goffadwriaeth ef, eithr ei enw a beru yn oes oesoedd.

14Cenhedloedd a fynegant ei ddoethineb ef, a’r Pen.44.19.gynnulleidfa a draetha ei glôd ef.

15Tra parhao, efe a âd enw gwell na mil ac pan fyddo efe marw efe a bair iddo ei hun glôd.

16Mynegaf etto yr hyn a feddyliais, o blegit yr ydwyf fi mor llawn a’r lleuad yn y llawn lloned.

17Gwrandewch arnafi chwi rai sanctaidd, blodeuwch fel rhosyn wedi ei blannu wrth afon mewn maes.

18A dygwch flodau fel gardd lili, rhoddwch arogl a chênwch fawl,

19Clôdforwch yr Arglwydd am ei holl weithredoedd, gan ganu â gwefusau ac â thelynau, a dywedwch yn eich clôdforedd,

20 Gen.1.31.|GEN 1:31. Mar.7.37. Holl weithredoedd yr Arglwydd ydynt dda odiaeth, ai holl orchymynnion ef ydynt mewn prŷd: nid rhaid dywedyd beth yw hyn: mewn prŷd y ceisir hyn holl:

21Wrth ei air ef yr oedd y dwfr fel mur, a’r llynnau dyfroedd wrth air ei enau ef.

22Yn ei orchymmyn ef y mae pob dim a ryglydda bodd, a phwy a ddichon lleihau ei iechydwriaeth ef:

23Gweithredoedd pob cnawd ydynt ger ei fron ef, ac ni ellir cuddio dim oi olwg ef.

24Y mae efe yn edrych o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, ac nid oes dim rhyfedd ger ei fron ef,

25Nid rhaid gan hynny dywedyd beth yw hyn: o blegit efe a wnaeth bob peth ir peth y mae yn rhaid wrthynt hwy.

26Ei fendith ef a orchguddia fel afon, ac a ddwfrha y ddaiar fel llif.

27Fel y try efe y dyfroedd yn dir cras-poeth: felly y caiff y cenhedloedd ei ddig ef yn etifeddiaeth.

28Ei ffyrdd ef ydynt iniawn i’r rhai sanctaidd, a thramgwydus i’r anwir.

29Pethau da a grewyd o’r dechreuad i’r rhai da, a phethau niweidwl i bechaduriaid.

30Y pethau Pen.29.33.(sic.)pennaf o anghenrheidiau bywyd dŷn yw dwfr, tân, a haiarn, a halen, a blawd gwenith, a llaeth, a mêl, a gwîn, ac olew, a dillad.

31Y rhai hyn oll ydynt dda i’r duwiol, felly y troir hwynt yn niwed i’r pechaduriaid.

32Y mae ysprydion a wnaed er dialedd, ac yn eu dig y cryfhaant hwy eu ffrewyllau: yn y diwedd bwy a dywalltant ddigter ac a oste­gant lid yr hwn ai gwnaeth hwynt.

33 Pen 40.9. Tân a môr, a newyn a marwolaeth, y rhai hyn oll a wnaed er dialedd.

34Dannedd bwyst-filod, ac scorpionau, a gwiberod, a’r cleddyf ydynt yn dial er dinistr ar yr annuwolion.

35Byddant lawer pan gyfodo efe.

36A pharod fyddant hwy ar y ddaiar pan fyddo rhaid wrthynt hwy, a phan ddelo eu hamser nid ant hwy tros y gorchymyn.

37Am hynny yr ymnerthais i o’r dechreuad, ac a feddyliais, ac gadewais mewn scrifen.

38Holl waith yr Arglwydd ydynt dda, ac hwy a geir wrth bob rhaid yn eu hamser.

39Ni ellir dywedyd, gwaeth yw hyn nâ hyn accw: o blegit cymmeradwy fydd pob vn yn ei amser.

40Am hynny yn awr âr galon oll ac a’r genau, canmolwch a chlodforwch enw yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help